http://www.y-cymro.comY Cymro Cofnod artistig o’r Mametz yn Storiel Bangor
Casgliad o argraffiadau’r yw’r arddangosfa ddiweddara i’w gweld yn Storiel, sydd yn olrhain atgofion o brofiadau synhwyraidd yng Nghoedwig y Mametz.

Cofnod yw’r arddangosfa o’r hyn a ysbrydolodd y ffotograffydd Aled Rhys Hughes gan y tirlun pwysig hwn yn hanes ein gwlad, ble bu i dros 4,000 o filwyr y 38ain Adran Gymreig gael eu lladd, eu hanafu neu ddiflannu ym Mrwydr y Mametz y Rhyfel Byd Cyntaf ar 10 Gorffennaf 1916.

Yn ogystal ag ymateb i’w brofiadau drwy gyfrwng lluniau, mae hefyd wedi ymateb yn uniongyrchol i rannau o gerdd arloesol ac epig David Jones, ‘In Parenthesis’ , sydd yn gofnod o brofiadau dirdynnol y bardd ei hun o’r frwydr, ac un o brif obeithion y ffotograffydd oedd ceisio ateb y cwestiwn: oes gan y dirwedd hon gof o’r hyn ddigwyddodd gan mlynedd yn ôl?

Meddai Aled Rhys Hughes: “Mae’r arddangosfa hon yn benllanw saith mlynedd o brofiadau gweledol a brofais yng Nghoedwig Mametz.

"Yn ystod yr ymweliadau blynyddol ym mis Gorffennaf ceisiais greu delweddau sy’n llawn o’r hyn a welais, a deimlais ac a glywais wrth ymlwybro drwy olion igam ogam hen ffosydd a thrwy’r isdyfiant rhemp.

"Gwnaethpwyd rhai o’r delweddau yn ymatebion uniongyrchol i eiriau ac ymadroddion o 'In Parenthesis', ac eraill i enwau llefydd penodol.

"Ond yn y pen draw delio gyda’r syniad o dirwedd a chof yw’r prif bwrpas, thema sy’n hollbresennol yn fy ngwaith.”

Mae’r arddangosfa yn perthyn i gyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn rhan o raglen Cymru’n Cofio sy’n adlewyrchiad ar goffâd canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth raglen Cymru’n Cofio i’w weld yma: http://www.cymruncofio.org/

Mae’r arddangosfa i’w weld yn Storiel hyd 22 Ebrill. Mae Storiel ym Mangor ar agor Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn o 11am-5pm.

Mae rhagor o wybodaeth am Storiel ar gael ar: http://www.gwynedd.llyw.cymru/Amgueddfeydd a chlicio ar Storiel, neu mae manylion diweddaraf hefyd i’w gweld ar dudalen Facebook Storiel: www.facebook.com/StorielBangor

LLUNIAU: Peth o arddangosfa ffotograffig o weithiau Aled Rhys Hughes sydd i’w weld yn Storiel
http://www.y-cymro.com/celf/i/5101/ 2017-03-06T00:00:00+1:00 Arddangosfa o geir bach arbennig Corgi
AR un cyfnod, roedd ceir Corgi yn llenwi hosanau Nadolig plant o bob cwr. Nawr, mae rhai o’r teganau eiconig hyn – gafodd eu gwneud yn Abertawe – i’w gweld mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd cannoedd o fodelau gwych yn ganolbwynt i’r arddangosfa newydd dros gyfnod y Nadolig, fydd yn edrych ar hanes a chynnyrch Oxford Diecast. Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yn Abertawe, yn allforio’r ceir bach i bedwar ban byd.

Sefydlwyd Oxford Diecast ym 1993, o weddillion cwmni Mettoy, fu’n cynhyrchu ceir Corgi (ymysg pethau eraill) yn Abertawe o’r 1940au ymlaen. Daw’r enw Corgi o’r ci Cymreig eiconig.

Yn ei anterth, roedd Mettoy yn cyflogi 3,500 o weithwyr yn Abertawe, ac roedd yn wneuthurwr pwysig gan gynhyrchu eitemau plastig a thunplat, ynghyd â’r ceir bach.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd yn cynhyrchu mecanwaith ar gyfer grenâd llaw, raseli, rhannau ceir –hyd yn oed peli troed i’w defnyddio yn Wembley.

Erbyn heddiw, mae cwmni Oxford Diecast yn perthyn i Lyndon Davies, ddechreuodd gyda Mettoy yn y 1970au pan oedd yn 16 oed, gan ddod i wybod am bob agwedd ar y gwaith.

Wedi i Mettoy ddioddef trafferthion ariannol yn y 1980au, cychwynnodd Lyndon a dau gydweithiwr eu cwmni eu hunain, gan sefydlu Oxford Diecast ym 1993.

Erbyn hyn maent yn cynhyrchu dros 400 math newydd o fodel bob blwyddyn, gyda thryciau, awyrennau, bysiau a cherbydau’r fyddin ochr yn ochr â’r ceir.

Mae’r casgliad hyd yn oed yn cynnwys model o stondin cŵn poeth a lorri eiconig y cwmni Coca Cola.

Y curadur Ian Smith fu’n gyfrifol am gasglu’r eitemau ynghyd, ac mae’n dweud y bydd yr arddangosfa yn cynnwys modelau hen a newydd, o’r Corgi olaf i gael ei gynhyrchu yn Abertawe i’r modelau Oxford newydd.

Meddai: “Mae Oxford Diecast yn gwmni Cymreig sydd wedi llwyddo mewn marchnad fyd-eang.

“Caiff safon a chywirdeb modelau Oxford eu parchu dros y byd.

“Bydd yr arddangosfa yn apelio at bob oed, o blant i gasglwyr modelau ac unrhyw un, fel fi, sydd ag atgofion melys o chwarae gyda theganau Corgi.

“Mae’r Aston Martin James Bond, gyda’r sedd sy’n neidio allan, yn dal gen i!”

Mae prif swyddfa Oxford Diecast yn dal i fod yn Abertawe, ac mae llawer o’r gwaith dylunio yn dal i ddigwydd yma.

Dywedodd Lyndon Davies: “Mae Oxford wedi bod yn adeiladu’r brand yn ddiwyd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’r casgliad yn cynnwys ceir, ond hefyd tryciau, awyrennau ac, yn fwy diweddar, locomotifau symudol.

“Rydym yn gweithio gyda llawer o wneuthurwyr ceir blaenllaw wrth ddatblygu eitemau newydd, o Rolls Royce i Land Rover.

“O’n canolfan ddosbarthu yn Abertawe, rydym yn allforio cynnyrch i bedwar ban byd.

“Mae tasg anferth yn wynebu ein tîm yn Abertawe wrth geisio cynnal lefel y cynnyrch newydd wrth i ni ehangu i feysydd newydd.

“Bydd yn wych cael y cyfle i arddangos rhai o’n modelau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan 29 Ionawr.
http://www.y-cymro.com/celf/i/4839/ 2016-12-20T00:00:00+1:00 Cefn y Llwyfan: Printiau a lluniau gan John Vivian Roberts
Mae arddangosfa o brintiau a lluniau gan yr arlunydd a'r wneuthurwr printiau John Vivian Roberts (1923-2003) wedi agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Roberts yn Nhredegar, Gwent ac aeth i Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd. Astudiodd yn Ysgol Gelf Caerdydd (1939-42), ac wedyn aeth i'r Coleg Celf Brenhinol (1947-51) i astudio printiau, o dan Robert Austin yn gyntaf (ysgythru) ac wedyn Edwin la Dell (lithograffeg).

Pan oedd Roberts yn y Coleg Celf Brenhinol aeth i gefn y llwyfan yn Syrcas Bertram Mills yn Earl’s Court yn 1948. Ni allasai fod wedi rhagweld cymaint o ddylanwad y byddai'r profiad hwnnw wedi'i gael ar ei gyfeiriad celfyddydol, ac y byddai'r testun yn ysbrydoliaeth iddo am y pum degawd nesaf.

