Celf

RSS Icon
10 Chwefror 2012

Mynyddoedd Cymru gan John Piper yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Caiff cyfraniad aruthrol John Piper (1903-1992) at gelf Brydeinig yr 20fed ganrif ei gydnabod mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd paentiadau a darluniau o gasgliad preifat yn cael ei arddangos fel rhan o John Piper: Mynyddoedd Cymru o 11 Chwefror – 13 Mai 2012.

Mae Ymddiriedolaeth Colwinston, Canolfan Paul Mellon ar gyfer Astudiaethau Celf Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth i’r arddangosfa. I gyd-fynd â’r arddangosfa, cynhyrchwyd catalog gan y curadur Melissa Munro, sy’n cynnwys traethawd gan David Fraser Jenkins, cyn Uwch Guradur oriel Tate.

Fel un o artistiaid Prydeinig mwyaf amryddawn yr 20fed ganrif, cynhyrchodd bortreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg, dyluniadau gwydr lliw a thapestrïau. Roedd gan Piper ddiddordeb yn nhirlun a pensaernïaeth pob cwr o Brydain.

Yn yr arddangosfa hon cawn gyfle i weld grŵp o olygfeydd yn Eryri o gasgliad preifat o waith John Piper. Bu mynyddoedd gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth fawr iddo o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, a bu’n llogi dau fwthyn yn Eryri yn ystod y cyfnod; Pentre yng Ngwm Nant Ffrancon a Bodesi, ger Llyn Ogwen gyferbyn â Tryfan. Teithiodd ar hyd a lled yr ardal o’r ddwy ganolfan hon, gan ddarlunio ffurfiau cymhleth, lled-haniaethol a lliwiau cyfoethog y mynyddoedd. O’r 36 o weithiau yn yr arddangosfa, mae 29 yn dod o’r casgliad preifat hwn.

Ei waith fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddaeth â John Piper i gysylltiad â gogledd Cymru am y tro cyntaf. Ym 1943 anfonodd y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel ef i gofnodi y tu mewn i chwarel Manod Mawr. Esgorodd hyn ar gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru mewn casgliad o waith sydd ymysg ei lwyddiannau mwyaf.

Meddai Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams, Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno’r arddangosfa hon a hoffem ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cyfraniad hael; Ymddiriedolaeth Colwinston Trust, Canolfan Paul Mellon ac Ymddiriedolaeth Derek Williams. Calon yr arddangosfa yw casgliad o baentiadau Piper o Eryri o tua 1943-51 – pob un bron o gasgliad preifat, ac mae cael eu harddangos yn gyhoeddus yn wych o beth.”
 

Bydd yr arddangosfa yn mynd ar daith i Oriel y Parc, Tyddewi, Oriel Mostyn, Llandudno ac Oriel Gelf Whitworth, Manceinion yn 2012-2013.

Rhannu |