Cerddoriaeth

RSS Icon
07 Tachwedd 2013

Band rhyngwladol yn dychwelyd i Gymru

Ar ôl blynyddoedd o arddangos cerddoriaeth RhyngGeltaidd o Gymru o amgylch y byd, mae'r band Jamie Smith’s Mabon, sy'n adnabyddus am eu sioe fyw wych yn dychwelyd at eu gwreiddiau yr hydref yma gyda chyfres o gyngherddau ledled Cymru.

Yr hyn sy'n apelio at gynulleidfa eang - yn Gymry Cymraeg ai peidio - yw eu perfformiadau disglair, sy'n arddangos doniau Jamie, Oli, Adam, Matt a Iolo.  Bydd 'Taith Adre Tour' yn cynnwys naw sioe mewn theatrau ar draws y wlad, wedi i'r band dreulio'r haf yn teithio cyn belled â Sardinia, Yr Iseldiroedd, Portiwgal a'r Almaen.

Bu hyd yn oed i Jamie - cyfansoddwr ac arweinydd y band - ennill cystadleuaeth agored yr accordion yng ngŵyl fawreddog Lorient yn Llydaw eleni.

Bydd 'Taith ADRE' yn ymweld â:

21 Tach - Caerfyrddin - Lyric Theatre

22 Tach - Caernarfon - Galeri Caernarfon

23 Tach - Harlech - Theatr Harlech

24 Tach - Llanwrtyd - Victoria Hall

26 Tach - Caerdydd - Lefel 3, Neuadd Dewi Sant

27 Tach - Llanbedr Pont Steffan - Theatr Felinfach

28 Tach - Y Drenewydd - Theatr Hafren

29 Tach - Wrecsam - Prifysgol Glyndŵr

30 Tach - Aberteifi - Theatr Mwldan 

Daw'r daith rhyw fis ar ôl cynhadledd Womex yng Nghaerdydd, lle bu'r diwydiant cerddoriaeth byd yn dysgu mwy am gerddoriaeth werin Cymru.

Meddai Jamie: “Mae ymateb gwych i'n cerddoriaeth Geltaidd ni ble bynnag byddwn ni'n chwarae o amgylch y byd - ac ar ôl blynyddoedd o weithio dramor, roedden ni'n awyddus i ddod â'n cerddoriaeth adre a threfnu taith go iawn ar gyfer ein dilynwyr ledled Cymru.

"Mae diddordeb mewn cerddoriaeth 'roots' yng Nhymru ar gynydd, fel dengys Womex, ac ry'n ni am ddangos i bobl Cymru pa mor gyffrous y gall ein cerddoriaeth ni'n hunain fod.”

Meddai'r cylchgrawn cerddoriaeth byd 'Songlines' am y band: "If music could fuel engines, MABON could solve the energy crisis”. Mae'n eu disgrifio fel band sydd wedi treulio blynyddoedd yn meistroli eu crefft; fel band sy'n cyfuno alawon atyniadol gyda rhythmau grymus i greu sioe fyw eithriadol.

Mae pum cerddor hynod Jamie Smith’s Mabon yn defnyddio lleisiau, accordion, ffidil, bouzouki, bâs a drymiau i drin alawon gwreiddiol Jamie, sydd â'u dylanwadau eang yn ymestyn o'r ffurfiau Celtaidd traddodiadol mwyaf cyffredin hyd mazurka Frengig neu muiñera Galiciaidd.

Mae manylion cyflawn y daith ar y wefan jamiesmithsmabon.com, lle gellir hefyd lawrlwytho'r gân iaith Gymraeg Caru Pum Merch yn rhad ac am ddim i ddathlu'r daith.

Rhannu |