O'r lluniau pensil a wnaed mewn llyfr braslunio bach, clawr-caled, fe ddatblygodd gymeriadau a chyfansoddiadau y dychwelai atynt dro ar ôl tro, gyda gwisg a defodau bywyd y syrcas yn ei gyfareddu am oes.

Ond agwedd benodol iawn ar fywyd yn y Babell Fawr ac o'i chwmpas a'i denai; nid meistr y cylch, dofwr y llewod, yr eliffantod a'r camelod, nac actau'r trapîs na'r llinyn tynn a apeliai ato.

Bron yn ddieithriad teimlai gymhelliad i dynnu lluniau'r dynion a fu'n perfformio - y clowniaid, y corachod a'r acrobatiaid - ddim yn y cylch yn perfformio, ond yng nghefn y llwyfan, wedi gwisgo eu gwisgodd a'u colur, ac yn ymbaratoi at y sioe neu'n ymlacio wedyn.

Roedd yn ymdrin yn sensitif â'u hunigrwydd o dan y miri a'r asbri arwynebol; yr hyn a alwai 'ffaith a ffantasi' bywyd y syrcas.

Mae ei waith yn aros yn dyst i'r arlunydd hynod dreiddgar, a ddangosai gydymdeimlad gwirioneddol yn ei luniau a'i brintiau â'r bobl yn y syrcas roedd yn meddwl amdanynt fel ffrindiau iddo.

Dychwelodd Roberts i Gymru ac aeth ymlaen i ddysgu yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1951-60, cyn iddo ddod yn Bennaeth y Gyfadran Celf a Dylunio yng Ngholeg Polytechnig Lerpwl (sef Prifysgol John Moores erbyn hyn)

Roedd e'n aelod gweithgar o Gymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr Dyfrlliw, yr Academi Frenhinol Gymreig, Academi Celfyddydau Lerpwl ac un o Gymrodyr Cymdeithas Frenhinol yr Ysgythrwyr-Arlunwyr a'r Ysgythrwyr.

Ar ddechrau 2003, derbyniodd Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth Grant Prynu gan V&A/Re:source er mwyn prynu ugain darn o waith gan Roberts ar gyfer ei chasgliad parhaol. Ers hynny mae'r Ysgol wedi llwyddo i gael mwy drwy roddion gan yr arlunydd ei hun a chan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Hunangofiannol ei natur oedd llawer o waith Roberts, ac mae'r arddangosfa hon yn cynnwys portreadau o bobl roedd yn eu caru, gwaith traethiadol am gariad nas dychwelwyd, a darluniadau prudd, ac weithiau iasol, o glowniaid a pherfformwyr y syrcas.

Bydd Cefn y Llwyfan: Printiau a lluniau gan John Vivian Roberts ar agor yn Oriel yr Ysgol Gelf, y Buarth Mawr, Aberystwyth o 10 Hydref – 18 Tachwedd 2016. Mae'r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 i 17:00. Mynediad am ddim.

Llun: 'Backstage, Bertram Mill Circus', ysgythriad, 1949
http://www.y-cymro.com/celf/i/4455/ 2016-10-11T00:00:00+1:00 Arddangosfa Wynne Melville Jones ar Sgwâr Tregaron
MAE arlunydd o Geredigion a ail-gydiodd yn ei frwsh paent bum mlynedd yn ôl,  wedi bwlch o ddeugain mlynedd, nawr  wedi  dychwelyd i’w dre enedigol i ddangos ei waith.

Mae Wynne Melville Jones, sy’n gweithio o’i gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn, Ceredigion yn  gyn- fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin.

Mae’n  enw cyfarwydd fel tad Mistar Urdd, a moderneiddiwr y mudiad ac arloeswr ym myd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn sgil cychwyn ei gwmni ei hun StrataMatrix, yr asiantaeth PR ddwyieithog gyntaf yng Nghymru.

Yn dilyn ei ymddeoliad bum mlynedd yn ôl mae bellach wedi llwyr ymgolli yn ei ddiddordeb pennaf – celfyddyd gain, ac yn ystod y cyfnod o bum mlynedd mae wedi cwbwlhau 250 o ddarluniau a’r rhan fwyaf ohonynt yn ddarluniau olew ar ganfas.

Ac yntai yn frodor o Dregaron mae wedi penderfynu dychwelyd i’w dref enedigol i gynnal ei arddangosfa fwyaf eto yn Oriel Rhiannon, ar draws y ffordd i’r tŷ ar sgwâr Tregaron oedd yn  gartref i’r teulu yn ystod ei flynyddoedd cynnar.

Meddai: “Mae wedi  bod yn gyfnod cyffrous iawn i mi wedi blynyddoedd yn rhedeg busnes yn maes marchnata i ail-frandio fy hun fel petai, fel arlunydd,  ac mae cael gwahoddiad i arddangos y lluniau mewn oriel mor wych â Siop Rhiannon,  a hynny ar sgwâr Tregaron yn gyfuniad rhagorol ar gyfer nodi y garreg filltir hon.

“Cyfathrebu mewn geiriau a delweddau oedd fy mhroffesiwn am 40 mlynedd a’m gobaith nawr yw  bod fy lluniau yn cyfleu ac yn cyfathrebu naws a chyfoeth diwylliannol ein treftadaeth gyfoethog yn y cymunedau hyn.

“Rwyn dueddol o baentio beth bynnag sy’n dal fy llygaid ond fy nod o hyd yw ceisio creu celf i bobl ei fwynhau yn ddiymdrech a naturiol. Mae cynnwys nifer o’r llunie yn gyfarwydd i lawer.”

Er mai lluniau wedi eu hysbrydoli gan orllewin Cymru yw mwyfrif  y gwaith mae ei gelf wedi crwydro ymhell y tu hwnt i Gymru a gellir gweld ei waith yn gyson yn Llundain.

Gwerthwyd darlun o’i waith o Ynys Llanddwyn i deulu o’r Almaen ac mae ei lun o gapel diarffordd Soar-y-Mynydd ger Tregaron yn nghasgliad celf cyn Arlwydd UDA Jimmy Carter – cofnod o’i ymweliad â Thregaron pan ar wyliau pysgota yng Nghymru yn yr wythdegau.

Dangosir cyfanswm o 56 o luniau yn yr arddangosfa yn Nhregaron ac mae nifer o’r paentiadau yn waith diweddar iawn ac yn cynnwys cyfres o luniau sy’n cyfleu naws, unigrwydd  a phrydferthwch naturiol a  mynyddoedd Elenydd.

Yn ogystal â’i waith ef ei hun mae wedi cynnwys un darlun ffotograffig o waith Iestyn Hughes, awdur y gyfrol Ceredigion – Wrth fy Nhraed. Mae’r llun wedi ei dynnu yng nghapel Soar-y-Mynydd. Cafodd y gwaith hwn ei gynnwys, gyda un o luniau Wynne mewn arddangosfa o gynnyrch nifer o artistiaid a beirdd  i ddathlu deng mlwyddiant Canolfan y Morlan yn Aberystwyth ym mis Mawrth eleni.

“Roedd gwaith Iestyn mor greadigol wych a’r cynnwys yn gwbwl briodol i’w arddangos yn Nhregaron ac mae’n ychwanegiad gwerthfawr a diddorol at fy lluniau i,” medd Wynne.

Mae’r arddangosfa yn Oriel Rhiannon, Y Sgwâr, Tregaron ac ar agor tan ddechrau Gorffennaf ac mae’r mynediad am ddim.

Gellir gweld y lluniau ar yr oriel arlein: orielwynmel.co.uk
http://www.y-cymro.com/celf/i/3638/ 2016-04-20T00:00:00+1:00 Canolfan Mileniwm Cymru i fywiogi Bae Caerdydd mewn sioe wefreiddiol
Ar ôl blwyddyn o gynllunio a 8 mis o baratoadau, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno Ar Waith Ar Daith, Siwrnai Hudolus o Chwedlau Cymru - uchafbwynt gwefreiddiol o’i rhaglen dengmlwyddiant wedi’i greu gan gwmni celfyddydau’r awyr agored Walk the Plank.

