Cerddoriaeth

RSS Icon
16 Gorffennaf 2015

Ail albwm Aled

Dyma ail albwm y tenor o Lanbryn-mair, Aled Wyn Davies, yn dilyn llwyddiant ei CD cyntaf, Nodau Aur fy Nghân, ychydig flynyddoedd yn ôl.

Mae Erwau’r Daith yn cynnwys 17 o ganeuon, o’r hen i’r newydd, gyda chaneuon Eidaleg, Sbaeneg, Saesneg â Chymraeg. Ceir ffefrynnau fel Arafa Don; Galwad y Tywysog; I’ll Walk with God a Granada i enwi dim ond rhai, ond hefyd ceir caneuon modern fel cân Leonard Cohen, Haleliwia; y ddeuawd arbennig, Y Weddi, gyda’r gantores Sara Meredydd; yn ogystal â Gweddi Daer, sef cyfieithiad hyfryd Karina Wyn Dafis, gwraig Aled, o gân Alison Krauss, A Living Prayer.

Bydd yna hefyd gyfle arbennig i wrando ar y gân newydd, Y Goleuni, sef recordiad cyntaf Tri Tenor Cymru ers i Aled ymuno â Rhys Meirion ac Aled Hall yn ddiweddar.

Bydd Aled yn teithio i Ffrainc a Gwlad Belg yn fuan fel gwestai gwadd ar daith dramor blynyddol Côr Orffews Treforys; mae wrth ei fodd yn teithio’r byd yn perfformio ond hefyd yr un mor hapus yn ffermio adre gyda’i deulu yn Pentremawr, Llanbryn-mair.

Dyma gyfle arbennig i wrando ar lais yr amaethwr o Faldwyn sy’n mwynhau cyfuno’i waith fel ffermwr â’i ddoniau cerddorol fel unawdydd o’r radd flaenaf.

Bydd Aled yn lansio’r CD yn swyddogol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r fro, Dydd Sadwrn Awst y 1af wrth iddo berfformio yn agoriad swyddogol pabell y dysgwyr – Maes D. 

Rhannu |