Cerddoriaeth

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Brwydr y Bandiau

Bydd gwrandawyr BBC Radio Cymru yn pleidleisio yn frwd ledled Cymru nos Fercher, Ebrill 18 wrth i Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2012 gyrraedd ei uchafbwynt.

Wedi wythnosau o frwydro cerddorol a pherfformiadau safonol, dim ond pedwar band sydd bellach yn sefyll ar gyfer y frwydr olaf un. Bydd y bandiau yn dibynnu’n llwyr ar bleidleisiau’r gwrandawyr i benderfynu pwy ddaw i’r brig.

Darlledir y rownd derfynol ar nos Fercher, Ebrill 18 ar C2 BBC Radio Cymru lle bydd y gwrandawyr yn cael cyfle i glywed traciau a recordiwyd yn arbennig mewn stiwdio broffesiynol a chael clywed barn y panelwyr swyddogol - Elin Fflur, Guto Brychan ac Ywain Gwynedd.

Y bandiau llwyddiannus yw:-

Nebula - disgyblion yn ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe
Llŷr Thomas, llais/gitâr (18 oed), Ifan James, gitâr flaen (18 oed), Gareth Thomas, bas/piano (17 oed), Daniel Gough, gitâr rhythm (18 oed), Will Mason Jones, drymiau (16 oed), Kate Harwood, llais cefndir (17 oed).

“Nethon ni ddechrau’r band achos o’n i’n teimlo bo ni isie dod a cherddoriaeth fwy gwreiddiol i’r sin roc Gymraeg. Ni’n chwarae cerddoriaeth roc traddodiadol, ond yn fwy gwreiddiol. Mae’n anodd cael gigs Cymraeg yn ne Cymru, felly bydd y gystadleuaeth bendant yn helpu ni,” meddai Llyr.

Fast Fuse - disgyblion yn ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe
Morgan Stronel, dryms (16 oed), Mitchell Attwell, gitâr fas (16 oed), Jordan Casey, gitâr/llais (16 oed), Dylan Michael, gitâr flaen (16 oed).

Sgidie Glas - disgyblion yn ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul
Daniel Jardine, llais (16 oed), Gwyn Rennolf, drymiau (16 oed), Alun Rennolf, gitâr flaen (17 oed), Guto Jones, gitâr rhythm (16 oed), Joseph Raine, gitâr fas (17 oed).

“Sŵn roc Cymraeg sydd gyda ni. Alun yw’r prif gyfansoddwyr a wi’n lico ysgrifennu’r geiriau yn ogystal ag Alun. Ni dal yn ifanc ac yn awyddus i ddysgu - bydden i ddim yn rhoi perfformio yn y band fyny. Bydde fe’n golygu popeth i ennill hwn - ni isie neud enw i’n hunen dros Gymru,” meddai Daniel.

Tymbal - disgyblion yn ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin
Gwyn Rosser, Gitâr a llais (16 oed), Emyr Sion Taylor, Dryms (16 oed), Toby Pitts, Bas (17 oed)

“Mae fe’n llwyfan da ar gyfer bandiau ifanc o Gymru i gael ein gweld a’n clywed ac yn ffordd dda o gael sylw i’r band. Mae cerddoriaeth ni’n eithaf blues/roc trwm a ni’n teimlo bod y sŵn yn ffres a newydd - ni’n defnyddio lot o arddulliau gwahanol. Mae’r bandiau arall yn dda iawn felly mae cystadleuaeth gyda ni,” meddai Gwyn.

Bydd y grŵp buddugol yn cael:-

cytundeb i recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru (fel arfer 3 cân)
perfformio mewn Gŵyl fawr genedlaethol megis Maes B, yr Eisteddfod Genedlaethol
perfformio yng Ngŵyl Sŵn 2012
perfformio ar lwyfan y Pentref Ieuentid, Sioe Frenhinol 2012
chwarae yng Ngŵyl Gwydir
cael erthygl 'tudalen-lawn' yn un o rifynnau o gylchgrawn 'Y Selar'
sesiwn luniau hanner diwrnod gyda ffotograffydd proffesiynol
cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru

Am wybodaeth bellach, ewch i bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/brwydrybandiau

Rhannu |