Cerddoriaeth

RSS Icon
24 Ebrill 2014

Gruff Rhys yng Ngŵyl Gwydir 2014

Bydd Gŵyl Gwydir yn ôl ddiwedd mis Awst eleni eto, gyda’r lein-yp gorau eto a fydd yn cynnwys yr anifail athrylithgar, Gruff Rhys ynghyd â nifer o artistiaid gwych eraill.

I gyd-fynd â’i albwm newydd, American Interior, bydd Gruff Rhys yn chwarae nifer cyfyngedig o ddigwyddiadau, ac mae’n bleser mawr gan Gŵyl Gwydir ei groesawu i Ddyffryn Conwy eleni.

Hefyd yn chwarae dros y penwythnos bydd rhai o brif artistiaid y sin gerddoriaeth Gymreig, gan gynnwys Candelas, Keys, Gwenno, Sŵnami, Colorama a llawer iawn mwy.

Bydd y lein-yp llawn yn cael ei gyhoeddi diwedd mis Mai, felly dilynwch yr ŵyl ar twitter (@GwylGwydir) a facebook, neu gadw llygad ar y wefan (gwylgwydir.com) am fanylion pellach yn nes at yr amser.

Cynhelir yr ŵyl, sydd bellach yn ei 6ed blwyddyn ac wedi hen sefydlu ei hun fel un o brif wyliau bychain musos Cymru, dros benwythnos Awst 29 a 30 yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Tocynnau Carw Cynnar
I’r ceirw cynnar yn eich mysg, bydd 100 o docynnau 'cyntaf i'r felin' am bris gostyngedig ar werth o 9yb 24 Ebrill, ac ar gael o Siop Bys a Bawd (Llanrwst) neu wefan Sadwrn.com. Bydd y tocynnau penwythnos yn £24 (heb gynnwys gwersylla).

Rhannu |