Cerddoriaeth
Byw rhwng dau le ond yn hapus ei fyd
MAE Al Lewis yn ddigon bodlon ei fyd. Mae newydd ennill gwobr Artist Gwrywaidd y Flwyddyn, Gwobrau RAP (roc a phop) BBC Radio Cymru, mae o’n byw yn Llundain, yn gigio yng Nghymru sawl penwythnos o’r bron, ac yn ennill ei fara menyn fel cerddor llawn-amser.
Ond mae’n gorfod cydnabod na fyddai byw felly’n bosib pe na bai’n cyfansoddi yn Saesneg hefyd a bod rhai o’i ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio 2 o dro i dro. Dyna’r realiti ariannol i gerddorion fel fo y dyddiau hyn.
Mae’r canwr-gyfansoddwr a gafodd ei fagu yn Abersoch ac yna yn Abergele, newydd ryddhau ei albwm Cymraeg diweddaraf, Ar Gof a Chadw, ac mae nifer o’r traciau yn cael eu chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru. Ond dydi hynny ddim yn debygol o gadw’r blaidd o’r drws.
“Mae’n anodd ffeindio’r cydbwysedd rhwng be’ sydd gen i hawl i’w ennill, a be’ sy’n deg i’w hawlio,” meddai Al Lewis wrth Y Cymro.
“Dw i ddim isio rhoi’r argraff bod cerddorion yn teimlo’n sori drostan ni’n hunain, achos dw i’n gwbod, yn y sefyllfa gyffredinol, bod petha’n ddrwg ar bawb ar hyn o bryd.
“Ond mae yna bwyntiau i’w gwneud efo PRS (y taliad y mae cerddor neu berfformiwr yn ei gael bob tro y mae cân yn cael ei chwarae ar radio neu deledu) ac mae angen sortio’r peth,” meddai, “ac mae angen ffeindio ffordd o wneud yn siŵr fod cerddorion yn derbyn tâl iawn am eu gwaith.
“Mae yna gymaint o bobol yn lawrlwytho cerddoriaeth oddi ar y we rŵan, am ddim, a dydi’r cerddorion ddim yn cael dim byd pan mae hynny’n digwydd.
“Mae angen rhoi’r gwerth yn ôl i gerddoriaeth,” meddai Al Lewis. “Fy ngobaith i ydi y byddwn ni’n sefydlu rhyw drefn lle mae cerddorion yn cael eu talu’n well. Ond dw i’n deud eto, mae angen trio cydbwyso hynny efo faint sy’n iawn i bobol dalu am gerddoriaeth… achos mae pawb mewn trafferthion.”
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA