Cerddoriaeth
Siddi, a hud a tylwyth teg
Wedi bron i ddwy flynedd o recordio, mae Siddi yn rhyddhau eu halbwm gyntaf "Un Tro", yn cael ei rhyddhau ar label I KA CHING.
Mae 'Un Tro' yn gasgliad o ganeuon 'thema' , gan frawd a chwaer o Lanuwchllyn, yn seiliedig ar stori dylwyth teg o Gwm Cynllwyd ym Mhenllyn.
Mae Branwen Haf Williams ac Osian Huw wedi bod yn gweithio ar yr albwm gysyniadol 9 trac ers dwy flynedd, wedi iddynt ddod ar draws y stori dylwyth teg, sydd wedi ei defnyddio fel stori gefnlen i'r albwm, gyda phob cân yn feicrosgop ar ddarnau bach o'r stori.
Recordiwyd y traciau yn Ysgoldy Llanuwchllyn, a garej Yr Hen Felin, eu cartref yn Llanuwchllyn.
Meddai Branwen: “Trwy gydol yr albwm, ryden ni wedi trio cadw'n agos at batrymau alawon gwerin.”
Disgrifir ei llais fel “un hyfryd o hen ffasiwn" ar y trac Dim Ond Duw, sy'n geirio siom un o'r tylwyth teg , gyda'r geiriau “dim ond Duw all yrru yr awel i sychu dagra sy'n boeth ar fy ngwedd.”
Bydd dwy ran i lansiad yr albwm, gyda'r gyntaf yn Ysgoldy Llanuwchllyn, am 7 o'r gloch, nos Iau yr 17eg o Ionawr, ac yna yr ail y tu allan i siop Awen Meirion, Y Bala, am 11 o'r gloch fore Sadwrn y 19eg o Ionawr.
Yn ogystal, byddant yn ymddangos ar raglen Heno ar S4C, Nos Wener y 18fed o Ionawr.
Mae croeso cynnes yn disgwyl pawb i'r ddau lansiad.