Cerddoriaeth

RSS Icon
26 Mehefin 2015

Caneuon o’r enaid gan ganwr sydd wedi ei enwebu am wobr Grammy

Mae canwr sydd wedi cael ei enwebu am wobr Grammy yn dod â’i gerddoriaeth unigryw a theimladwy i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Bydd Andrew Duhon, sy’n 30 oed, ac yn hanu o New Orleans, Louisiana, yn darparu’r adloniant cyn i’r enwog Burt Bacharach ymddangos ar lwyfan y pafiliwn ddydd Llun, 6 Gorffennaf. 

Yn ôl Andrew, sy’n chwarae’r gitâr a’r harmonica, y cyfle i berfformio yn Eisteddfod Llangollen fydd uchafbwynt ei daith 20-gig ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Meddai: “Dydw i erioed wedi cyfarfod Burt Bacharach ond mae cael gwahoddiad i berfformio mewn digwyddiad mor arbennig â Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel gwireddu breuddwyd. Mae Bacharach yn arwr; does dim amheuaeth am hynny."

Mae’r Eisteddfod ei hun yn dechrau ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf, ac yn para tan ddydd Sul, 12 Gorffennaf. Mae'n debyg mai un o’r cyngherddau mwyaf poblogaidd yw cyngerdd nos Iau lle bydd Jonathan Antoine, seren o’r rhaglen, Britain’s Got Talent yn ymuno ar y llwyfan gydag Alfie Boe.

Ymysg y prif uchafbwyntiau cerddorol eraill bydd y canwr a’r cyfansoddwr Rufus Wainwright, yr arweinydd corau Gareth Malone, a’r cyn delynores Frenhinol Catrin Finch.

Artist poblogaidd arall fydd Ali Campbell,  prif leisydd UB40 sydd wedi gwerthu 70 miliwn o recordiau. Bydd yn ailymuno ar lwyfan yr Eisteddfod gyda dau o aelodau gwreiddiol y grŵp, sef Astro, yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r lleisydd, a Mickey ar yr allweddellau.

Yn ôl Duhon, y canwr-gyfansoddwr, penderfyniad mympwyol oedd dod i’r Deyrnas Unedig, gan ei fod yn ysgrifennu ac yn mwynhau cerddoriaeth werin sydd â’i gwreiddiau ym mherfeddion Taleithiau’r De yn America.

Meddai: “Rwy’n enaid rhydd ac rwy’n cael fy ysbrydoli gan unrhyw beth sydd â rhywbeth i’w ddweud wrth bobl eraill. Os yw’n onest, byddaf yn ceisio ei gyfleu mewn geiriau.

“Dechreuais gyda llenyddiaeth a barddoniaeth cyn troi at gerddoriaeth. Rwyf wrth fy modd gyda geiriau a gwthio’r ffiniau i weld faint o ystyr sydd ymhlyg yn y geiriau hynny.

“Mae'n debyg fy mod wedi cael fy nylanwadu gan Bob Dylan, Robert Frost, a hyd yn oed Cat Stevens a gyfansoddai ganeuon yn fyrfyfyr.

“Rwy’n hoff o ddefnyddio geiriau a gweld pa mor agos y galla i gysylltu ag enaid rhywun. Fel cyfansoddwr mae’n ffordd dda i helpu pobl i wrando ar ganeuon sy’n dweud rhywbeth, sydd â neges am ddynoliaeth.”

“Dyna un o’r rhesymau pam yr wyf yn hoffi mynd i’r Deyrnas Unedig. Wrth ddilyn llwybr cerddoriaeth werin sylweddolais, waeth pa mor hen oedd cerddoriaeth perfeddion De America, fod y llwybr hwnnw’n arwain i’r Deyrnas Unedig lle mae traddodiadau gwerin sydd hyd yn oed yn hŷn.

“Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu cymaint yn y Deyrnas Unedig am ddiwylliant a cherddoriaeth. Rwy’n hoffi meddwl fy mod yn mynd â rhan o berfeddion De America gyda mi ac yn dod â rhywbeth yn ôl adref ar ôl cael fy ysbrydoli gan fy mhrofiadau.”

“Ar ôl rhyddhau tair record, gyda’r olaf -The Moorings – wedi ei henwebu am wobr Grammy, a oedd yn golygu llawer i mi, rwy’n teimlo y dylwn i deithio llai ar ôl yr haf er mwyn gorffen y caneuon sydd ar eu hanner, sy’n dal yn fy mhen bob dydd.

“Rwy’n teimlo’r angen i ychwanegu deunydd newydd at fy nghasgliad o ganeuon a chanu am fwy o straeon am fywyd ac emosiynau pobl. Ond i ddechrau, mae angen i mi ddilyn yn llwybr sy’n arwain at fwy o wreiddiau’r traddodiad gwerin a bydd hynny’n golygu bod angen oedi yn Llangollen.”

Mae Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerddorol Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yn falch dros ben i allu croesawu artist o safon Duhon i’r ŵyl.

Meddai: “Mae gan Andrew Duhon lais hyfryd a dawn i ysgrifennu caneuon emosiynol sy’n cael effaith wirioneddol ar y rhai sy’n gwrando arnynt.

“Mae Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn awyddus i gyflwyno gwahanol genres i gynulleidfa ehangach ac mae'n wych cael artist fel Andrew Duhon, sydd wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Grammy, yr un noson ag artist mor adnabyddus â Burt Bacharach.

“Byddai’n werth dod i wrando ar Andrew Duhon yn perfformio ar ei ben ei hun, mae ei ganeuon yn gwneud i’r gynulleidfa feddwl yn ogystal ag eisiau canu gydag ef.”

Ychwanegodd: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol eleni’n addo bod yn ŵyl arbennig iawn ac mae cael cyngerdd agoriadol gyda Burt Bacharach ac Andrew Duhon ar lwyfan yn yr awyr agored ymlaen llaw yn wych ac yn noson na ddylid ei cholli.”

I archebu tocynnau ac am fwy o fanylion am ŵyl Gorffennaf 2015 ewch i’r wefan ar www.international-eisteddfod.co.uk

Rhannu |