Cerddoriaeth

RSS Icon
10 Ionawr 2014

Cyhoeddi arlwy noson Wobrau’r Selar

Mae trefnwyr Noson Wobrau’r Selar wedi cyhoeddi y bydd nifer o artistiaid amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn perfformio ar y noson yn Aberystwyth ar 15 Chwefror.

Ymysg yr enwau poblogaidd sy’n perfformio bydd tri o fandiau mwyaf poblogaidd y sin ar hyn o bryd sef Yr Ods, Candelas a Sŵnami.

Yn ogystal â hynny bydd nifer o dalentau ifanc gorau’r flwyddyn ddiwethaf yn cael llwyfan – Kizzy Crawford, Casi Wyn, Yr Eira ac enillwyr gwobr ‘Band newydd Gorau’ y gwobrau llynedd, Bromas.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘parti i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn ddiwethaf’, yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Chwefror.

Tocynnau ar werth

Yn ogystal â rhyddhau manylion perfformwyr y noson, mae’r Selar wedi cyhoeddi fod tocynnau’r digwyddiad bellach ar werth i’r cyhoedd.

Mae modd prynu’r tocynnau ymlaen llaw am bris gostyngol o £8 o wefan Sadwrn.com ac o nifer o siopau penodol sy’n cael eu rhestru ar wefan Y Selar - www.y-selar.com.

“Bwriad noson Wobrau’r Selar ydy rhoi cyfle i’r artistiaid a’u dilynwyr ddathlu llwyddiant y flwyddyn gerddorol a fu” meddai Owain Schiavone o’r Selar.

“Rydan ni felly wedi ceisio gwasgu cymaint â phosib o artistiaid prysuraf 2013 i mewn i’r noson. Mae’n bosib iawn y byddwn ni’n ychwanegu cwpl o enwau eraill nes mlaen hefyd.”

“Mae’r artistiaid yn bwysig, ond mae dilynwyr yr artistiaid yn bwysicach fyth o ran cynnal y sin ac rydan ni eisiau cymaint o bobl â phosib yno i fwynhau’r arlwy. Dwi’n disgwyl i docynnau werthu’n gyflym ar ôl llwyddiant y digwyddiad llynedd.”

Am fwy o wybodaeth am Noson Wobrau’r Selar, ewch i wefan y cylchgrawn www.y-selar.com neu i dudalen Facebook y digwyddiad https://www.facebook.com/events/798474430166432/

Llun: Yr Ods

Rhannu |