Cerddoriaeth

RSS Icon
05 Mai 2012

20 o oreuon gan Gôr Godre’r Aran

Casgliad gwych o oreuon Côr Godre’r Aran a recordiwyd rhwng 1983 a 2003 dan arweiniad Eirian Owen.

Côr Godre'r Aran - enw sy'n gyfystyr â chanu gorffenedig o safon broffesiynol. Dyma Gôr Meibion yn cynnwys llai na hanner cant o leisiau sy'n creu sain gyfoethog, apelgar, sy'n gyffrous a soniarus mewn uchafbwyntiau dramatig ac yn hudolus a llawn perswad mewn canu tyner, dwys.

Yn ei gyflwyniad i’r CD disgrifia Brian Hughes y profiad o glywed Côr Godre’r Aran yn perfformio’n fyw am y tro cyntaf; ‘Rwy'n cofio, beth amser yn ôl bellach, glywed Côr Godre'r Aran am y tro cyntaf - yr arweinydd oedd Tom Jones (mae ei fab yn aelod o'r côr presennol) a chydnabyddid y côr hwnnw'n feistri ar gelfyddyd canu cerdd dant. O'r dechrau cyntaf, roedd sain y côr yn unigryw, yn grwn a chyflawn ac yn medru cyfleu, yn gwbl ddiymdrech, y dramatig a'r dwys fel ei gilydd.’

Pan ddaeth Eirian Owen yn arweinydd y côr, newidiwyd yn raddol o arddull y corau cerdd dant i arddull y corau meibion traddodiadol. Ac mae sain lleisiau hudolus a thelynegol ardal Penllyn wedi ei throsglwyddo o'r côr cerdd dant gwreiddiol i'w ddisgynyddion, sef aelodau'r côr presennol, ac mae'r repertoire wedi ehangu i gynnwys yr hen a'r newydd o fyd traddodiad y corau meibion.

 

Ond nid yn unig newid arddull a repertoire wnaeth y côr, - dan arweinyddiaeth ysbrydoledig Eirian Owen mae wedi dod â dimensiwn newydd o ran safon perfformio i fyd y corau meibion. Mae'r teithiau byd-eang a'r llwyddiant cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dyst i'w safon broffesiynol.

Mae'r dewisiad o eitemau ar y gryno ddisg hon yn dangos y côr ar ei orau ac mae'r amrywiaeth o ganu dramatig a chanu telynegol yn drawiadol. Llongyfarchiadau mawr i'r arweinydd a'r côr am gyrraedd y fath safon ac am gynnal disgleirdeb y safon honno hyd heddiw.

 

Rhannu |