Yn ddigwyddiad ar raddfa fawr ym Mhlas Roald Dahl sy’n cael ei gynnal ar 12 Medi 2015, bydd Ar Waith Ar Daith yn cyflwyno sioe odidog o orymdeithiau, dawns, artistwaith yn yr awyr, tafluniadau, chwedleua, cerddoriaeth a phyrotechneg.

Am ddim i’w fynychu ac yn addas i’r holl deulu, bydd y digwyddiad bythgofiadwy yma – y cynhyrchiad mwyaf yn yr awyr agored i ddigwydd yng Nghymru’r flwyddyn hon - yn casglu dros 700 o bobl o Gymru benbaladr i gymryd rhan.

Wedi’u denu gan bwerau hudol y gonsurwraig Ceridwen, bydd llynges o gychod o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru – gyda rhai sydd wedi rhwyfo o Borthmadog yn eu plith – yn cwblhau eu crwydrau ym Mae Caerdydd, gan ymuno â phlant ac ieuenctid o Gaernarfon, Canolbarth Cymru a’r Cymoedd. Shân Cothi fydd yn cymryd mantell Ceridwen a bydd y sioe yn cynnwys cyfansoddiad corol newydd wedi’i berfformio gan Sinfonia Cymru, a’i gyfansoddi gan y cyfansoddwr John Rea. Bydd perfformiadau ar lafar gan blant ysgol o Gaerdydd a Harlech yn ogystal.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o chwedl oesol geni Taliesin, bydd y perfformiad hynod yma yn gweld Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei thrawsnewid drwy ddychymyg torfol, wrth i Ceridwen grefftio a chreu a chymysgu, drwy gymysgu awen Cymru gyfoes gyda thalentau dawnswyr, cerddorion a chantorion.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: ‘Mae Ar Waith Ar Daith’ yn mynd ymhellach nag unrhyw beth rydyn ni wedi ei chomisiynu yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ran maint. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r arbenigwyr yng nghelfyddydau’r awyr agored, Walk the Plank drwy gydol y broses gynllunio a chreadigol blwyddyn o hyd. Mae ysbrydoli Cymru gyfan a hyrwyddo creadigrwydd blagurol ein cenedl ymhlith ein prif uchelgeisiau yn y Ganolfan. Mae Ar Waith Ar Daith wedi ymgymryd â’r ymdrech yma gant y cant, gan weithio’n agos gydag artistiaid a chymunedau Cymreig a gwau eu creadigrwydd a’u hysbrydoliaeth yn gain i mewn i’r perfformiad olaf. Rwy’n hynod o gyffrous ar gyfer Medi 12, a does dim amheuaeth na fydd hon yn garreg filltir yn hanes y Ganolfan am ddegawdau.’

Dros y chwe mis diwethaf, mae’r tîm creadigol sydd ynghlwm â’r digwyddiad wedi bod yn casglu anrhegion o ledled Cymru – gan dalu teyrnged i gyfoeth môr Gogledd Cymru, mwynau gwerthfawr De Cymru, a dal straeon ac ysbrydoliaeth o’r wlad gyfan – drwy gyfres o ysgolion hyfforddiant yng nghelfyddydau’r awyr agored i ymarferwyr creadigol Cymru. Bydd yr anrhegion yma yn ffurfio rhan hanfodol ac ysblennydd o’r perfformiad.

Bydd Ar Waith Ar Daith yn digwydd ar Blas Roald Dahl ar Sadwrn 12 Medi am 7.30pm. Dylid cyrraedd yn gynnar i sicrhau man ffafriol i wylio’r sioe, a gwisgo’n addas ar gyfer sioe yn yr awyr agored. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn addas i bob oedran.

Darganfyddwch ragor am Ar Waith Ar Daith ar www.arwaithardaith.com, drwy dudalen Facebok Ar Waith Ar Daith ac ar yr hashnod #awen2015

Cynhelir Ar Waith Ar Daith gyda chymorth caredig Banc Lloyds, prif noddwr Dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru.
http://www.y-cymro.com/celf/i/2656/ 2015-08-13T00:00:00+1:00 Cystadleuaeth Ddyfrlliwio Cymru yn yr Ardd Fotaneg
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lansio ei Chystadleuaeth Ddyfrlliwio ei hun.

Mae hi’n 200 mlynedd ers y comisiynwyd Thomas Hornor gan Syr William Paxton o Neuadd Middleton, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, i gatalogio mawredd llawn ‘un o’r parciau dŵr gorau ym Mhrydain’ – ar y safle lle saif yr Ardd Fotaneg bresennol.

Ac, er mwyn dathlu’r daucanmlwyddiant, mae penaethiaid yr atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin wedi gosod her i arlunwyr ym mhobman i ymweld â’r Ardd, a chofnodi prydferthwch cyfoes yr Ardd Fotaneg heddiw.

Mae’r dathliad hwn o un o dirweddau hyfrytaf Cymru i gyd-ddigwydd â phrosiect uchelgeisiol £6.7miliwn yr Ardd i adfer y tirwedd Rhaglywiaethol i’w gogoniant yn y gorffennol.

Bydd y gystadleuaeth yn esgor ar arddangosfa o’r cynigion gorau yn Oriel yr Ardd.   Bydd gwobrau’n cael eu cynnig hefyd, ym mhob un o dri categori: bydd enillydd y rhai dan 12 oed yn derbyn £250, a £500 i’r categori 12-18 oed, ac i’r enillydd i oedolion, mae £1,250.

Meddai’r trefnydd, Rob Thomas:  “Mae’r cynllun pum mlynedd i adfer ein tirwedd Rhaglywiaethol wedi dechrau ym mis Ionawr, a’r prif ffynhonell ar gyfer deunydd i’r prosiect yw’r casgliad o ddyfrlliwiau Hornor.

"Felly mae’n addas dros ben – dwy ganrif ar ôl i Hornor greu ei gasgliad gwych – ein bod ni’n ceisio cofnodi’r tirlun sydd gyda ni heddiw.  A dy’n ni ddim yn cyfyngu’r cynigion i ddyfrlliwiau’n unig: croesewir paentiadau mewn olew, pastelau, ac acryligau, hefyd.

“Bydd hyn dros gyfnod o amser yn profi’n gofnod o’r ystâd fydd yr un mor glodwiw a grymus  â chasgliad Horner gymaint â hynny o flynyddoedd yn ôl,” ychwanegodd.

Bydd y Gystadleuaeth Ddyfrlliwio ar agor i bawb o bob oedran a gallu, ac yn rhedeg o benwythnos Gŵyl Banc y Sulgwyn (Dydd Sadwrn, Mai 23) i Ŵyl Goed Flynyddol Cymru yn yr Ardd, sy’n dechrau ar Ddydd Sadwrn, Awst 15.   Bydd mynediad i’r Ardd yn hanner pris i bob ymgeisydd.

Ychwanegodd Mr Thomas: “Byddwn ni’n dewis cynigion  o amrywiaeth o gategorïau oedran i’w harddangos yn Oriel yr Ardd yn ystod yr hydref.”

Felly, er mwyn darganfod mwy, cofrestrwch eich cynnig os gwelwch yn dda drwy e-bostio HollyMae.SteanePrice@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667150 am fwy o wybodaeth.

http://www.y-cymro.com/celf/i/2454/ 2015-05-30T00:00:00+1:00 Arddangosfeydd amrywiol yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Mae dwy arddangosfa wahanol iawn i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor ar hyn o bryd.

O hyn hyd ddydd Sadwrn, 6 Mehefin 2015, mae arddangosfa ‘Lluniau o’r Gofod Mewnol’ gan yr artist John Charlesworth i’w gweld ym Mangor. Mae’n gasgliad o baentiadau swreal sy’n dangos cymysgedd o hiwmor a phathos. Gwelir ystyriaeth i fanylder a chyfansoddiad yn y gwaith.

