Celf
Dosbarth meistr celf gyda Jenny Jones
Bydd yr arlunydd Jenny Jones yn cynnal dosbarth meistr yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor ar ddydd Sadwrn 29 Hydref.
Mae Jenny sydd o Drefaldwyn, Powys yn un o’r arlunwyr sy’n rhan o arddangosfa ‘Naws gan Bethau / Quality of Things’ sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Mae’r arddangosfa yn edrych ar y grym sydd gan wrthrychau o fewn cyd-destun portreadau o fywyd llonydd a ffigyrau gyda gwrthrychau.
Os hoffech chi greu bywyd llonydd eich hun dan arweiniad Jenny Jones yna cysylltwch â’r amgueddfa i neilltuo lle a chael mwy o fanylion. Bydd amrywiaeth o wrthrychau ar gael ond mae croeso i chi ddod ag unrhyw eitem yr hoffech ei ddarlunio gyda chi - dewch a deunyddiau arlunio eich hunain.
Mae lle i ddeg gymryd rhan yn y sesiwn o 10.30am hyd 4pm ar 29 Hydref 2011. Cost £15.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar agor Mawrth-Gwener, 12.30pm – 4.30pm; Sadwrn 10.30am – 4.30pm. Mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth am yr holl weithgareddau sydd ar gael yn Amgueddfeydd sy’n cael eu cynnal gan Gyngor Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd
LLUN: Gwaith gan Jenny Jones a fydd yn cynnal dosbarth meistr yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor