Celf

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Barbara Hepworth ar y brig yn Oriel y Parc

Mae newidiadau cyffrous yn digwydd yn Oriel y Parc a’r Ganolfan Ymwelwyr, Tyddewi, wrth i arddangosfa Stories from the Sea gyrraedd y cam olaf gyda gosod gweithiau a gwrthrychau celf newydd, gan gynnwys gwaith gan y cerflunydd Prydeinig nodedig Barbara Hepworth. Agorodd yr  arddangosfa newydd ar ddydd Gwener 18fed Tachwedd.

Barbara Hepworth yw un o bobl bwysicaf byd celf Prydeinig yr 20fed ganrif, ac roedd hi’n briod â’r arlunydd Ben Nicholson sydd â’i waith hefyd yn cael ei arddangos yn Oriel y Parc eleni. Ymsefydlodd hi wrth arfordir St Ives lle bu hi’n byw a gweithio yn ei stiwdio, Trewyn, o 1949 tan iddi farw yn 1975. Amgueddfa Barbara Hepworth yw’r stiwdio erbyn hyn, sef allorsaf Tate St Ives.

Dywedodd Bryony Dawkes, Curadur ProsiectauPartneriaeth ar gyfer Amgueddfa Cymru – National Museum Wales: “mae gwaithBarbara Hepworth mor gysylltiedig â’r môr a’r arfordir fel nad oeddStories from the Sea yn gyflawn hebddi hi!

Yn 1952 paentiwyd“Project (Group of Figures for Sculpture) – pan oedd ysgol St Ives ar ei hanterth, a lle roedd Hepworth, ynghyd â’i gŵr, Ben Nicholson, yn rhan mor fawr ohoni. Rydym yn ddiolchgar iawn i Oriel Glynn Vivian am ganiatåu i ni gael benthyg y darlun bendigedig hwn a dangos ei gwaith fel rhan o gam terfynol yr arddangosfa.”

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n rhedeg Oriel y Parc mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. Bob ychydig fisoedd caiff yr arddangosfa ei diweddaru, ac ymhlith y gweithiau newydd i’w harddangos gwelir:

 

· Paentiad olew gan Barbara Hepworth, ar fenthyg gan Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

 

· Detholiad o ddarnau gan Graham Sutherland, yr artist Prydeinig o’r 20fed ganrif, y bu ei gymynrodd i Sir Benfro yn fodd i agor Oriel y Parc, lle gwelir detholiad o waith gan Sutherland mewn arddangosfeydd teithiol bob amser.

 

· Gwaith gan yr artist cysyniadol Gavin Turk.

 

· Golygfa forol gan Augustus John, arlunydd mawr Prydeinig o’r 20fed ganrif a gafodd ei eni yn Ninbych y Pysgod.

 

· Esiamplau o ddysglau pren a sgrimsio morwrol, ar fenthyg o gasgliad preifat.

Mae’r arddangosfa newydd i’w gweld tan fis Mawrth 2012. Wedi hynny, yn agor ddiwedd Mawrth, bydd arddangosfa wedi’i chysegru’n llwyr i Graham Sutherland. Am wybodaeth bellach, ewch i www.orielyparc.co.uk.

 

Llun: Graham Sutherland, Cathedral

Rhannu |