Cerddoriaeth

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Gŵyl Gwydir 2014 – “Y Gorau Eto”

Gyda rhai o brif enwau cerddoriaeth Cymru wedi eu cyhoeddi yn barod ar gyfer yr wyl eleni, mae Gŵyl Gwydir wedi cyhoeddi manylion llawn y penwythnos.

Yn ymuno gyda Gruff Rhys, Candelas, Keys, Gwenno, Sŵnami, a Colorama bydd 13 o artisitiad eraill yn perfformio yng nghysgod Coedwig Gwydir:

Cowbois Rhos Botwnnog, Sen Segur, Trwbador, Memory Clinic, Yr Eira, Houdini Dax, R.Seiliog, Siddi, Plu, Seazoo, Y Reu, Chris Jones a Palenco.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Gwion Schiavone: “Dyma’r gorau eto dwi’n meddwl. Mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn gyffrous iawn ar hyn o bryd, ac mae’r lein-yp eleni yn sicr yn adlewyrchu hyn.

"Mae cymaint o amrywiaeth a thalent yma yng Nghymru, ac mae’n fraint i ni fel criw Gwydir gael rhoi llwyfan iddynt yn ein gardd gefn!”

Mae’r ŵyl wedi tyfu yn raddol ac yn naturiol dros y blynyddoedd diwethaf ers ei sefydlu yn 2009, ac mae bellach yn un o brif ŵyliau cerddoriaeth bychan y wlad.

“Wrth gwrs mae cael croesawu Gruff Rhys i’r ŵyl yn achlysur arbennig iawn ynddo'i hun, ond dwi'n meddwl mai safon uchel cyffredinol yr arlwy, a theimlad cartrefol yr ŵyl sy'n ei wneud mor boblogaidd,” ychwanegodd Gwion.

Mae'r tocynnau penwythnos, gyda nifer cyfyngedig o docynnau pris gostyngedig 'Carw Cynnar', nawr ar werth, yn ogystal â thocynnau diwrnod.

Rhannu |