Cerddoriaeth

RSS Icon
26 Mawrth 2015

Sengl gyntaf Henebion allan

Mae sengl gyntaf y grŵp o Fachynlleth, Henebion, ‘Mwg Bore Drwg’ wedi ryddhau ddoe fel y diweddaraf o ganeuon Clwb Senglau’r Selar.

Mae’r sengl bellach ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth digidol – iTunes, Spotify ac Amazon.

Fel rhan o lansiad y sengl newydd fe fyddan nhw’n cefnogi Candelas mewn gig yng Nghlwb Rygbi COBRA ym Meifod nos Wener yma, 27 Mawrth.

Yn addas iawn, Ifan Jones, gitarydd Candelas, sydd wedi cynhyrchu ‘Mwg Bore Drwg’ yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.

Pwy ydy Henebion?

Mae Henebion yn grŵp tri aelod o Fachynlleth sef Kristian Jones (gitâr a phrif lais), Jake Hinge (gitâr fas) a Dio Davies (drymiau).

Ffurfiwyd y grŵp ym mis Gorffennaf 2014, yn wreiddiol dan yr enw Dio’s Basement … gan eu bod yn ymarfer yn Selar tŷ Dio … cyn setlo ar yr enw Henebion.   

Mae Henebion yn disgrifio eu hunain fel ‘band roc’ ac yn rhestr grwpiau fel Nirvana, Green Day, Blink-182, ac wrth gwrs Candelas, ymysg eu dylanwadau.

Cyfle Gwych

Yn ôl drymiwr y grŵp, mae’r profiad o recordio’r sengl newydd wedi bod yn un gwerthfawr i Henebion.

“Mae Clwb Senglau'r Selar wedi rhoi cyfle gwych i ni fynd mewn i stiwdio broffesiynol i recordio am y tro cyntaf, ac i weithio gyda chynhyrchydd fel Ifan,” meddai Dio Davies.

“Mae wedi bod yn brofiad arbennig o dda i ni, a gobeithio bydd modd i ni ddatblygu fel band o ganlyniad i'r profiad."

Clwb Senglau’r Selar

Lansiwyd Clwb Senglau’r Selar ym mis Tachwedd, mewn partneriaeth â label Rasal, fel rhan o ddathliadau 10 mlynedd Y Selar.

Y sengl gyntaf i’w rhyddhau oedd ‘C-C-CARIAD’ gan Estrons, ac ers hynny mae’r clwb wedi rhyddhau ‘Tyrd yn Ôl’ gan Y Trŵbz, ac ‘Aberystwyth yn y Glaw’ gan Ysgol Sul.

Mae ‘Mwg Bore Drwg’ gan Henebion yn ymuno a’r rhestr ac ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol ar iTunes, Amazon a Spotify.

 

Rhannu |