Meddai John Charlesworth: “Rwyf wedi aros yn beintiwr ffigurol gan gydnabod bob tro bod tynnu llun a dylunio yn bethau haniaethol yn y bôn.”

Hefyd ar hyn o bryd, mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn cynnwys arddangosfa o luniau gwreiddiol ar gyfer stampiau pasbort Llwybr Pererin sydd wedi eu creu gan ddisgyblion ysgolion cynradd Gwynedd a Chonwy a phrintiau o gyrchfannau pererinion o gasgliad Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Crëwyd y gwaith dan arweiniad Eleri Jones, arlunydd preswyl  Prosiect Pasport Llwybr Pererin. Mae pob llun yn cynrychioli nodwedd o’r gwahanol gymunedau boed yn dirwedd, yn fywyd gwyllt neu’n adeilad megis yr eglwys leol.

Mae’r arddangosfa ddiddorol yma hefyd i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd 6 Mehefin 2015.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar agor Mawrth - Gwener 12.30pm - 4.30pm, Sadwrn 10.30am - 4.30pm. Mae mynediad am ddim. Am fanylion pellach, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Llun: Mae gwaith John Charlesworth i’w weld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar hyn o bryd
http://www.y-cymro.com/celf/i/2511/ 2015-05-28T00:00:00+1:00 Arddangosfa gyntaf yr Galeri
Rhwng Tachwedd 21 – Ionawr 9, bydd yr artist o Fangor, Luned Aaron yn arddangos yn Safle Celf Galeri am y tro cyntaf yn ei gyrfa fel artist.

Yn ei chasgliad diweddaraf, mae Luned Aaron yn oedi i ddathlu munudau dros dro, llawn arwyddocâd a thynerwch. Mae’r delweddau anniffiniedig hyn yn dal defodau teuluol, profiadau cyntaf, eiliadau a rennir – atgofion bob dydd sy’n annelwig drwy frithgof – gan roi astudiaeth o’n cysylltiadau cyffredinol drwy brofiadau a rennir ac atgofion sy’n cydblethu.

Meddai Luned: “Mi ddes i'n fam am y tro cyntaf y llynedd ac mae'r profiad wedi bod yn ysgogiad creadigol eithriadol wrth imi baratoi ar gyfer yr arddangosfa. Mae'r casgliad yn deillio o le cadarnhaol ac yn dathlu adegau llawen o fywyd bob dydd. Dyma'r arddangosfa fwyaf o’m gwaith hyd yn hyn. Bydd oddeutu deugain paentiad yn cael eu harddangos, a dwi’n gobeithio y bydd naws bersonol y casgliad yn taro deuddeg ac y bydd pobl yn gallu uniaethu â’r profiadau cyffredinol.”

Fel artist, defnyddia Luned dechnegau amrywiol wrth beintio, ond acrylig a chyfryngau cymysg yw ei phrif gyfryngau.

Gyda portffolio a CV sydd yn prysur ehangu, mae Luned yn arddangos yn rheolaidd mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Tonnau, Oriel Off the Wall, a BOCS, Caernarfon.

Ychwanegodd Luned, “Pan ges i wahoddiad gan Galeri i arddangos fy ngwaith, ro’n i’n falch y byddai fy arddangosfa unigol gyntaf wedi ei lleoli yn y gogledd. Mi ges i fy magu ym Mangor, ac mae Caernarfon hefyd yn agos iawn at fy nghalon o ystyried bod nifer o’m teulu yn hanu o’r dref a’r cyffiniau. Mi dreuliais bum mlynedd hapus yn byw yn y dref yn ystod cyfnod o gyflwyno cyfres Y Sioe Gelf o dan faner Cwmni Da, a dwi’n cofio dechreuadau Galeri yn glir gan y byddem yn ffilmio cryn dipyn o’r gweithgareddau yno. Mae Galeri wedi cyfrannu’n helaeth i’r dref a’r cylch ers iddi agor ei drysau yn 2005, a bydd hi’n braf dros ben arddangos fy ngwaith diweddaraf yno.”

Agorir yr arddangosfa nos Wener, 21 Tachwedd gan Cefin Roberts, a bydd Moment: Paentiadau Newydd i’w gweld yn Safle Celf Galeri hyd at Ionawr y 9fed. Bydd yr holl baentiadau ar werth.

Ar ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd bydd Luned yn arwain gweithdy peintio ar gyfer oedolion [oed 16+] rhwng 10:00 – 13:00. I archebu lle ar y gweithdy [£20], bydd angen cysylltu â Swyddfa Docynnau Galeri – 01286 685 222.
http://www.y-cymro.com/celf/i/2250/ 2014-11-13T00:00:00+1:00 Gwythiennau glo yn ysbrydoli artist lleol
Bydd gwaith diweddaraf yr artist o Aberystwyth, Mary Lloyd Jones, yn edrych ar dirwedd, creigiau a gwythiennau glo cymoedd De Cymru yn sgil cydweithio gyda Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (SDGD) Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae Mary yn gweithio ar 'Darganfyddwch y Cymoedd', prosiect sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i edrych o'r newydd ar dirluniau’r cymoedd drwy greu posteri a gweithiau celf eiconig gan ddeg o artistiaid gwahanol.

Ers tro byd bu ganddi ddiddordeb mewn archaeoleg, daeareg a thirweddau, ac maent yn amlwg iawn yn ei gwaith. Mae'r marciau cyntaf a wnaed gan ddyn ar greigiau a cherfluniau wedi dal ei dychymyg ac yn naturiol, byddant yn rhan o'r gwaith mae’n ei gynhyrchu ar gyfer prosiect y cymoedd.

Gyda'i stiwdio yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Mary wedi gwneud yn fawr o fapiau daearegol a delweddau lloeren o SDGD ac mae’n teimlo eu bod yn creu persbectif newydd a gwahanol i’w gwaith.

Dywedodd, "Rwy'n hynod o ffodus fod y Brifysgol ar stepen fy nrws. Mae'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ased mawr o ran fy ngwaith i ac yn cynnig i mi’r cyfle i weld ffurfiannau creigiau o safbwynt gwahanol, sy’n gymorth mawr wrth greu gweithiau celf newydd.

"Mae'r cymoedd yn arbennig, yn dirwedd cyfareddol sy’n llawn o wythiennau diddorol, haenau, tywodfaen, lleidfaen a charreg glai sydd i’w gweld yn glir ar y mapiau ac yn creu patrymau gwych. Rwy’n casglu syniadau o'r mapiau yma ac yna’n creu darn o gelf sy'n adlewyrchu traddodiadau Cymreig, y berthynas gyda'r tir a'r ymwybyddiaeth o hanes.

"Mae'n bwnc pwerus ac mae cael cyfle i weithio ar gynllun o’r fath yn destun balchder ac yn anrhydedd i mi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael trafod y gweithiau i gyd gyda’r artistiaid eraill a'u gweld wedi’u harddangos yn ddiweddarach yn y flwyddyn."

Dywedodd cartograffydd a churadur mapiau SDGD, Antony Smith, "Mae bob amser yn bleser gweithio gyda Mary ac mae darparu mapiau a delweddau lloeren ar gyfer ysbrydoliaeth artistig yn newid braf. Mae'n ddiddorol sylwi ar ei sgiliau creadigol wrth greu gwaith celf o ddeunydd o ffynhonnell wahanol ac mae’n gyffrous gweld y cynnyrch terfynol yn dilyn ei holl waith caled."

Symudodd Mary Lloyd Jones i’w stiwdio newydd yn yr Hen Goleg ym mis Ionawr 2013. Cyn hynny roedd hi’n gweithio yn un o unedau creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Fel artist Mary wedi hen ennill ei phlwy yng Nghymru ac fe’i hurddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2009. Ers ei phlentyndod bu’n tynnu lluniau a pheintio'r byd o’i chwmpas, ac mae wedi bod yn arddangos ei gwaith ers 1966.

