Celf

RSS Icon
04 Mawrth 2011

'Olynydd teilwng i Syr Kyffin'

MAE oriel gelf flaenllaw yn Lloegr yn parhau â’i hymgyrch o hybu celf o Gymru trwy roi arddangosfa unigol i Mike Jones, y tro cyntaf i hynny ddigwydd iddo y tu allan i’r wlad. Dylai’r sioe roi taw ar y syniad nad yw celf Gymreig yn teithio.

Mae gan oriel Fosse Gallery yn Stow-on-the-Wold hanes ardderchog o gefnogi celfyddyd Geltaidd; yn yr Wythdegau a’r Nawdegau daeth â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw yr Alban i sylw prynwyr celf Llundain gan gychwyn ar ffasiwn yn eu plith o blaid celf Albanaidd.

Nawr, mae’r perchennog presennol, Sharon Wheaton, yn parchu ei gwreiddiau Cymreig trwy ddangos gwaith rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.

Bu ei harddangosfa gyntaf o gelf Gymreig, yn 2009, yn llwyddiant ysgubol. O ganlyniad, cynigiwyd arddangosfeydd unigol yn yr oriel i ddau artist Cymreig uchel eu parch, Gwyn Roberts a Mike Jones.

Yn dilyn gwerthu popeth yn sioe Gwyn fis Mawrth diwethaf, hawliodd cylchgrawn Country Life fod yr artist yn ‘olynydd teilwng i Syr Kyffin’.

Yn sgil ei lwyddiant, dywedodd Gwyn: "Rwy’n meddwl fod pobl yn arfer meddwl na fyddai celf o Gymru ddim yn croesi’r ffin, ac na fyddai’n boblogaidd yn Lloegr am ei fod mor drawiadol a chryf.

"Mae celf Gymreig ychydig yn fwy ‘in-your-face’ na llawer o’r gwaith welwch chi ar werth yn Lloegr. Ond yn y dangosiad preifat cefais fy synnu gan eiriau caredig pobl. Roedden nhw’n meddwl fod y gwaith yn chwa o awyr iach, yn wahanol, ac roedden nhw wedi ffoli fod y gwaith mor gryf a hy."

Eisoes, gwerthodd gwaith Mike Jones yn dda mewn sioeau ar y cyd yn yr oriel; yn ystod mis Mawrth eleni, daw ei gyfle yntau i gamu i flaen y llwyfan gyda sioe unigol.

Yn ôl Mike: “Mae’n dipyn o beth i mi i ddangos fy ngwaith yn y Fosse, am fod llawer o fawrion celf Cymru wedi arddangos yno yn y gorffennol – pobl fel John Piper a Graham Sutherland. Mae’n wych o beth fod Sharon wedi mynd ati i hybu artistiaid Cymreig fel hyn."

Thema arddangosfa Mike yw pobl a lleoedd De Cymru – ond canfu eisoes fod pobl ledled y Deyrnas Unedig yn uniaethu â’i bwnc.

“Waeth ble maen nhw’n byw, rwy’n meddwl fod y lluniau hyn yn atgoffa llawer o bobl o’u neiniau a’u teidiau,’ meddai Mike.

Wrth beintio pobl gyffredin De Cymru, mae Mike yn dilyn ôl troed ei gyfaill mawr a’i fentor, y diweddar Josef Herman RA. Roedd Herman yn enwog am beintio glowyr Ystradgynlais – pwnc a barodd i Mike edrych o’r newydd ar ei gynefin.

"Dim ond ar ôl i mi weld ei waith e y gwnes i sylweddoli fod y bobl yr oeddwn i’n eu gweld o ’nghwmpas bob dydd yn bwnc teilwng ar gyfer fy mhaentiadau,” meddai Mike.

Ystyrir Mike yn olynydd naturiol i Herman yng Nghymru bellach. Mae ei waith yn llawn o fynegiant, yn dwyllodrus o syml ac yn meddu ar y gallu i gyffwrdd yn ddwfn â rhywun.

Meddai’r diweddar Kyffin Williams amdano: “Mae ganddo onestrwydd a chariad at y cymeriadau y mae’n eu peintio.”

Cytuna Jones ei fod yn teimlo hoffter mawr tuag at ei wrthrychau, sydd fel arfer yn gyn-lowyr, gweithwyr dur a ffermwyr oedrannus.

“Fe allwn i edrych ar olygfa hardd ond fyddai hynny ddim yn peri i mi deimlo mod i am ei pheintio, ond yna efallai y byddai fy llygad yn taro ar hen ŵr yn eistedd ar fainc, a byddwn eisiau ei beintio fe,” meddai. “Rwy’n cael fy nhynnu at bobl sy’n mynegi gwaith caled ac ymdrech yn eu hosgo a’u dwylo mawr, abl. Mae’n anodd dweud yn union beth sy’n apelio ataf; efallai eu bod yn fy atgoffa o fy mhlentyndod."

Bydd yr arddangosfa yn oriel Fosse Gallery, Stow-on-the-Wold o ddydd Sul 6 Mawrth hyd at ddydd Sadwrn 26 Mawrth.

Rhannu |