Celf

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Tregaron yn y pedwar tymor

Mae Cors Caron, y warchodfa natur fyd enwog yn Nhregaron, wedi ysbrydoli arddangosfa o luniau unigryw newydd dros y 12 mis nesa a bydd y darluniau yn cael eu newid bedair gwaith yn ystod y flwyddyn.

Brodor o Dregaron yw Wynne Melville Jones ac wedi treulio 40 mlynedd yn gweithio ym myd cysylltiadau cyhoedus mae erbyn hyn wedi ail-gydio yn ei brif ddiddordeb – celfyddyd gain.

Nawr, mae wedi wedi ymgymryd â’r her o fynd ati i gynhyrchu 24 o ddarluniau gwreiddiol mewn olew i adlewyrchu Cors Caron yn y pedwar tymor.

Bydd 6 darlun o Gors Caron yn yr Hydref yn cael eu harddangos am gyfnod o 3 mis yng ngwesty enwog y Talbot ar sgwâr Tregaron.

Erbyn hyn mae Wyn Mel yn gweithio ar ail gyfres sy’n darlunio Cors Caron yn y Gaeaf a bydd y rhain yn cymryd lle yr arddangosfa o luniau’r Hydref ymhen 3 mis. Bydd lluniau y Gwanwyn a’r Haf yn ymddangos wedyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

“Fy nod yw ceisio dal ysbryd a naws Cors Caron yn ystod y 4 tymor ac mae gweithio ar y gyfres o luniau o’r Hydref wedi agor fy llygaid i gyfrinachau’r naturiol y Gors a chefais fy swyno gan effeithiau’r golau ar y tirlun a lliwiau euraid cyfoethog y Gors.

“Mae Cors Caron yn un o drysorau’r fro ac yn un o brif atyniadau ymwelwyr â’r ardal. Treuliais lawer awr o fy mhlentyndod yn chwarae ac yn pysgota yno ac yn fachgen ifanc cefais y profiad cofiadwy o deithio hyd y gors mewn canŵ ar yr afon Teifi.” medd Wynne.

Gellir gweld y lluniau yng Ngwesty’r Talbot yn Nhregaron ac yn ôl un o’r perchnogion John Watkin mae cael y cyfle i ddangos darluniau gan fachgen o Dregaron yn gwbwl briodol i Westy’r Talbot

Mae’r lluniau i gyd yn olew ar gynfas ac yn mesur 50 x 40 cm ac ar werth yn y gwesty.

Lansiodd Wynne Melville Jones ei wefan ei hun yn gynharach yn ystod y mis a gellir gweld nifer o’i luniau ar www.orielwynmel.co.uk

Llun: Catherine Hughes , Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Wynne Melville Jones a John Watkin o Westy'r Talbot ar achlysyur agor yr arddangosfa

Rhannu |