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect Darganfyddwch y Cymoedd yw ymgyrchoedd posteri eiconig Shell yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Derbyniodd y cynllun gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r prosiect 'Darganfyddwch y Cymoedd' wedi’i ddyfeisio gan bartneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd a ariennir drwy brosiect Interreg IVB WECAN ar y cyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn cymryd ysbrydoliaeth o ymgyrchoedd poster eiconig Shell o ganol yr ugeinfed ganrif.

Mynegodd Dr David Llewellyn, cydlynydd Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ei foddhad o gael Mary yn rhan o’r prosiect, "Fe wnaeth dros 150 o artistiaid ddangos diddordeb yn y prosiect ac rydym yn hynod falch fod Mary, sydd yn creu gwaith beiddgar a bywiog ac yn cymryd ei hysbrydoliaeth o dirwedd Cymru, yn un o'r rhai a ddewiswyd.”

Dewiswyd deg o artistiaid i gynhyrchu gweithiau celf fydd yn cael eu defnyddio mewn ymgyrch poster ac mae arddangosfa fawr ar y gweill ar gyfer mis Hydref 2013 yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar. Am fwy o fanylion, ewch i http://www.discoverthevalleys.org.uk.
http://www.y-cymro.com/celf/i/1705/ 2013-07-12T00:00:00+1:00 Dwy arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Mae cyfle i weld dwy arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd 2 Mawrth, 2013. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cyflwyno arddangosfa ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ a’r arlunydd Karina Rosanne Barrett yn arddangos ei gwaith trawiadol hithau.

Arddangosfa newydd o ddelweddau o archif y Comisiwn Brenhinol sy’n rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser yw ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys delweddau wedi’u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth; gyda bron i ddwy filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau hi yw’r archif weledol fwyaf yng Nghymru.

Mae’r delweddau’n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand, a byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliadau'r amgueddfa. I gyd-fynd a’r arddangosfa, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cyhoeddi llyfr newydd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a fydd yn cynnwys oddeutu 200 o ddelweddau allweddol o’i archif ac a fydd ar gael yn Oriel ac Amgueddfa Gwynedd.

Ar ddydd Sadwrn, 2 Mawrth am 2.00pm bydd cyfle i’r cyhoedd fwynhau sgwrs ddarluniadol gyda Rachael Barnwell, fydd yn rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd. Bydd hefyd gyfle i’r cyhoedd rannu ei hanesion, lluniau a gwrthrychau am fywyd yng Nghymru. Bydd tîm Casgliad y Werin wrth law i helpu pobl roi ei deunydd ar wefan Casgliad y Werin, rhwng 10.30am a 3.30pm.

‘Swyn yr aneddleoedd heriol’ yw teitl arddangosfa’r arlunydd Karina Rosanne Barrett. Wedi ei hysbrydoli yn uniongyrchol gan ei hamgylchfyd yn Eryri mae gan yr arlunydd cain yma ddiddordeb arbennig yn aneddleoedd traddodiadol yr ardal, yn enwedig y rhai a ganfyddir yn y lleoliadau diarffordd, wedi’u swatio’n uchel yn y bryniau, neu’n sefyll ar erchwyn Môr Iwerddon.

Ar ddydd Sadwrn, 16 Chwefror rhwng 1.00 - 2.30pm bydd cyfle i gyfarfod Karina a thrafod ei arddangosfa o luniau diweddar.

Mae’r arddangosfeydd i’w gweld ar ddyddiau Mawrth i Gwener 12.30-4.30pm a dydd Sadwrn 10.30am-4.30pm gydag arddangosfa Llyfrau Cymraeg i Blant yn parhau yn yr Amgueddfa hyd 16 Mawrth, 2013. Mae mynediad am ddim. Ffôn: 01248 353 368.

Llun: Gwaith Karina Rosanne Barrett: ‘A Storm Moves Across the Bay’

http://www.y-cymro.com/celf/i/1501/ 2013-02-07T00:00:00+1:00 Gwaith celf i wella iechyd meddwl
Mae cynllun sy’n gobeithio helpu pobl sy’n byw efo cyflyrau emosiynol megis iselder neu straen ar gael trwy Wasanaeth Amgueddfeydd a Chelf Cyngor Gwynedd.

Bwriad y rhaglen yw rhoi hwb i iechyd meddwl a lles emosiynol pobl drwy gynnig gweithdai celf a gweithgareddau creadigol gydag artistiaid proffesiynol yn eu canolfan hanesyddol neu gelfyddydol leol - sef Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor, Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd, Llanystumdwy ac Archifdy Meirionydd, Dolgellau.

Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd sy’n seicotherapydd celf dan hyfforddiant: “Mae’n cael ei gydnabod ers tro fod cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a bod yn greadigol o les i ni i gyd.

“Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser mewn canolfan greadigol a chreu gwaith celf sydd wedi ei ysbrydoli gan gasgliadau’r safleoedd. Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn ymuno â grŵp bychan a chefnogol, dan arweiniad artist cymunedol proffesiynol.

“Dyma gyfle i bobl adennill hyder, dysgu sgiliau newydd a rhannu’r profiad gyda phobl newydd.”

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ac i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch ag Annes Siôn yn Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu e-bostiwch AnnesSion@gwynedd.gov.uk

Mae canolfannau eraill yng Ngogledd Cymru yn darparu gweithdai Arteffact hefyd, cysylltwch am y manylion.

http://www.y-cymro.com/celf/i/1283/ 2012-08-31T00:00:00+1:00 Arddangosfa gelf newydd yng Nghaernarfon
Cynhelir arddangosfa gelf newydd yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon o ddydd Sadwrn, 1 Medi hyd nes dydd Sul, 21 Hydref fel rhan o’r cynllun Helfa Gelf flynyddol.

Dyma gyfle cyffrous i’r cyhoedd gael blas o waith 28 o wahanol artistiaid sy’n rhan o’r cynllun Helfa Gelf, drwy gydweithrediad Cyngor Gwynedd a Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru.

Mae digwyddiad Helfa Gelf yn gyfle i bobl ymweld â stiwdios a gweithleoedd artistiaid a chrefftwyr, a chael gweld drostynt eu hunain sut maent yn gweithio. Yr Helfa Gelf yw’r digwyddiad stiwdio agored fwyaf yng Ngogledd Cymru, gyda mwy na 300 o arlunwyr yn cymryd rhan drwy Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam bob penwythnos yn ystod mis Medi.

Yn ychwanegol, cynhelir gweithdy galw i mewn rhad ac am ddim ar Ddydd Sadwrn 15 Medi rhwng 12-4pm yn Oriel Pendeitsh gydag Anwen Roberts, arlunydd o Ynys Môn, a fydd yn creu blodau ac ieir bach yr haf gyda gwifren a resin hylif.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd: “Drwy gefnogi’r digwyddiad yma, amcan Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Gwynedd yw agor drysau’r stiwdios i’r cyhoedd er eu mwynhad a chynnig cyfle i ddysgu mwy am gelf a chrefft yng nghwmni’r artistiaid, cynyddu gwerthiant cynnyrch cynhyrchwyr Gwynedd drwy gyfrannu tuag at yr economi leol a chyfrannu tuag at y diwydiant twristiaeth.

“Mae Oriel Pendeitsh yn falch o allu cefnogi’r digwyddiad yn y stiwdios gan gyflwyno arddangosfa gymysg sy’n rhoi blas ar yr amrywiaeth eang o waith i’w weld gan artistiaid a chrefftwyr ar draws y chwe sir sydd yn rhan o Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru.”

