Cerddoriaeth

RSS Icon
11 Mehefin 2015

Yucatan - Uwch Gopa'r Mynydd

O dan wybren darthog, ar odre copaon o lechi llwyd ac o ble y coda gân o grombil y pridd, bu Yucatan yn creu hwiangerddi soniarus, arallfydol ers 2006, yn deillio o awch i greu cerddoriaeth haniaethol ac arwrol.

Rhyddhawyd 'Yucatan' gan y band yn 2007, a ddilynwyd gan 'Uwch Gopa'r Mynydd', ail albwm y band yn Haf 2015. Bydd cynulleidfaoedd ledled Prydain ac Ewrop sydd wedi profi eu perfformiadau byw godidog, o offeryniaeth ysgubol, corau fry ac alawon llinynnau huenig, yn cael gwneud hynny eto gyda Yucatan yn ymddangos yn y prif wyliau a lleoliadau detholedig eraill.

Creuwyd ail albwm Yucatan sef ‘Uwch Gopa'r Mynydd’ yn Eryri gan y pedwarawd. Mae’n cynnwys wyth cân ac yn cael ei ryddhau ar ddydd Llun yr 22ain o Fehefin 2015.

Dan arweiniad calon farddonol a meddwl cerddorol Dilwyn Llwyd, mae'r pedwarawd Osian Howells, Gwyn Llewelyn ac Iwan Huws wedi datgelu campwaith o offeryniaeth ysgubol, corau swynnol a trefnniadau llinynnol epic.

Cafodd yr albwm ei chyfansoddi a recordio yng Ngogledd Cymru trwy gydol 2014, yn dilyn llwyddiant albwm cyntaf hunan-enw y band o 2007, sy'n enwog am gael ei meistroli yn stiwdio Sigur Ros.

Mae pob un ond un o'r traciau (heblaw Word Song) yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff llais ysgafn Llwyd, a gyflwynir mewn arlliwiau cynnil ei osod yn erbyn cefndir o alawon gwlith y bore y band, ac yn datgelu y teimladau mwyaf nefol gerddorol.

Cynhyrchwyd a chymsgwyd yr albwm ym Mryn Derwen, Bethesda gan David Wrench. Rhyddhawyd sengl cyntaf o'r albwm, sef Angharad ar ddydd Llun 1af Mehefin, 2015.

Mae'r band wedi denu sylw canwr The Charlatans sy’n berfformiwr unigol a pherchennog siop goffi achlysurol, sef Tim Burgess yn dilyn cyfarfod yn ystod haf 2014.

Meddai: “Such a good album. There's a magic to Yucatan's music. A kind of uplifting melancholy that takes you to beautiful places."


 

Rhannu |