Cerddoriaeth

RSS Icon
13 Mai 2011

Cyffro Canwr y Byd

ELENI, mae gan BBC Canwr y Byd Caerdydd 2011 gyfeilydd swyddogol newydd, sef Gary Matthewman. Bu’r Cymro yn holi beth mae’n edrych ymlaen amdano yn ei flwyddyn gyntaf gyda’r gystadleuaeth amlwg hon.

“Beth ydw i yn edrych mlaen iddo? Lle i gychwyn?!” meddai’r cyfeilydd 31 oed o Scarborough.

“Dwi’n edrych ymlaen at gael fy amgylchynu am rai dyddiau gan bobol sydd ag un peth yn gyffredin – sef eu bod yn cael eu tanio a’u cyffroi gan y cyfuniad gwefreiddiol o ganu o safon rhyngwladol a cherddoriaeth wych.

“Dwi’n edrych ymlaen at berfformio i gynulleidfaoedd gwybodus sy’n cynnwys aelodau amlwg y panel beirniadu, dilynwyr oes y gystadleuaeth, asiantau, myfyrwyr canu, athrawon canu, a ffrindiau a theuluoedd y rhai sy’n cystadlu.

“Fe fydd hefyd yn hudol i fod yn dyst i’r trafod angerddol fydd yn digwydd yn y foyers, barau a thai bwyta Caerdydd yn dilyn pob rownd!

“Dwi hefyd yn edrych ymlaen i sgôp rhyngwladol y digwyddiad, ac i’r fizz o adrenalin sy’n dod gydag unrhyw waith sy’n ymwneud â darlledu gan y BBC.

“Ac yn fwy na dim wrth gwrs, rydw i yn edrych ymlaen i’r gerddoriaeth ei hun, ac i eistedd wrth y piano gyda chantorion mor dda, yn barod i godi’r gerddoriaeth oddi ar y dudalen a rhoi bywyd iddi.

“Mi ddechreuais i ddilyn y gystadleuaeth gyda diddordeb cynyddol fel y tyfodd fy nghariad i at gerddoriaeth leisiol yn ystod fy mlynyddoedd fel myfyriwr. Er 2005 rwy’n ddilynwr brwd.”

Er iddo gyfeilio unwaith o’r blaen yn y gystadleuaeth, dyma’i dro cyntaf fel un o dri chyfeilydd swyddogol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2011.

“Y tro cynta’ y bûm i yng Nghaerdydd oedd yn 2007, pan gyfeiliais i yn y gystadleuaeth i’r soprano Ida Falk-Winland, o Sweden… Ond fydd dim llawer o amser i fynd i grwydro y tu hwnt i’r ddinas eleni - dwi’n disgwyl y bydda i a’m cydweithiwr pianyddol braidd yn rhy brysur!”


BBC Canwr y Byd 2011

Sul 12 - Sul, 19 Mehefin, 2011

Gallwch lawr lwytho ffurflen bwcio a manylion am y gystadleuaeth ar bbc.co.uk/cardiffsinger

Rhannu |