Ar 30 Medi bydd taith bws am ddim yn ymweld ag amryw o leoliadau stiwdio yn yr ardal gan gychwyn yn Oriel Pendeitsh. Am fanylion pellach ac i gadw sedd cysylltwch â

AnnesSion@gwynedd.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am yr Helfa Gelf, gan gynnwys mapiau, lluniau, teithiau ac ati, ewch i’r wefan www.helfagelf.co.uk

Llun: ‘Geirionydd’ gan Huw Gareth Jones

http://www.y-cymro.com/celf/i/1269/ 2012-08-23T00:00:00+1:00 Arddangosfa gynta Wynne Melville yn y gogledd
Cynhelir  arddangosfa gynta Wynne Melville Jones yn y gogledd – 47 o luniau ar gynfas yng Nghanolfan y Plase, Y Bala rhwng 25 Awst - 14 Medi.

Mae’n dilyn ei arddangosfa lwyddiannus ym mis Mai yn Aberystwyth a ddenodd gannoedd o ymwelwyr i Ganolfan y Morlan.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys nifer o luniau a ysbrydolwyd gan iconau lleol megis, Llyn Tegid, Yr Aran, Hen Dy’r Ysgol Llanuwchlyyn a man geni Michael D Jones sylfaenydd y Wladgfa ym Mhatagonia.

http://www.y-cymro.com/celf/i/1271/ 2012-08-23T00:00:00+1:00 RSPB Cymru yn dathlu ugain mlynedd ar Ynys Dewi efo arddangosfa gelf unigryw
Eleni, mae RSPB Cymru yn dathlu 20 mlynedd o reoli Ynys Dewi – ers iddi brynu’r warchodfa ym 1992.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf cyflawnwyd llawer a chafwyd cyfnodau cofiadwy ar Ynys Dewi, megis ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym 1996, a phroject a lwyddodd i gael gwared â llygod ffyrnig o’r ynys yn 2000.  O ganlyniad i hyn, cafwyd cynnydd yn y nifer o adar drycin Manaw sy’n nythu mewn tyllau yn y ddaear, a chafwyd y cofnod cyntaf bod y pedryn drycin yn nythu yno.

Dechreuodd y wardeiniaid cyntaf i fyw yno’n llawn amser - y gŵr a gwraig Greg a Lisa Morgan - weithio ar yr ynys ym 2005 ac maen nhw’n parhau i reoli’r warchodfa ar ran ei bywyd gwyllt hyd heddiw.  Meddai Greg: “Roeddem wrth ein bodd pan gawsom y cyfle i fod yn wardeniaid ar Ynys Dewi ac mae’n anodd credu ein bod yma ers saith mlynedd.  Mae hi’n ynys anhygoel gyda llu o fywyd gwyllt a chynefinoedd -ac mae pob diwrnod yn hollol wahanol!”

I ddathlu 20 mlynedd ers i Ynys Dewi ddod yn eiddo i’r RSPB, bydd RSPB Cymru yn lansio Arddangosfa Gelf 20fed Pen-blwydd Ynys Dewi yng Nghanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhŷ Ddewi ar ddydd Mercher 11 Gorffennaf, gan arddangos gwaith Rhian Field, yr arlunydd a’r cefnogwr lleol.

Trefnir yr arddangosfa gyda chefnogaeth perchennog Oriel y Parc a Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sef Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd hefyd yn ei rheoli.  Mae’r Oriel hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

Wrth siarad am yr arddangosfa, meddai Paula Ellis, Rheolwr Oriel y Parc: “Rydym yn falch iawn o allu cynnal yr arddangosfa unigryw hon ac i groesawu Rhian Field yn ôl i’r ganolfan yn dilyn ei chyfnod preswyl llwyddiannus gyda ni fis Medi diwethaf.  Oriel y Parc yw’r lleoliad perffaith i helpu RSPB Cymru i ddathlu eu pen-blwydd arbennig.  Bydd hefyd yn gyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosfa John Piper yn ein horiel.”

Mae’r peintiadau olew trawiadol sy’n darlunio bywyd gwyllt eiconig ac unigryw'r ynys, ei thirlun a’i hadeiladau wedi eu creu’n arbennig gan Rhian Field, sy’n gyn-Arlunydd Preswyl yn Oriel y Parc.  Bydd Rhian yn cyfrannu canran o’r holl werthiannau tuag at waith cadwraeth parhaol ar Ynys Dewi ac o’i chwmpas.

Meddai Rhian, a gwblhaodd radd mewn Astudiaethau Amgylchedd Arfordirol a Morol yn 2010 gyda Phrifysgol Morgannwg: “Mae gen i ddiddordeb yn yr wyddoniaeth y tu ôl i’r tirlun a’r effeithiau dynol ar fywyd gwyllt a’u hamgylchedd.  Bydd fy ngwaith yn amlygu llwyddiannau cadwraethol Ynys Dewi ac yn pwysleisio’r neges ddifrifol bod angen gwarchod y tirlun morol os yw am oroesi a bod angen i ni fod yn ymwybodol o’n rôl ni yn ei oroesiad.”

Mae hyn yn clymu i mewn â neges ymgyrch morol presennol RSPB Cymru sydd â’r nod o amlygu’r ffaith nad oes yr un Ardal Morol Gwarchodedig (AMG) wedi ei dynodi ar gyfer adar môr dyfroedd Cymru sy’n nythu.

Mae ein bywyd morol, uwchben ac o dan wyneb y môr, yn diflannu o dan bwysau cynyddol gweithgareddau dynol, ac mae AMG yn sicrhau ein bod yn gallu rheoli ein moroedd gwerthfawr mewn dull cynaliadwy.

Mae Sir Benfro yn cynrychioli nythfeydd o adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol megis adar drycin Manaw, huganod, gwylanod coesddu a charfilod (gwylogod, palod a llursod) sy’n nythu.  Cred RSPB Cymru ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru ddynodi AMG (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, SDdGA a Pharthau Cadwraeth Morol) ar gyfer adar môr er mwyn ateb anghenion y Cyfarwyddyd Adar a’n hymrwymiadau rhyngwladol amrywiol i sefydlu rhwydwaith ecolegol gydlynol o AMG yn nyfroedd y DU.

I weld y portffolio presennol o waith Rhian Field ewch i www.rhianfield-art.co.uk.  Mae RSPB Ynys Dewi ar agor bob dydd rhwng mis Ebrill a mis Hydref (os bydd y tywydd yn caniatáu).  Cewch fanylion ar ein tudalennau gwefan www.rspb.org.uk/reserves/guide/r/ramseyisland neu ffoniwch Thousand Islands Expeditions ar 01437 721721.

Cynhelir arddangosfa 20fed pen-blwydd yr RSPB rhwng dydd Mercher 11 Gorffennaf a 31 Gorffennaf yn y Twr a’r Caffi yn Oriel y Parc.  Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa ffoniwch 02920 353 007.  Am fwy o wybodaeth am Oriel y Parc ffoniwch 01437 720392, e-bostiwch infor@orielyparc.co.uk neu ewch i www.orielyparc.co.uk .

Cofiwch Gamu ’Mlaen drwy arwyddo adduned RSPB Cymru sy’n galw ar weinidogion i warchod ein hadar môr sydd allan ar y môr ar www.rspb.org.uk/marinepetition.  Am fwy o wybodaeth am ymgyrch morol Camu ’Mlaen dros Natur yr RSPB ewch i http://www.rspb.org.uk/stepup2020/wales/sealife.aspx

http://www.y-cymro.com/celf/i/1199/ 2012-07-28T00:00:00+1:00 Arddangosfa gan raddedigion celf gain
Mae  graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain, Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor yn arddangos uchafbwyntiau eu gwaith yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd ddydd Sadwrn 30 Mehefin.

Fe agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan yr arlunydd Bedwyr Williams, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Celf Gyhoeddus i Bontio. Rhoddwyd y wobr-brynu eleni i’r graddedig Rob Stephen am ei gyfres o ffotograffau hunanbortread. Mae’r wobr hon ar gael drwy Bwyllgor Casgliad Celf Cronfa T Rowland Hughes.

