Cerddoriaeth

RSS Icon
06 Mai 2011

Noson i ddathlu Ffoaduriaid

BYDD Steve Eaves yn chwarae gig acwstig yn Y Drwm, yr awditoriwm bach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, nos Wener, 13 Mai.

Mae’r Drwm yn ofod arbennig sy’n cynnig awyrgylch braf a phrofiad agos-atoch-chi i berfformwyr a’r gynulleidfa.

Dyma’r noson gyntaf mewn cyfres o gigs gan Steve i ddathlu cyhoeddi Ffoaduriaid, casgliad pump cryno ddisg o hen recordiadau Steve a’r band.

Mae band arferol Steve yn cynnwys rhai o gerddorion gorau’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru, a bydd dau ohonynt yn ymuno efo Steve nos Wener nesaf am y gig arbennig yma – y cerddor a chynhyrchydd amryddawn Elwyn Williams (gitâr / llais) a’r baswr gwych ‘Funky’ Pete Walton (bâs dwbl).

Perfformiad: 7.30-9.15yh; mynediad £8. Tocynnau ar gael yma http://www.llgc.org.uk/index.php?id=158&L=1

Rhannu |