Celf

RSS Icon
16 Medi 2011

Cefnogaeth sylweddol yn hawlio Sickert dros Gymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael un o baentiadau Walter Richard Sickert (1860-1942), o’r enw Pont Rialto a’r Palazzo dei Camerlenghi, tua 1902-04, diolch i grant nawdd sylweddol gan y Gronfa Gelf a chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Gwnaed prynu’r gwaith yn bosibl diolch i gefnogaeth grant o £35,000 gan y Gronfa Gelf, yr elusen genedlaethol sy’n codi arian ar gyfer gweithiau celf, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Derek Williams a haelioni’r gwerthwyr eu hunain. Bydd y cynfas olew hwn yn ategu’r gweithiau Fenisaidd eraill yng nghasgliad yr Amgueddfa gan artistiaid megis Antonio Canaletto, Monet, Whistler, Eugène Boudin, Frank Brangwyn a’r gweithiau a gaffaelwyd yn ddiweddar, Golygfa o’r Palazzo Loredan dell’Ambasciatore ar y Gamlas Fawr, Fenis gan Francesco Guardi a Fenis, y Cyfnos gan Howard Hodgkin.

Mae dau baentiad arall gan Sickert ym meddiant Amgueddfa Cymru, Portread o Dref Camden, 1914-15, a golygfa Fenisaidd arall Palazzo Eleonora Duse, 1904. Mae saith ysgythriad a dau ddarlun yn y casgliad hefyd.

Bydd y paentiad newydd, a brynwyd am £70,000 ar ôl gostyngiadau treth sylweddol, yn ychwanegiad pwysig i’r arddangosfa ‘Celf Brydeinig tua 1900: Edrych tua Ffrainc’ yn yr Amgueddfa. Mae’r gwaith yn dangos yn glir y dylanwadau Prydeinig a Ffrengig y mae’r arddangosiad yn ceisio eu hesbonio. Mae’n esiampl dda o’r dylanwadau ar waith Sickert a’i ddatblygiad o dechnegau arloesol.

Walter Richard Sickert oedd un o’r artistiaid mwyaf dylanwadol yn natblygiad celf ffigurol Moderniaeth Brydeinig dechrau’r ugeinfed ganrif. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, gyda James McNeill Whistler. Treuliodd gyfnodau hefyd yn byw yn Ffrainc a cafodd yr Argraffiadwyr ddylanwad cryf arno, yn enwedig Edgar Degas a Claude Monet. Daeth Sickert yn un o ffigurau blaenllaw'r New English Art Club, ac yn ddiweddarach yn y Camden Town Group ac Euston Road School.

Bu Sickert ar sawl taith hir i Fenis ym 1895, 1896, 1900, 1901, 1903 a 1904. Ym 1898 symudodd o Lundain i Dieppe gan ddechrau ymwneud fwyfwy a chylchoedd celf Ffrainc a Pharis a gadael y New English Art Club ac arddangosiadau eraill yn Llundain, nes iddo ddychwelyd yno yn barhaol ym 1905.

Dywedodd Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol Celf Hanesyddol Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi caffael y llun hwn gan Walter Sickert. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gronfa Gelf am eu cefnogaeth sydd wedi galluogi’r Amgueddfa i fanteisio ar y cyfle prin hwn i brynu paentiad mor nodweddiadol gan artist hynod bwysig.”

Am y tro cyntaf, bydd ystod lawn casgliad y genedl o gelf o safon ryngwladol – cymysgedd o gelf gain a chymwysedig, hanesyddol a chyfoes – yn cael ei dangos o dan un to yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan roi llwyfan newydd i gelf yng Nghymru, a chelf Cymru.

Mae gan yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol chwe oriel drawiadol newydd o gelf gyfoes, sy’n rhoi 40% yn fwy o le i arddangos celf wedi 1950. Tan nawr, dim ond un oriel oedd gan yr Amgueddfa i ddangos ei chasgliad o gelf fodern a chyfoes, un o’r casgliadau pwysicaf yn y DU.

Rhannu |