Petaech a diddordeb cofrestru ar un o gyrsiau celf gain ar gael yn y Brifysgol o fis Medi ymlaen, am fanylion, cysylltwch â Annie Davies ar 01248 382475 neu safle we Dysgu Gydol Oes www.bangor.ac.uk/ll

Gwelir detholiad o uchafbwyntiau gwaith graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain Coleg Menai o Orffennaf 7 - 21 yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.

Llun: (Chwith i’r dde) Graddedigion John Lloyd, Debbie Roberts, Peter Read, Rob Stephen a Bedwyr Williams a agorodd yr arddangosfa.
http://www.y-cymro.com/celf/i/1181/ 2012-06-22T00:00:00+1:00 Campwaith Titian Diana ac Actaeon yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bydd gan ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyfle unigryw i weld un o beintiadau pwysicaf Dadeni’r Eidal y gwanwyn hwn. Bydd llun enwog Titian Diana ac Actaeon yn ymweld â Chaerdydd ar daith o’r Oriel Genedlaethol, Llundain ac yn cael ei arddangos o 19 Ebrill – 17 Mehefin 2012. Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor yn hwyr tan 7.30pm ar ddydd Iau 19 Ebrill i ymwelwyr sydd am fod y cyntaf i weld y campwaith Fenisaidd o’r 16eg ganrif.

Mae Orielau Cenedlaethol yr Alban a’r Oriel Genedlaethol, Llundain yn gydberchnogion ar y gwaith hynod hwn a brynwyd dros y genedl yn 2009 am £50 miliwn, trwy gyfraniadau preifat a chyhoeddus hael.

Mae’r paentiad yn un o weithiau gorau’r artist – yn hynod oherwydd ei faint uchelgeisiol, unoliaeth fedrus y lliwiau, testun y gwaith a’i gyflwr ardderchog.

Mae Diana ac Actaeon yn un o chwech o gynfasau mawr chwedlonol a baentiwyd gan Titian ar gyfer Philip II brenin Sbaen ac sydd wedi’u hysbrydoli gan waith y bardd Rhufeinig Ofydd. Dechreuodd Titian ar y paentiad hwn a’i gymar Diana a Callisto (a brynwyd dros y genedl wedi i Ddug Sutherland gytuno ar £45m) ym 1556, blwyddyn coroni Philip. Gyda bri nawddogaeth frenhinol yn sbardun, defnyddiodd ei ystod creadigol llawn wrth greu gweithiau llawn prydferthwch a dyfeisgarwch nas gwelwyd eu bath cyn hynny.

Bu Titian wrthi am dair mlynedd yn perffeithio’r campweithiau, cyn eu cludo i Sbaen ym 1559. Honnodd taw’r rheswm dros yr oedi oedd ei fod wedi mynd i drafferthion di-ben-draw i greu gwaith oedd yn deilwng o’r brenin.

Meddai Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol Hanes Celf, Amgueddfa Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod paentiad mor bwysig a phrydferth yn cael ei arddangos yma yng Nghaerdydd. Mae’n gampwaith o’r iawn ryw! Mae’n siŵr taw Diana ac Actaeon gan Titian yw’r pryniad celf mwyaf nodedig y DU yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n gyfle gwych i bobl gael golwg dda arno. Bydd yn gaffaeliad i’r casgliad celf hanesyddol yn ystod ei ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru."

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
http://www.y-cymro.com/celf/i/1025/ 2012-04-13T00:00:00+1:00 Dewch i weld dwy arddangosfa arbennig
Mae dwy arddangosfa newydd ar fin agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd Bangor. Bydd cyfle i weld gwaith newydd gan yr arlunydd Andrew Smith a’r dylunydd Ann Catrin Evans rhwng 21 Ebrill a 9 Mehefin 2012. Bydd yr arddangosfa yn cael ei agor yn swyddogol gan Mike Knowles.

Arddangosfa o baentiadau newydd gan Andrew Smith yw ‘Ar Ymyl Lliw’, i gyd wedi cael eu cynhyrchu yn ei stiwdio yn Harlech, ble mae golau plyg Bae Tremadog yn llifo drwy’r ffenestri yn rhoi bywyd i’r gofod tu mewn ac yn dylanwadu ar ei ymchwil i liw.

Mae Andrew wedi gweithio efo lliw yn gyson am dros ugain mlynedd, gan ymchwilio i wahanol brosesau a dulliau, yn cynnwys gwneud printiau (The Surface of Colour 2001); cydweithio ar sefydlu cysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol (Galicia 2002, Macedonia 2003, Mecsico 2004, Gwlad Pwyl 2004 ac Awstralia 2009) a phrosiectau celf gyhoeddus (Y Barri 2009, Caerdydd 2010 a Rwsia 2011). Dyma arddangosfa gyntaf Andrew yng Nghymru ers En Route yn Oriel Davies Gallery yn 2007.

Meddai Andrew am ei waith newydd: “Dros amser, mae’r broses o wneud lluniau wedi arwain at liw fel yr unig wir gyfeiriad i mi ar gyfer paentio. Wrth ystyried llun a lliw, mae ymylon y lliw yn diffinio paramedr y ddelwedd a thrwy anghysondeb greddfol, mae’n tynnu’r amgylchedd allanol i mewn i’r paentiad. Mae ansawdd y lliw yn rhyngweithio â’r ddelwedd ynghyd â’r strwythur.”

Mae Ann Catrin Evans yn ddylunydd gwneuthurwr 3D metel. Mae’n adnabyddus yn genedlaethol a rhyngwladol am ei Dodrefn Drysau unigryw ac am ei Cherfluniau Cyhoeddus.

Mae’r arddangosfa hon i gyd yn waith newydd o weiren haearn, ychydig yn fwy ysgafn a bregus na’i gwaith blaenorol. Mae gwaith haniaethol a thirlun mawr o weiren wedi eu fframio, darluniau copr lliwgar wedi eu boglynnu, llestr a phlatiau cywrain a gemwaith cain.

Ers graddio mewn Dylunio 3D mae Ann wedi cwblhau nifer sylweddol o gomisiynau mewn amryw ddeunydd, wedi casglu amryw wobr ac mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o arddangosfeydd pwysig adref a dramor.

Yn 2011 dyluniodd Ann waith celf ar gyfer Llys Dafydd yr amffitheatr awyr agored ym Methesda gan gynnwys rheiliau a giât, cerflun Y Chwarelwr mewn dur corten a dyluniadau wedi eu cerfio ar lechen yn seiliedig ar Cerfiadau Traddodiadol Dyffryn Ogwen gan Gwenno Caffell.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Weledol Cyngor Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o lwyfannu dwy arddangosfa sy’n cyflwyno gwaith newydd gan Andrew Smith ac Ann Catrin Evans. Mae cydbwysedd a dylunio yn cael sylw cyson yng ngwaith y ddau artist yma. Mae’r arddangosfeydd yn eu tro yn cyflwyno i’r ymwelydd feiddgarwch deinamig lliw gan Andrew a chryfder a sensitifrwydd ffurf gan Ann.”

Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30, ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd
http://www.y-cymro.com/celf/i/1024/ 2012-04-13T00:00:00+1:00 Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda chelf
Mae wyth artist benywaidd o ogledd Cymru yn arddangos eu gwaith ar y cyd yn Oriel Pendeitsh Caernarfon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, 2012.

Ar y diwrnod – 8 Mawrth 2012 – death yr artistiaid ynghyd i ddathlu gyda’u cyfeillion a’u gwesteion yn yr oriel. Bydd yr arddangosfa yn agored i’r cyhoedd hyd 17 Mawrth.

Mae’r diwrnod rhyngwladol sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiant economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol merched o’r gorffennol, presennol a’r dyfodol. Cynhelir miloedd o ddigwyddiadau ledled y byd i ysbrydoli merched i ddathlu eu llwyddiannau bob blwyddyn, mewn nifer o wledydd mae 8 Mawrth yn wyliau cenedlaethol.

Mae’r arddangosfa yn dod ag wyth artist o ogledd Cymru ynghyd, i ddathlu eu llwyddiannau creadigol fel rhan o gydweithio ehangach gyda Chymdeithas Gelfyddyd Merched Cymru.

