Cerddoriaeth

RSS Icon
05 Mai 2012

Gig ‘Hanner Cant’: Atgyfodiad Reu

Tŷ Gwydr yw’r enw diweddaraf i ymuno ag arlwy Hanner Cant

20 mlynedd ers y ‘noson gladdu’ fawreddog, bydd Reu yn dychwelyd i lwyfan Pafiliwn Pontrhydfendigaid wrth i drefnwyr gig Hanner Cant gyhoeddi mai Tŷ Gwydr yw’r grŵp diweddaraf i ymuno â’r leinyp.

Uchafbwynt adloniant Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1992 oedd Noson Gladdu Reu, lle’r oedd Tŷ Gwydr yn serennu ynghyd â Datblygu, Diffiniad, Beganifs a Llwybr Llaethog.

Roedd y term ‘Reu’ wedi’i boblogeiddio ledled Cymru gan Tŷ Gwydr ers iddyn nhw gyflwyno’u ‘set Reu’ am y tro cyntaf yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1991.

Rhyddhaodd y grŵp record 12 modfedd Reu (Mics) ynghynt yn y flwyddyn, ond erbyn haf 1992 roedden nhw’n credu bod y ffenomena Reu wedi rhedeg ei gwrs a phenderfynwyd ei gladdu yn yr Eisteddfod.

Digwyddiad anferth

Er i Tŷ Gwydr ddal ati i berfformio am ychydig wedi hynny, mae Noson Claddu Reu yn cael ei weld gan nifer fel uchafbwynt gyrfa y grŵp.

Mae’n addas felly bod y grŵp i ymddangos unwaith eto ar lwyfan y pafiliwn mewn gig arall mawreddog sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Roedd Noson Claddu Reu yn anferth” meddai Gareth Potter o’r grŵp.

“Roedden ni am i'r peth fod yn barti, ac i bobl gael lot o hwyl a sbri… a bod yn rhan o holl beth Tŷ Gwydr. Noson arbennig iawn.”

Mae Gareth, ynghyd â Mark Lugg o’r grŵp, yn credu bydd y gig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas ym mis Gorffennaf yn fwy cofiadwy fyth.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy i fod yn rhan o’r parti yma” meddai Lugg.

“Mae’r Gymdeithas wedi trefnu gigs chwedlonol fel Noson Claddu Reu a Rhyw Ddydd Un Dydd dros y blynyddoedd, ond efallai mai Hanner Cant fydd y mwyaf eto ac ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r peth.”

10 wythnos i fynd

Daw’r cyhoeddiad y bydd Tŷ Gwydr yn ymuno â’r arlwy’n gyda 10 wythnos yn unig i fynd tan y gig.

Bydd Hanner Cant yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar nos Wener 13 Gorffennaf a thrwy’r dydd ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf.

Ymysg y perfformwyr sydd eisoes wedi’u cadarnhau mae Gruff Rhys, Bryn Fôn ac Yr Ods – bydd 50 o artistiaid a grwpiau’n perfformio dros y deuddydd, a Tŷ Gwydr ydy rhif 40.

“Mae’n addas iawn ein bod ni’n cyhoeddi Tŷ Gwydr yr wythnos hon” meddai un o’r trefnwyr, Owain Schiavone.

“Deg wythnos sydd i fynd, felly rydan ni’n cyfri lawr i’r dyddiad go iawn rŵan ac mae’r cyffro’n cynyddu. Heb os, mae cael Tŷ Gwydr ar y rhestr perfformwyr yn hwb pellach i’r digwyddiad.

“Mae’n addas iawn bod y gig bron union 20 mlynedd ers Noson Claddu Reu, a hynny yn yr un lleoliad, er bod y pafiliwn wedi datblygu cryn dipyn ers 1992.”

 

Rhannu |