Celf

RSS Icon
04 Tachwedd 2011

Pwyntiwch a chliciwch trwy gasgliad celf enfawr yr oriel yn y llyfrgell

Gall pobl sy'n hoff o gelf  bori drwy filoedd o baentiadau, cerfluniau a gweithiau ceramig Oriel Glynn Vivian drwy glicio ar lygoden yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.

Mae system gyfrifiadurol o'r enw Modes sy'n dangos ac yn disgrifio pob darn yng nghasgliad yr oriel bellach wedi'i throsglwyddo i'r Llyfrgell Ganolog.

Mae'r cyfrifiadur ger adran gelfyddydau'r llyfrgell a bydd yn aros yno trwy gydol cyfnod ailddatblygu Oriel Glynn Vivian.

Caewyd yr oriel i'r cyhoedd ar ddiwedd mis Hydref ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth £6 miliwn a fydd yn cynnwys ystafell ddarlithio a chymunedol newydd, mynedfa newydd a siop ar lefel y stryd a mwy o le nag erioed o'r blaen ar gyfer arddangosion.

Bydd gwaith adeiladu'n cychwyn ar y safle yn y Flwyddyn Newydd a disgwylir iddo gymryd oddeutu dwy flynedd i'w gwblhau.

Mae staff y Llyfrgell Ganolog hefyd wedi derbyn gwybodaeth allweddol am waith ailddatblygu Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd rhaglen o weithdai a digwyddiadau celf yn parhau mewn lleoliadau eraill drwy gydol cyfnod cau'r oriel.

Cynhelir dosbarthiadau am ddim i bobl dros 55 oed, gweithdai dydd Sadwrn i blant a gweithgareddau dros wyliau ysgol mewn lleoliadau gan gynnwys y Llyfrgell Ganolog, yr YMCA ar Heol San Helen a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe o fis Ionawr 2012.

Erbyn hyn, mae staff Oriel Gelf Glynn Vivian yn gweithio ar raglen benodol o ddyddiadau ac amserau a chaiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau y mis nesaf.

Bydd y tîm arddangosfeydd hefyd yn gweithio gydag artistiaid ar brosiectau ar gyfer ailagor Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2014.

Ariennir y prosiect ailddatblygu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Abertawe.

Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Mae adeilad hanesyddol Glynn Vivian bellach ar gau i'r cyhoedd i baratoi ar gyfer cynllun ailddatblygu cyffrous a fydd yn cadw cymeriad yr adeilad ac yn cynnig profiad ymweld modern.

"Ond mae staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod llawer o wasanaethau'r Glynn Vivian yn parhau drwy gydol y gwaith ailddatblygu. Un o'r camau cynllunio cyntaf yw trosglwyddo'r derfynell Modes i'r Llyfrgell Ganolog a rhoi gwybodaeth i'r staff yno am waith diweddaru'r Glynn Vivian a'r hyn a fydd yn digwydd pan fydd yn cau.

"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i roi'r newyddion diweddaraf am weithgareddau oddi ar y safle."

Ewch i www.abertawe.gov.uk/glynnvivian neu i gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01792 516900.

Rhannu |