Celf

RSS Icon
29 Medi 2011

Tirluniau dramatig Gwyn Roberts

Dros y blynyddoedd diweddar, daeth Gwyn Roberts yn un o’r artistiaid Cymreig y bydd casglwyr yn ysu am brynu’i waith. Cymharwyd ei baentiadau cyllell baled, o fynyddoedd ac arfordir Cymru, â gwaith y diweddar Kyffin Williams a pharodd ei gariad at onglau a phersbectif eithafol, sy’n gallu codi’r bendro ar rywun weithiau, i awduron mewn cylchgronau cerdded fathu’r enw ‘peintiwr y cerddwyr’ arno.

Yn ei waith diweddaraf, a welir yn Fountain Fine Art, Llandeilo drwy gydol mis Hydref, yr ysbrydoliaeth fwyaf oedd gwyliau cerdded yng ngogledd Cymru dros y Pasg.

“Fe wnes i a fy mab gyfarfod, a chael penwythnos hir yn cerdded yno,”meddai’r artist o Gaerdydd, a fagwyd yn y gogledd. “Fe gawson ni ddiwrnod ardderchog ar y Glyder Fach – mae’n wyllt yno, fel pe bai rhywun wedi ffrwydro’r holl le; mae yna greigiau’n pwyntio i bob cyfeiriad. Mae yna un lle o’r enw Castell y Gwynt, twmpathau mawr o graig yn siâp castell. Mae’n lle rhyfedd a rhyfeddol iawn.”

Hoff fan arall i’r artist yw Lochtyn ger Llangrannog, lle atalnodir yr arfordir gan Ynys Lochtyn greigiog. Doedd Gwyn ddim wedi’i fodloni â pheintio’r olygfa arferol sy’n dangos yr ynys o’r lan, felly llwyddodd i grafangu i ben yr ynys pan oedd hi’n drai er mwyn peintio’r olygfa yn ôl oddi ar yr ynys tuag at y tir mawr.

Yr hyn sy’n ei ysbrydoli bob amser yw dod o hyd i leoliad dramatig a fydd yn cynnig ei hun i fod yn llun da.

“Rhaid i chi ddodi eich hunan yn y lleoliad gorau er mwyn cael yr ymdeimlad yna o ddrama,” meddai Gwyn. “Rydw i wastad yn dringo creigiau bach ar lan yr arfordir, gan chwilio am y llecyn perffaith, ac mi fydda i’n tueddu i greu ffrâm yn fy ymennydd er mwyn i mi allu dychmygu sut fydd y llun yn edrych ar ôl i mi ei orffen.”

Yn ôl yn y stiwdio caiff ei sgestys, ei ffotograffau a’i atgofion eu llunio’n baentiad mawr, y paent wedi’u daenu’n drwchus fel menyn ar hyd y cynfas. Cyllell baled, nid brwsh, y bydd Gwyn yn ei ddefnyddio i roi’r paent ar y cynfas, offeryn y dechreuodd ei ddefnyddio ar ôl iddo gael anaf, ynghyd â chrydcymalau, wnaeth beri i gymal ei fawd stopio symud.

“Yn sydyn, allwn i ddim â gwneud gwaith manwl mwyach. Ro’n i’n ei chael hi’n anodd ysgrifennu, na hyd yn oed ddal pin ysgrifennu, felly dyna pryd y dechreuais i arbrofi gyda chyllell baled, sydd yn uniongyrchol a dramatig iawn.”

Oherwydd ei bynciau a’i hoffter o ddefnyddio’r gyllell, cafodd ei enwi’n olynydd addas i Kyffin Williams; er bod Gwyn yn falch o’r gymhariaeth, mae’n ategu mor wahanol yw ei arddull a’i balet lliwiau i Kyffin.

Mae’n amlwg, serch hynny, bod gwaith y ddau yn rhannu’r un ysbryd anturus, a’r un angerdd dros dirwedd Cymru.

“Pryd bynnag y bydda i’n teithio i ogledd Cymru, mi fydda i’n stopio’n gyson oherwydd bod cymaint i’w weld a gallwch brofi ansawdd y golau a’r awyrgylch yn newid cynifer o weithiau, hyd yn oed mewn un diwrnod, rhwng y gogledd a’r de,” meddai Gwyn. “Mae’n peri i ’nghalon i guro’n gynt pan wela i ddrama’r mynyddoedd a’r arfordir. Mae’n dir pwerus iawn.”

Dywed Richard Braine, perchennog Fountain Fine Art ei fod wrth ei fodd o gael y cyfle i ddangos sioe newydd Gwyn.

“Gwyn yw un o artistiaid byw gorau Cymru a dengys ei waith newydd hynny’n berffaith. Mae e’n gallu cyfathrebu mawredd a harddwch tir a daear Cymru, a’i frwdfrydedd ef drosti hi, mewn arddull sy’n llifo ac sy’n gadarn. Fe wnaeth yr holl gerdded, dringo a chrafangu dalu ar ei ganfed i ni wrth iddo roi cynifer o olygon anarferol a thrawiadol o Gymru i ni."

Llun: Yr Wyddfa o Grig Goch

Rhannu |