Celf
Artist yn dod â lliw i fywydau’r plant drwy Genesis
BU artist o Cross Hands yn dod â lliw i fywydau plant sy’n mynychu canolfan plant yn Rhydaman. Bu Donna Grey, un o gyfranogwyr prosiect Genesis, yn gweithio’n ddyfal ar furluniau i blant yng ngardd Canolfan Blant y Blaenau.
Mae’r cyfleuster, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu gofal seibiant i blant sydd ag anableddau dysgu. Mae’r murluniau yn ychwanegu lliw i’r ardd, ac yn darlunio tymhorau’r flwyddyn.
Mae’r rhain, ynghyd â gardd newydd i’r synhwyrau – sy’n cynnwys ffrâm ddringo hygyrch â llithren, siglen ar gyfer cadair olwyn, trampolîn a thwneli – yn golygu bod yr ardal chwarae awyr agored yn lliwgar a deniadol i’r plant.
Prosiect a ariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw Genesis sy’n ceisio gwella bywyd i deuluoedd lleol. Mae tîm Genesis Sir Gâr yn gweithio gyda rhieni sy’n ddi-waith ac yn economaidd anweithgar, gan ganolbwyntio’n benodol ar deuluoedd unig rieni.
Meddai Estelle Etheridge-Lawrence, cydgysylltydd Genesis: “Bu Donna yn rhan o brosiect Genesis ers 2009, ac ers hynny bu’r tîm yn ei chefnogi drwy fentora a chynnig cyngor ac arweiniad, yn ogystal â darparu cymorth ariannol at ofal plant fel y gallai fanteisio ar gyfleoedd i hyfforddi a gwirfoddoli.
“Rydym wrth ein bodd o weld bod Donna wedi defnyddio ei sgiliau a’i gallu er budd y gymuned fel hyn. Mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol iawn.”
Gall Genesis ddarparu cymorth mewn sawl ffordd, megis dangos y ffordd, cynnig cyngor ac arweiniad, hyfforddiant, addysg, gwirfoddoli, gofal plant, hybu hunan-barch a hyder, bod yn rhiant, cwnsela a chymorth ariannol er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant, gwaith, addysg a gwirfoddoli.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Genesis Sir Gâr ar 01554 744340.
Llun: Yr artist Donna Grey yn cwblhau ei murluniau yng Nghanolfan Blant y Blaenau yn Rhydaman. Llun Jeff Connell