Cerddoriaeth

RSS Icon
06 Gorffennaf 2015

Shân Cothi yn dychwelyd gyda’i halbwm cyntaf ers 10 mlynedd

Mae’r soprano Gymraeg o fri, Sh?n Cothi, wedi datgelu manylion am ei halbwm newydd, y cyntaf ers deng mlynedd – ‘Paradwys’ – ynghyd â'i chynlluniau am daith unigryw o gwmpas eglwysi a chapeli Cymru.

Bydd yr albwm, y cyntaf ers  yr albwm canmoledig  ‘Passione’ ym 2005, yn cael  ei ryddhau ym mis Medi gyda’r daith yn dilyn ym Medi ,Tachwedd a Rhagfyr.

Fe’i recordiwyd yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch, Caerdydd, sy’n eiddo i’r delynores ryngwladol Gymraeg Catrin Finch a’i gŵr Hywel Wigley. Darparwyd y gerddoriaeth ar gyfer yr albwm gan nifer o gerddorion disglair  gan gynnwys y delynores ryngwladol  a’r cyn Delynores Frenhinol Catrin Finch, sydd i’w chlywed ar sawl trac gan gynnwys un a gyfansoddodd hi ei hunan, sef ‘Feeling Alive’.

Aeth Catrin at Sh?n yn gynharach eleni gyda’i chyfansoddiad gan awgrymu comisiynu bardd i ysgrifennu ychydig o eiriau a phenillion, ond yn nodweddiadol o Sh?n, penderfynodd roi cynnig arni ei hunan a thros gwpwl o wythnosau cyd-ysgrifennu’r geiriau i’r trac ‘Feeling Alive’.Yn ogystal â hyn, fe geir  deuawdau ar yr albwm gan y seren opera ryngwladol a’r soprano Rebecca Evans a’r darlledwr teledu a radio Wynne Evans. 

D’wedodd Sh?n: "Ar hyd y blynyddoedd, rwy wedi casglu at ei gilydd  ystod  eitha  eang o ganeuon, emynau ac arias ac ar y dechrau roedd hi’n dipyn o her i ddewis repertoire. Beth bynnag, gydag  amser,  daeth yna un thema i’r amlwg – un o lonyddwch, o ymlacio a myfyrio, ond eto yn llawn bywyd, ac mae hyn i’w deimlo’n glir ar draws llif yr albwm.

"Un funud rydych chi ym mharadwys yn nofio yng nghanol  synnau llinynnol,  y delyn a'r piano, a'r funud nesaf rydych chi mewn gorffwylltra  o angerdd Cymraeg gwyllt yn canu nerth  eich pen gan godi hwyl."

Mae’r albwm hefyd yn cynnwys y Nidum Ensemble – sef cerddorion  dethol o gerddorfeydd megis  Cerddorffa Symffoni Llundain,  Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl – a cherddorion megis y soddgrythor Steffan Morris a’r fiolinyddion Rhys Watkins, Rakhi Singh a Benjamin Baker.  Hefyd, yn cyfeilio mae’r pianydd gwych Jeff Howard sydd wedi cyfeilio i Sh?n nifer o weithiau ar hyd y blynyddoedd ac mae e hefyd yn gyfrifol am ddau o’r trefniannau cerddorol ar yr albwm.

Ychwanegodd Sh?n: "Mae’r criw yma wedi creu sain na chlywais ei thebyg o’r blaen. Maen nhw’n dalentog a phroffesiynol iawn ac o ganlyniad, roedd y broses o recordio yn un hamddenol a phleserus. Dw i ddim yn teimlo’n gyffyrddus iawn fel arfer mewn stiwdio recordio achos mae’n llawer gwell gen i ‘r adrenalin sy’n dod wrth berfformio ar lwyfan fawr o flaen gynulleidfa fyw. Mwy na thebyg, roedd hwnna’n un o resymau pam ron i  wedi  osgoi recordio albwm, ond roedd y bois’ma yn ffantastig ac mi roedd hi’n bleser i weithio gyda nhw."

John Quirk,  sydd hefyd  wedi gweithio gyda Sh?n nifer o weithiau ar hyd y blynyddoedd, oedd cyfarwyddwr cerdd y prosiect, a’i drefniannau ef  oedd wedi ennyn y gorau yn llais Sh?n oherwydd ei ddewis cywir o gywair, tempo, sain ac egni.

Gwesteion  Arbennig

Bydd Rebecca Evans, Catrin Finch a Wynne Evans hefyd yn perfformio gyda Sh?n ar y daith yn ogystal â'r Delynores Frenhinol bresennol Hannah Stone, y tenor Aled Hall a chorau plant/ ieuenctid lleol.

Y Daith

Yr ysbrydoliaeth  tu ôl i daith Sh?n oedd yr awydd i fynd â cherddoriaeth  o safon fyd-eang i gymunedau gwledig Cymru, nid dim ond i brif ddinasoedd y De. Bydd Sh?n yn ymweld â lleoliadau megis eglwysi hynafol ac eglwysi cadeiriol sy’n cynnig awyrgylch unigryw ac acwsteg  wych.

Gellir prynu tocynnau ar-lein o www.acapelaconcerts.com neu gan adwerthwyr lleol gwelir y wefan am fwy o wybodaeth.

Dyddiadau’r daith:

Taith 'Paradwys':

MEDI:

Nos Sul Medi 27 – Llanymddyfri (Eglwys Llandingat)

TACHWEDD:

Nos Wener 6 Tach  - Rhuthun (Eglwys Sant Pedr)

Nos Sadwrn 7 Tach - Bangor (Cadeirlan Bangor)

Nos Sul 8 Tach - Llanfair Caereinion (Eglwys Y Santes Fair)

Nos Wener 27 Tach - Castell Nedd (Eglwys Dewi Sant)

Nos Sadwrn 28 Tach - Aberteifi (Eglwys Y Santes Fair)

Nos Sul 29 Tach - Llangennech, Llanelli (Capel Salem)

RHAGFYR:

Nos Sadwrn 5 Rahg - Penarth, Caerdydd (Eglwys yr Holl Saint)

Nos Sul 20 Rhag - Aberaeron (Eglwys y Drindod) 

Rhannu |