Celf

RSS Icon
18 Chwefror 2011

Cyllell yn galluogi artist i ailafael yn ei grefft


MAE e’n cael ei gydnabod yn olynydd i Kyffin Williams ac yn ddiweddar cafodd arddangosfa lwyddiannus iawn yn Stow-on-the Wold pan werthwyd y cyfan o’i waith. Nawr mae Gwyn Roberts ar fin ysgubo Caerdydd gydag arddangosfa o’i beintiadau diweddaraf.

Dros y pedair blynedd diwethaf gwnaeth Gwyn Roberts enw iddo’i hun fel arlunydd delweddau pwerus yn llawn mynegiant o’r tirlun Cymreig. Trwy ddefnyddio cyllell baled, mae ei waith yn cyfleu egni a drama, felly, mae’n syndod clywed yr arferai ei waith fod yn fanwl dros ben..

“Roedd fy arddull yn raffigol ei natur,” dywedodd. “Roeddwn yn arfer gweithio’n fanwl iawn gan ddefnyddio dyfrlliw a gouache i beintio blodau, gwrthrychau ag ati.

“Doedd dim cymhariaeth gyda’r hyn dw i’n wneud nawr.”

Gyda phwysau gwaith athro a magu teulu, doedd dim llawer o amser i wneud ei waith celf, ond roedd Mary Yapp, perchen Oriel Yr Albany yng Nghaerdydd yn benderfynol y dylai ail ddechrau.

“Bob tro roeddwn yn ei gweld, roedd yn gofyn y cwestiwn pryd o’n i’n ail ddechrau peintio, ac yn y diwedd mi wnes i.

“Roeddwn ers blynyddoedd wedi bod eisiau arbrofi efo paent olew trwchus, ond roedd y syniad o wasgu tiwb cyfan o baent drud ar gynfas yn codi ofn arna i drwy feddwl am y gwastraff.”

Trwy lwc daeth o hyd i focs mawr o baent olew ar ei hanner mewn arwerthiant cist car gan feddwl, “Dyma fy nghyfle i gael hwyl, felly dechreuais beintio gan ddefnyddio’r paent yn syth allan o’r tiwbiau ar y cynfas.”

Yna ychydig yn ddiweddarach cafodd ddamwain gyda’i fawd, ac yn dilyn dwy lawdriniaeth roedd ganddo fawd lawer yn llai ac roedd wedi colli’r cymal.

O ganlyniad dywedodd: “Doeddwn i ddim yn gallu dal brwsh ac roedd unrhyw waith arferol yn hynod o anodd a rhwystredig.”

Erbyn hyn, roedd e’n benderfynol o barhau i beintio, felly aeth i chwilio am ei hen gyllell baled.

Galluogodd iddo ddefnyddio paent yn llwyddiannus er y problemau gyda’i fawd.

Canlyniad hyn, oedd iddo ddechrau peintio’n llawn mynegiant ac egni gan edrych am ysbrydoliaeth tuag at fynyddoedd ei ardal enedigol, ac arfordir y Gorllewin.

Roedd Mary Yapp yn falch iawn o’i beintiadau newydd ac o’r ymateb arbennig o dda a gafodd ei waith. Roedd hyn yn ddechrau llwyddiannus iawn i’w yrfa newydd sy’n mynd o nerth i nerth.

Y llynedd cafodd Gwyn arddangosfa un dyn yn un o orielau blaenllaw Lloegr, sef Oriel Y Fosse yn Stow-on-the-Wold. Gwerthwyd ei waith i gyd.

Mae Gwyn yn hynod falch fod ei yrfa greadigol yn ffynnu: “Dw i’n teimlo mor lwcus fy mod yn cael y cyfle i wneud rhywbeth sydd mor bleserus, ac sy’n rhoi mwynhad i eraill. Mae’n hynod o gyffrous.”

Bydd yr arddangosfa yn oriel Albany, Caerdydd hyd at ddydd Sadwrn, Mawrth 5.

 

Llun: Yr artist Gwyn Roberts yn ei stiwdio

Rhannu |