Cerddoriaeth
Rufus Wainwright i serennu yn Llangollen
Mae’r canwr-gyfansoddwr Rufus Wainwright a fu’n cydweithio â Robbie Williams ar ei albwm diweddaraf yn dod â’i ddawn unigryw i Ogledd Cymru.
Mae wedi ysgrifennu opera yn Ffrangeg, mynd i bartis gyda merch George W Bush ac ymddangos ochr yn ochr â Jennifer Saunders a Joanna Lumley ar Absolutely Fabulous ac yn awr mae ar fin ymddangos ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.
Yn fab i’r cewri canu gwerin Loudon Wainwright III a Kate McGarrigle, bydd Rufus yn serennu yng nghyngerdd nos Wener yn y 69fed Eisteddfod eleni sy’n agor ar ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf, ac yn parhau tan ddydd Sul 12 Gorffennaf.
Yn ei ymddangosiad cyntaf yng Ngogledd Cymru mae Rufus, sydd a’i wreiddiau yn America a Chanada, yn addo cymysgedd eclectig o genres cerddorol - o ganu pop i opera. Ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad gan fod cynulleidfaoedd yng Nghymru, yn ei farn ef, yn unigryw a ‘gwahanol’.
Dywedodd Rufus, wrth siarad o’i gartref yn Toronto, ei fod wedi perfformio yng Nghaerdydd a mwynhau taith yn gyrru o gwmpas Cymru, ond roedd y cyfle i ymddangos ar lwyfan Llangollen, gan ddilyn yn ôl traed cewri cerddorol fel Pavarotti a Carreras yn gyfle rhy dda i'w golli.
Meddai: “Mae yna rywbeth am Gymru, mae cynulleidfaoedd yn wahanol yno rywsut. Mae fel pe bai ganddynt anian greddfol ar gyfer cerddoriaeth ac maent yn gwerthfawrogi perfformiad mewn ffordd wahanol. Er eu bod mor agos yn ddaearyddol, mae cynulleidfaoedd yn Lloegr, yr Alban, a hyd yn oed Iwerddon i gyd yn wahanol.
“Gall cynulleidfa Gymreig fod yn eithaf swnllyd a llafar ond yna maen nhw’n toddi a distewi wrth glywed cerdd neu ddarn o gerddoriaeth arbennig. Mae rhywbeth hynod uniongyrchol am y profiad.
“Felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymddangos yn Llangollen yn enwedig ar ôl dysgu mwy am hanes yr ŵyl. Mae edrych ar y rhestrau hir o berfformwyr sydd wedi ymddangos yno yn y gorffennol fel darllen rhestr o oriel anfarwolion y byd cerddorol – mae yna gymaint o enwau mawr a dylanwadol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr.”
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod: “Rydym wrth ein boddau i gael Rufus Wainwright fel rhan o’r arlwy ar gyfer gŵyl eleni ac i serennu yng nghyngerdd nos Wener.
“Mae ei ddoniau yn rhychwantu ystod mor eang o genres cerddorol ond yr hyn sy’n sefyll allan yw ansawdd yr hyn y mae’n ei wneud, a dyna beth rydym yn ymroddedig i’w sicrhau yn Llangollen.”
Mae’r sêr fydd yn ymddangos ar lwyfan Llangollen eleni hefyd yn cynnwys y cyfansoddwr byd enwog Burt Bacharach, a fydd yn agor yr ŵyl ar ddydd Llun 6 Gorffennaf, a’r tenor clasurol nodedig Alfie Boe, fydd yn perfformio caneuon o sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Yn cloi’r ŵyl ar nos Sul Gorffennaf 12 fydd yr enwog Ali Campbell, llais y band UB40 a werthodd 70 miliwn o recordiau, ac yn ailymuno ag ef ar lwyfan yr eisteddfod fydd dau arall o aelodau gwreiddiol UB40 – yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r canwr Astro a’r chwaraewr bysellfwrdd Mickey.
Ganwyd Rufus yn Efrog Newydd yn 1973, roedd yn fab i’r cantorion gwerin, y diweddar Kate McGarrigle a Loudon Wainwright III. Cafodd ei wers biano gyntaf yn chwech oed ac erbyn wyth oed roedd yn ymddangos yn rheolaidd ar y llwyfan gyda’r Chwiorydd a Theulu’r McGarrigle ochr yn ochr â’i fam, ei chwaer Martha, a’i fodryb Ann.
