Celf

RSS Icon
12 Mawrth 2012

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda chelf

Mae wyth artist benywaidd o ogledd Cymru yn arddangos eu gwaith ar y cyd yn Oriel Pendeitsh Caernarfon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, 2012.

Ar y diwrnod – 8 Mawrth 2012 – death yr artistiaid ynghyd i ddathlu gyda’u cyfeillion a’u gwesteion yn yr oriel. Bydd yr arddangosfa yn agored i’r cyhoedd hyd 17 Mawrth.

Mae’r diwrnod rhyngwladol sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiant economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol merched o’r gorffennol, presennol a’r dyfodol. Cynhelir miloedd o ddigwyddiadau ledled y byd i ysbrydoli merched i ddathlu eu llwyddiannau bob blwyddyn, mewn nifer o wledydd mae 8 Mawrth yn wyliau cenedlaethol.

Mae’r arddangosfa yn dod ag wyth artist o ogledd Cymru ynghyd, i ddathlu eu llwyddiannau creadigol fel rhan o gydweithio ehangach gyda Chymdeithas Gelfyddyd Merched Cymru.

Vivienne Rickman-Poole, ffotograffydd lleol o Lanberis sy’n gyfrifol am arwain y grŵp i greu’r arddangosfa unigryw yma. Mae ei gwaith wedi cael ei ddisgrifio fel cymysgfa amrywiol sy’n cymryd ysbrydoliaeth weledol o fywyd o ddydd i ddydd.

Hefyd yn cymryd rhan yn yr arddangosfa mae’r artist a’r gwneuthurwr print Eleri Jones sy’n cael ei ysbrydoli gan ei theulu, magwraeth a’i chynefin; Pwyles yw’r ffotograffydd Ewa Bloniarz, sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ei phrif ysbrydoliaeth yw siapiau, teimlad golau a ffurfiau; Mae Wendy Leah Dawson yn artist metal a gemwaith sy’n cymryd ysbrydoliaeth o hynafiaeth, mecanwaith a dyfeisio; Mae gwaith diweddar Nerys Jones yn cyfuno amrywiaeth o ddulliau trin tecstil.

Gof arian yw Miranda Meilleur sy’n creu llestri, llwyau a darnau cerfluniol; Mae Chloe Needham yn gweithio yn bennaf gyda dyfrlliw a thorri papur ac yn defnyddio themâu personol a chyffredinol; ac mae casgliad diweddar Annwen Burgess o luniau yn canolbwyntio ar fywyd y teulu a gwrthrychau bywyd bob dydd.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o gynnal yr arddangosfa yma a chefnogi’r artistiaid hyn yn ei dathliad o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae’n braf gweld gogledd Cymru yn cael ei gysylltu gyda digwyddiadau byd eang fel hyn.”

Mae Oriel Pendeitsh, Caernarfon ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn, 10.00 – 3.30. Am fwy o fanylion ffoniwch 01286 676 476 / 01286 679 564.

 

LLUN: Pedair o’r arlunwyr y mae modd gweld eu gwaith yn yr arddangosfa: Chloe Needham, Nerys Jones, Vivienne Rickman-Poole ac Ewa Bloniarz yn ystod dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth yn Oriel Pendeitsh

Rhannu |