Cerddoriaeth
Diva jazz o’r Iseldiroedd yn addo noson i'w chofio yn Llangollen
Mae’r diva jazz Caro Emerald yn addo noson i'w chofio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni wrth i'r ŵyl fyd-enwog ddod gael blas o jazz yr haf hwn.
Mae'r nefolaidd Miss E, y seren ryngwladol Caroline Esmeralda van der Leeuw, sy'n fwy adnabyddus fel Caro Emerald, am ffrwydro dros Ogledd Cymru ar nos Iau y digwyddiad blynyddol.
Ac mae'r gantores anhygoel o Amsterdam, a swynodd gynulleidfa’r Royal Variety Performance y llynedd gyda pherfformiad syfrdanol, gan gynnwys ei chân enwog 'A Night Like This ', yn gwneud un o'i hymddangosiadau cyngerdd cyntaf ers cymryd hoe o berffomrio i gael ei phlentyn cyntaf.
Caro Emerald yw un o'r prif berfformwyr mewn wythnos o gyngherddau gwych a fydd yn cychwyn gyda thipyn o sioe ar ddydd Llun, Gorffennaf 7, pan fydd y bas-bariton nodedig Bryn Terfel yn ymddangos mewn perfformiad cwbl Gymreig o ddrama gerdd enwog Stephen Sondheim, Sweeney Todd, the Demon Barber o Fleet Street.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod: “Rydym wrth ein boddau i gael Caro Emerald yma. Mae'n dalent rhyfeddol sydd wedi ennill enwogrwydd rhyngwladol haeddiannol.
“Rydym am weld amrywiaeth cyfoethog o gerddoriaeth yn Llangollen a’r unig amod yw bod yn rhaid iddo fod o safon ryngwladol ac mae Caro Emerald yn sicr yn cyflawni’r amod hwnnw.”
Bydd Eisteddfod eleni, sy'n rhedeg tan ddydd Sul, Gorffennaf 13, hefyd yn cynnwys yr hen rocars Prydeinig Status Quo, y perfformiad cyntaf erioed o waith newydd gan y cyfansoddwr Karl Jenkins a chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti.
Mae Caro Emerald yn falch iawn o fod yn rhan o’r ŵyl, a dywedodd: “Rwyf wedi edrych ar y perfformwyr sydd wedi ymddangos yma yn y gorffennol ac mae’r rhestr yn cynnwys rhai enwau eiconig iawn. Rwy'n hynod o falch ac mae’n fraint cael fy nghwahodd i berfformio ac rwy'n edrych ymlaen at berfformio yng Nghymru am y tro cyntaf.
“Dydw i ddim eisiau datgelu gormod am fy set ar noson y gyngerdd, ond mae un peth yn sicr - bydd y gynulleidfa, y band ac, wrth gwrs, fi yn siŵr o gael amser da!”
Mae stori llwyddiant cyflym Emerald yn un gwirioneddol ryfeddol gan fod y lleisydd jazz, a hyfforddwyd yn yr Amsterdam Conservatory, wedi sefydlu ei label recordiau ei hun, Grandmono, er mwyn gallu rhyddhau ei CD cyntaf.
Pederfynodd Emerald wneud hynny ar ôl iddi gael ei gwahodd i ganu ar drac demo, o'r enw Back It Up. Roedd yn edrych fel pe bai'r gân am ddiflannu i ebargofiant nes iddi gael ei rhoi ar Youtube, a dod yn boblogaidd iawn ar y radio.
Mi wnaeth hynny ei hannog i greu albwm o ganeuon pop jazz, hawdd gwrando arnynt, yn seiliedig ar ganeuon o'r 1940au a’r '50au gyda churiad cofiadwy a mymryn o arddull Lladin, ond er hynny roedd yn dal yn anodd denu diddordeb y labeli recordio.
Felly mi wnaeth Emerald a nifer o gefnogwyr lansio label Grandmono ac fe dalodd hynny ar ei ganfed. Roedd Back it Up, a gafodd ei ryddhau fel sengl yn 2009, yn llwyddiant ar unwaith ac fe ddilynwyd hynny gyda’r gân anhygoel A Night Like This, a ddaeth yn boblogaidd ledled Ewrop.
Llwyddodd ei halbwm cyntaf cyffrous, Deleted Scenes From The Cutting Room Floor i aros ar frig siartiau’r Iseldiroedd am 30 wythnos gan werthu dros filiwn o gopïau ledled y byd, a’r llynedd cyrhaeddodd ei hail albwm The Shocking Miss Emerald frig siartiau’r DU.
