Cerddoriaeth

RSS Icon
10 Awst 2015

Gwenno yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Gwenno sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2015. Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yng Nghaffi Maes B prynhawn Gwener. Daeth yr albwm i’r brig ar ôl trafodaeth ar Faes yr Eisteddfod.

Roedd rheithgor o unigolion sy’n ymwneud gyda’r diwydiant cerdd yma yng Nghymru wedi trafod cynnyrch y flwyddyn, gyda’r albymau canlynol ar y rhestr fer:

9 Bach – Tincian (Real World)

Al Lewis – Heulwen o Hiraeth (Al Lewis)

Candelas – Bodoli’n Ddistaw (I-Kaching)

Datblygu – Erbyn Hyn (Ankst Music)

Fernhill – Amser

Gwenno - Y Dydd Olaf (Peski)

Yws Gwynedd - Codi/\Cysgu

Geraint Jarman - Dwyn yr Hogyn Nol (Ankst)

Plu – Holl Anifeiliaid y Goedwig (Sain)

R Seiliog - In HZ (Turnstyle)

Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan, “Mae’n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, ac mae’n restr eithaf gwahanol i’r llynedd. Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran cynnyrch eleni, ac mae’r amrywiaeth ar y rhestr fer yn adlewyrchu hynny. Cydiodd amryw o’r albymau yn nychymyg y rheithgor, a Gwenno ddaeth i’r brig yn ystod y sesiwn feirniadu heddiw.

“Dyma’r eildro i ni gynnig y wobr, a datblygwyd y syniad gan fod yr Eisteddfod yn awyddus i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i chreu’n ddiweddar. Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau’n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau’n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, a bwriad y wobr hon yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Enillwyd y wobr y llynedd gan The Gentle Good (Gareth Bonello) am ei albwm ‘Y Bardd Anfarwol’.”

Mae Gwenno Saunders yn gynhyrchydd cerddoriaeth, DJ, cyflwynydd radio a chantores o Gaerdydd. Mae hi wedi rhyddhau ei halbwm gyntaf unigol yn ddiweddar, sef 'Y Dydd Olaf', yn dilyn cyfres o EPs llwyddiannus - 'Chwyldro', 'Golau Arall' a 'Fratolish Hiang Perpeshki / Calon Peiriant'. Mae'n siarad Cymraeg a Chernyweg ac mae ei cherddoriaeth yn trosi ei dylanwadau rhyngwladol i mewn i synau electronig lo-fi sy’ wedi’u lapio mewn llais adleisio a churiadau musique concrète.

Rhannu |