Mae bellach wedi rhyddhau saith albwm stiwdio a thri albwm byw, gan gynnwys ‘Rufus does Judy’, teyrnged i’r eicon hoyw Judy Garland a recordiwyd yn Carnegie Hall, Efrog Newydd yn 2006, ac a enwebwyd am wobr Grammy.
Mae Rufus wedi cydweithio gyda nifer o brif artistiaid y byd gan gynnwys Elton John, Joni Mitchell, y Pet Shop Boys, Burt Bacharach ac yn fwy diweddar ef oedd cyd-awdur prif gân albwm ddiweddaraf, Robbie Williams ‘Swings Both Ways’, gan ganu deuawd gyda Williams ar y gân.
Mi wnaeth hyd yn oed ymddangosiad cameo ar gomedi’r BBC ‘Absolutely Fabulous’ yn 2002 er bod ei atgofion o’r peth yn niwlog, a chyfaddefodd: “Roeddwn yn eithaf allan o ‘mhen ar y pryd.”
“Mi wnaethon nhw gysylltu â mi. Ac fel unrhyw ddyn hoyw sydd wedi cael magwraeth dda roedd gen i obsesiwn â’r rhaglen a byddwn wedi lladd fy mam i ymddangos arni.”
Fel aelod o deulu amlwg yn y byd canu gwerin mae hefyd wedi partio gyda phobl fel Marianne Faithful a Barbara merch yr Arlywydd George W Bush, a brwydro hefyd yn erbyn ei ddibyniaeth ar crystal meth, ond mae bellach wedi setlo’n hapus i fywyd teuluol gyda’i ŵr, a’i ferch a gafodd gyda Lorca, merch Leonard Cohen.
Ond yn ogystal â bod yn berfformiwr cerddoriaeth boblogaidd enwog mae Rufus yn un o’r artistiaid pryn hynny sy’n gallu croesi yr un mor llwyddiannus i’r byd clasurol.
Perfformiwyd ei opera gyntaf, Prima Donna, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Manceinion 2009 gan ennill canmoliaeth uchel ac ers hynny fe’i perfformiwyd yn Llundain, Toronto ac Efrog Newydd.
Yn 2010 cafodd ei gomisiynu gan Symffoni San Francisco i gyfansoddi a dehongli pump o Sonedau Shakespeare ar ffurf cyfres o bum cân i gerddorfa a llais, ac ers hynny mae'r darnau wedi cael eu perfformio ledled y byd
Mae Cwmni Opera Canada hefyd wedi comisiynu ei ail opera, a fydd yn ymwneud â bywyd yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian ac yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Toronto yn hydref 2018.
Ychwanegodd Rufus: “Mi fydd Llangollen yn brofiad arbennig ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Rwy’n deall bod y tenor Noah Stewart wedi swyno’r gynulleidfa drwy ganu yn Gymraeg yn y ddwy flynedd diwethaf.
“Mae hynny yn dipyn o her, ond o leiaf mae gen i ychydig o amser. Bydd yn rhaid i mi weld beth fedra i wneud. Efallai y caf i ychydig o help a chymorth gan fy ffrind agos yr actores Gymraeg Siân Phillips!”
Bydd yr Eisteddfod hefyd yn cynnwys Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ac yna cyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr fydd yn cynnwys llond pafiliwn o dalent ryngwladol.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys perfformiadau cyntaf Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.
Bydd Categori Agored dydd Gwener yn arddangos arddulliau cerddorol fel canu gospel, canu barbershop, jazz, pop a glee a bydd hefyd yn gweld pwy yw enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu yn un o’r cyngherddau nos yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad Rhuban Glas, sef cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, yn cael ei gynnal ar nos Sadwrn, yn ogystal â rownd derfynol Dawns Lucile Armstrong ac ar y dydd Sul bydd naws ymlaciol ac anffurfiol i ddigwyddiad Llanfest cyn cyrraedd uchafbwynt cyngerdd olaf yr Eisteddfod.
I archebu tocynnau a chael mwy o fanylion am ŵyl 2015 ewch i’r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk