Cerddoriaeth

RSS Icon
24 Mehefin 2015

Rhyddhau sengl gyntaf Patrobas

Patrobas, y grŵp gwerin cyfoes o Benllŷn ydy’r diweddaraf i ryddhau eu sengl gyntaf trwy gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Bydd ‘Meddwl ar Goll’ yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar ddydd Llun 29 Mehefin, ac ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol gan gynnwys iTunes, Spotify ac Amazon.

Sengl Patrobas fydd y seithfed i’w rhyddhau fel rhan o’r cynllun Clwb Senglau sy’n bartneriaeth rhwng cylchgrawn Y Selar a label Rasal, a sydd â’r nod o ryddhau cynnyrch cyntaf artistiaid Cymraeg addawol.

Pwy ydy Patrobas?

Patrobas ydy Wil Chidley (Gitar, Llais, Banjo, Mandolin) o Tudweiliog, Iestyn Tyne (Ffidil, Mandolin) o Boduan, Carwyn Williams (Gitar fás) o Morfa Nefyn a Ronw Roberts (Drymiau) o Rhoshirwaun.

Mae’r aelodau i gyd yn gyn ddisgyblion Ysgol Botwnnog, ond bellach yn dilyn cyrsiau addysg bellach yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai.

Ymysg eu dylanwadau, mae Patrobas yn rhestru grwpiau fel Old Crow Medicine Show a Mumford and Sons. A hwythau’n grŵp ifanc o Lŷn mae’n debyg nad yw’n syndod bod Cowbois Rhos Botwnnog yn un o’r grwpiau Cymraeg sydd wedi dylanwadu arnyn nhw, yn ogystal â Gai Toms.

Mae sŵn y grŵp yn un eithaf unigryw - mae’r dylanwadau gwerin yn amlwg, ond wedi plethu gyda hynny mae sŵn roc sy’n creu potes ddiddorol gyda digon o fynd i’r gerddoriaeth.

Amrywiaeth

Yn ôl Uwch Olygydd cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone, mae rhyddhau sengl ‘Meddwl ar Goll’ yn cynnig rhagor o amrywiaeth i gynllun Clwb Senglau’r Selar.

“Rydan ni wedi rhyddhau senglau gan grwpiau pop-indî fel Terfysg ac Y Trŵbz, roc-pynci gan Henebion a Cpt Smith, a sŵn mwy amgen Estrons ac Ysgol Sul fel rhan o’r cynllun yma. Mae sŵn mwy gwerinol Patrobas yn cynnig mwy o amrywiaeth eto i gasgliad Clwb Senglau’r Selar ac rydan ni’n falch iawn i ryddhau cynnyrch cyntaf y grŵp addawol yma.”

Mae Patrobas yn falch iawn o’r cyfle i ryddhau eu sengl gyntaf fel rhan o’r cynllun,

“Dwi'n teimlo fod cydweithio gyda'r Selar a Rasal ar y sengl yma wedi rhoi cyfle i ni recordio mewn sefyllfa broffesiynol na fyddai'n bosib fel arall,” meddai Iestyn Tyne o’r grŵp.

“Allwn ni ond gobeithio rŵan y bydd pobl yn licio'r sŵn ac yn dod nôl am fwy!”

Bydd gig lansio swyddogol y sengl newydd yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon mewn cydweithrediad â chriw 4 a 6 ar nos Sadwrn 11 Gorffennaf gydag Y Chwedlau yn cefnogi Patrobas.  

Bydd ‘Meddwl ar Goll’ gan Patrobas ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol o 29 Mehefin ymlaen. Bydd modd clywed y sengl am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru nos Fercher 24 Mehefin.

Rhannu |