Vivienne Rickman-Poole, ffotograffydd lleol o Lanberis sy’n gyfrifol am arwain y grŵp i greu’r arddangosfa unigryw yma. Mae ei gwaith wedi cael ei ddisgrifio fel cymysgfa amrywiol sy’n cymryd ysbrydoliaeth weledol o fywyd o ddydd i ddydd.

Hefyd yn cymryd rhan yn yr arddangosfa mae’r artist a’r gwneuthurwr print Eleri Jones sy’n cael ei ysbrydoli gan ei theulu, magwraeth a’i chynefin; Pwyles yw’r ffotograffydd Ewa Bloniarz, sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ei phrif ysbrydoliaeth yw siapiau, teimlad golau a ffurfiau; Mae Wendy Leah Dawson yn artist metal a gemwaith sy’n cymryd ysbrydoliaeth o hynafiaeth, mecanwaith a dyfeisio; Mae gwaith diweddar Nerys Jones yn cyfuno amrywiaeth o ddulliau trin tecstil.

Gof arian yw Miranda Meilleur sy’n creu llestri, llwyau a darnau cerfluniol; Mae Chloe Needham yn gweithio yn bennaf gyda dyfrlliw a thorri papur ac yn defnyddio themâu personol a chyffredinol; ac mae casgliad diweddar Annwen Burgess o luniau yn canolbwyntio ar fywyd y teulu a gwrthrychau bywyd bob dydd.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o gynnal yr arddangosfa yma a chefnogi’r artistiaid hyn yn ei dathliad o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae’n braf gweld gogledd Cymru yn cael ei gysylltu gyda digwyddiadau byd eang fel hyn.”

Mae Oriel Pendeitsh, Caernarfon ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn, 10.00 – 3.30. Am fwy o fanylion ffoniwch 01286 676 476 / 01286 679 564.

LLUN: Pedair o’r arlunwyr y mae modd gweld eu gwaith yn yr arddangosfa: Chloe Needham, Nerys Jones, Vivienne Rickman-Poole ac Ewa Bloniarz yn ystod dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth yn Oriel Pendeitsh
http://www.y-cymro.com/celf/i/938/ 2012-03-12T00:00:00+1:00 Mynyddoedd Cymru gan John Piper yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Caiff cyfraniad aruthrol John Piper (1903-1992) at gelf Brydeinig yr 20fed ganrif ei gydnabod mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd paentiadau a darluniau o gasgliad preifat yn cael ei arddangos fel rhan o John Piper: Mynyddoedd Cymru o 11 Chwefror – 13 Mai 2012.

Mae Ymddiriedolaeth Colwinston, Canolfan Paul Mellon ar gyfer Astudiaethau Celf Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth i’r arddangosfa. I gyd-fynd â’r arddangosfa, cynhyrchwyd catalog gan y curadur Melissa Munro, sy’n cynnwys traethawd gan David Fraser Jenkins, cyn Uwch Guradur oriel Tate.

Fel un o artistiaid Prydeinig mwyaf amryddawn yr 20fed ganrif, cynhyrchodd bortreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg, dyluniadau gwydr lliw a thapestrïau. Roedd gan Piper ddiddordeb yn nhirlun a pensaernïaeth pob cwr o Brydain.

Yn yr arddangosfa hon cawn gyfle i weld grŵp o olygfeydd yn Eryri o gasgliad preifat o waith John Piper. Bu mynyddoedd gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth fawr iddo o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, a bu’n llogi dau fwthyn yn Eryri yn ystod y cyfnod; Pentre yng Ngwm Nant Ffrancon a Bodesi, ger Llyn Ogwen gyferbyn â Tryfan. Teithiodd ar hyd a lled yr ardal o’r ddwy ganolfan hon, gan ddarlunio ffurfiau cymhleth, lled-haniaethol a lliwiau cyfoethog y mynyddoedd. O’r 36 o weithiau yn yr arddangosfa, mae 29 yn dod o’r casgliad preifat hwn.

Ei waith fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddaeth â John Piper i gysylltiad â gogledd Cymru am y tro cyntaf. Ym 1943 anfonodd y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel ef i gofnodi y tu mewn i chwarel Manod Mawr. Esgorodd hyn ar gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru mewn casgliad o waith sydd ymysg ei lwyddiannau mwyaf.

Meddai Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams, Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno’r arddangosfa hon a hoffem ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cyfraniad hael; Ymddiriedolaeth Colwinston Trust, Canolfan Paul Mellon ac Ymddiriedolaeth Derek Williams. Calon yr arddangosfa yw casgliad o baentiadau Piper o Eryri o tua 1943-51 – pob un bron o gasgliad preifat, ac mae cael eu harddangos yn gyhoeddus yn wych o beth.”

Bydd yr arddangosfa yn mynd ar daith i Oriel y Parc, Tyddewi, Oriel Mostyn, Llandudno ac Oriel Gelf Whitworth, Manceinion yn 2012-2013.
http://www.y-cymro.com/celf/i/891/ 2012-02-10T00:00:00+1:00 Dwy arddangosfa gyffrous wedi agor
Mae dwy arddangosfa wedi agor ochr yn ochr â'i gilydd yn ddiweddar yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Cafodd yr arddangosfa ei agor yn swyddogol nos Wener ddiwethaf 13 Ionawr gan yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 25 Chwefror 2012.

Mae arddangosfa Storïau a Siwrnai yn dathlu diwedd blwyddyn Nichola Goff a Michael McMillan fel artistiaid preswyl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn rhedeg ochr yn ochr ag arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, gan Elizabeth Ashworth.

Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a digwyddiadau sy’n dod â chleifion, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff at ei gilydd gydag artistiaid a’r gymuned leol i fwynhau'r celfyddydau.

Dywedodd Nichola Goff artist/ gwneuthurwr print fu’n gweithio ar Ward Arennol yn Ysbyty Gwynedd: “Fel artist preswyl rwyf wedi mwynhau’r sialensiau, y cynnwrf a’r hyfrydwch o weithio gyda chleifion sy’n derbyn triniaeth dialysis, y gofalwyr a’r staff. Cefais groeso cynnes yn y Ward Arennol, roedd y flwyddyn yn daith o hunan ddarganfyddiad fel artist drwy weithio mewn amgylchedd newydd a heriol. Roedd hefyd yn ddarganfyddiad i’r rhai oedd yn cymryd rhan, yn canfod bod ganddynt dalentau celfyddydol na wyddent amdanynt gynt.”

Mae’r arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, gan Elizabeth Ashworth yn ganlyniad wyth mis o waith gan yr artist o Lanfairfechan yn dilyn grant prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei thema.

Mae’r tirweddau i gyd o ogledd Cymru - yn aml draethau Ynys Môn a Llanfairfechan. Nid yw’r lluniau yn rhai realistic nac yn rhamantus ond yn archwilio syniad gwahanol o sut mae tirwedd sy’n newid yn gallu ein gorlethu, ac yn gwneud i ni deimlo yn unig. Ar yr un pryd bwriad yr artist yw i’r gwaith fod yn galonogol a dyrchafol.

Yn ogystal bydd arddangosfa gyffrous arall yn agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar 21 Ionawr. Gan ddefnyddio dillad isaf a dillad arferol o gasgliad gwisgoedd eang Amgueddfa Gwynedd, mae’r arddangosfa ‘Newid Siâp’ yn ei le tan 14 Ebrill.

Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30. Mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

LLUNIAU: (o chwith i dde) Yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Liz Aylett Pennaeth Therapi Celfyddydau - Rheolwr Rhaglen Celfyddyd mewn Iechyd a Lles, Nichola Goff, artist preswyl (Arddangosfa Storïau a Siwrnai) a Michael McMillan, artist preswyl (Arddangosfa Storïau a Siwrnai)
http://www.y-cymro.com/celf/i/821/ 2012-01-19T00:00:00+1:00