Celf

RSS Icon
19 Ionawr 2012

Dwy arddangosfa gyffrous wedi agor

Mae dwy arddangosfa wedi agor ochr yn ochr â'i gilydd yn ddiweddar yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Cafodd yr arddangosfa ei agor yn swyddogol nos Wener ddiwethaf 13 Ionawr gan yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 25 Chwefror 2012.

Mae arddangosfa Storïau a Siwrnai yn dathlu diwedd blwyddyn Nichola Goff a Michael McMillan fel artistiaid preswyl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn rhedeg ochr yn ochr ag arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, gan Elizabeth Ashworth.

Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a digwyddiadau sy’n dod â chleifion, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff at ei gilydd gydag artistiaid a’r gymuned leol i fwynhau'r celfyddydau.

Dywedodd Nichola Goff artist/ gwneuthurwr print fu’n gweithio ar Ward Arennol yn Ysbyty Gwynedd: “Fel artist preswyl rwyf wedi mwynhau’r sialensiau, y cynnwrf a’r hyfrydwch o weithio gyda chleifion sy’n derbyn triniaeth dialysis, y gofalwyr a’r staff. Cefais groeso cynnes yn y Ward Arennol, roedd y flwyddyn yn daith o hunan ddarganfyddiad fel artist drwy weithio mewn amgylchedd newydd a heriol. Roedd hefyd yn ddarganfyddiad i’r rhai oedd yn cymryd rhan, yn canfod bod ganddynt dalentau celfyddydol na wyddent amdanynt gynt.”

Mae’r arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, gan Elizabeth Ashworth yn ganlyniad wyth mis o waith gan yr artist o Lanfairfechan yn dilyn grant prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei thema.

Mae’r tirweddau i gyd o ogledd Cymru - yn aml draethau Ynys Môn a Llanfairfechan. Nid yw’r lluniau yn rhai realistic nac yn rhamantus ond yn archwilio syniad gwahanol o sut mae tirwedd sy’n newid yn gallu ein gorlethu, ac yn gwneud i ni deimlo yn unig. Ar yr un pryd bwriad yr artist yw i’r gwaith fod yn galonogol a dyrchafol.

Yn ogystal bydd arddangosfa gyffrous arall yn agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar 21 Ionawr. Gan ddefnyddio dillad isaf a dillad arferol o gasgliad gwisgoedd eang Amgueddfa Gwynedd, mae’r arddangosfa ‘Newid Siâp’ yn ei le tan 14 Ebrill.

Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30. Mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

LLUNIAU: (o chwith i dde) Yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Liz Aylett Pennaeth Therapi Celfyddydau - Rheolwr Rhaglen Celfyddyd mewn Iechyd a Lles, Nichola Goff, artist preswyl (Arddangosfa Storïau a Siwrnai) a Michael McMillan, artist preswyl (Arddangosfa Storïau a Siwrnai)

Rhannu |