Dywed Emerald: “Roeddwn i’n gwybod ar y pryd y byddai ffurfio ein label ein hun yn ein galluogi i aros yn llawer mwy triw i’n syniadau, safbwyntiau a’n cynnyrch ni ein hunain, a dyna ni.
“Nid oedd gen i ddim gwybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth, doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai'r gwahaniaeth rhwng llofnodi i gwmni mawr neu label annibynnol. Roedd yn gambl enfawr.
“Wrth edrych nôl gallaf weld ein bod wedi gwneud y penderfyniad iawn ac rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi’i gyflawni.”
Yna daeth y Royal Variety Performance o flaen y Tywysog Charles. “Roedd yn anhygoel,” meddai.
“Roedd yn anrhydedd enfawr cael gwahoddiad i berfformio o flaen teulu brenhinol gwlad nad ydw i hyd yn oed yn ddinesydd ohoni. Roedd hi'n noson wych, anhygoel a chofiadwy.
“Rwy'n hapus iawn bod fy ngherddoriaeth wedi cael derbyniad mor dda yn Ewrop ac yn y DU yn arbennig. Mae'n gyffrous iawn yn enwedig gan fy mod yn dod o wlad mor fach â’r Iseldiroedd.
“Rwyf wedi cael ymateb cadarnhaol dros ben o bob cwr o'r byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Rwy’n credu bod yno lawer o bobl sy'n gallu gwerthfawrogi fy ngherddoriaeth ac rwy'n gobeithio y caf gyfle i chwarae fy ngherddoriaeth o’u blaen.
“Rwy'n ffodus i gael cerddorion rhagorol yn chwarae yn y band. Maent yn gerddorion hynod dalentog a phobl ardderchog i’w cael ar y ffordd gyda mi. Rydym yn cael amser gwych ar y llwyfan ac oddi arno.”
A chyda'i seren yn parhau i godi, gall cynulleidfaoedd y DU ddisgwyl gweld llawer mwy o berfformiadau cyffrous a chofiadwy Caro Emerald
Mae ganddi daith 11 noson yn y DU ym mis Hydref,, a ohiriwyd o fis Chwefror oherwydd ei beichiogrwydd. Mae'r daith, sydd eisoes wedi gwerthu allan, yn cynnwys ymddangosiadau yn arena O2 Llundain, Phones 4U ym Manceinion ac Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.
Ac mae mwy o ymddangosiadau teledu ar y gweill hefyd - mae hi eisoes wedi ymddangos ddwywaith ar Later with Jools Holland ac ar Strictly Come Dancing ac wrth gwrs, y Royal Variety Performance.
Yn ogystal â Caro Emerald a Bryn Terfel bydd gŵyl eleni yn gweld perfformiadau gan lu o ddoniau rhyngwladol, gan gychwyn yn syth ar ôl Sweeney Todd ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 8, gyda’r Orymdaith a chyngerdd Carnifal y Gwledydd gan arddangos sgiliau syfrdanol perfformwyr syrcas o bedwar ban byd gan gynnwys Bruce Bilodeau o'r Cirque du Soleil, acrobatiaid o'r Chinese State Circus a Spellbound, enillwyr Britain's Got Talent.
Y noson ganlynol bydd Karl Jenkins, un o'r cyfansoddwyr clasurol mwyaf llwyddiannus sy'n fyw heddiw, yn dychwelyd i'r ŵyl gyda pherfformiad cyntaf ei gampwaith diweddaraf, Adiemus Colores, gyda'r tenor Americanaidd Noah Stewart.
Bydd Caro Emerald yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn Llangollen ar y nos Iau. Tra bydd cyngerdd nos Wener, Spirit of Unity, gydag Opera Cape Town, Corws Only Kidz Aloud o dan arweiniad Tim Rhys Evans a Sinffonieta Prydain.
Cystadleuaeth Côr y Byd ar nos Sadwrn yw digwyddiad rhuban glas yr ŵyl sy'n parhau drwy gydol yr wythnos ac mae'n dal i fod yn un o gystadlaethau côr mwyaf blaenllaw'r flwyddyn.
Bydd dydd Sadwrn hefyd yn cynnwys cystadleuaeth er mwyn dod o hyd i bencampwyr dawnsio 2014 ac i orffen y noson bydd Richard ac Adam, ddaeth yn adnabyddus ar Britain's Got Talent, yn ymddangos fel gwesteion arbennig, ac ar y nos Sul bydd yr hen rocars Status Quo yn codi’r to.
I archebu tocynnau ac i gael mwy o fanylion am ŵyl 2014 ewch i'r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk