Celf

RSS Icon
09 Medi 2011

Arddangosfa ‘Le Chéile’

Cynhelir arddangosfa o waith artistiaid o Gymru ac Iwerddon yn Oriel Ynys Môn, Llangefni rhwng Medi 24 – Tachwedd 6, 2011.

Caiff yr arddangosfa ‘Le Chéile’ ei hagor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Medi 24, 2011 ble bydd hefyd cyfle i gwrdd â’r artistiaid rhwng 12.00 yh – 2.00 yh.

Mae’r arddangosfa hon yn brosiect cydweithredol Cymreig-Gwyddelig: cyfathrebu trwy wneud printiau. ‘Le Chéile’ yw’r Wyddeleg am ‘gyda’n gilydd’, yn yr ystyr o ‘gysylltu’ neu ‘gyfarfod’.

Fe ddechreuwyd y cydweithrediad yn Awst 2004 pan ymwelodd Steffan Jones-Hughes, o’r Stiwdio Printiadau Rhanbarthol yn Wrecsam ac Iwerddon ar grant CCAT Interreg Mynd i Weld. Cyfarfu â Margaret Backer yn Stiwdio Printiadau Leinster lle buont yn siarad am y posibilrwydd o ryw fath o gyfnewid printiadau. Yn dilyn trafodaethau fis Hydref 2006 fe gafwyd cyfnewid ymweliadau rhwng artistiaid yn y ddwy stiwdio.

Cnewyllyn y prosiect hwn oedd stori John Berger o’i gysylltiad trwy ddyluniad gyda Marisa Camino. Mantais i’r ddau oedd nad oeddynt yn siarad yr un iaith.
Fe ddechreuon ynddi ddialog tebyg, lle mae rhai ohonynt wedi ceisio cyfathrebu trwy’r ddelwedd yn unig. Fe ddaeth themâu yn codi o’r tir, iaith a lle yn fannau cychwyn ar gyfer y dialog hon. Roedd y gwaith yn cael ei gyfnewid, ac roedd y broses honno’n parhau, trwy e-bost neu bost, mewn llyfrau nodiadau neu fel proflenni cyntaf.

Yr hyn sy’n gwneud y cydweithrediad hwn yn arbennig o wahanol yw’r ffaith nad yw’r artistiaid bob amser yn gweithio yn yr un lle ffisegol ac felly mae’r gwaith yn cael ei gynhyrchu’n ddilyniannol. Nid oedd yna gyfathrebu wyneb yn wyneb, dim torri ar draws dialog, dim trafodaeth a dim ymateb wedi bod ar unwaith. Mae’r arlunydd oedd yn cydweithredu yn ymateb i’r gwaith sydd o’i flaen ef/hi. Mae’r gwaith o ganlyniad wedi datblygu o bellter, yn araf.


Dywedodd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae’r arddangosfa ddiddorol hon sy’n delio gyda tir, iaith a lleoliad yn dangos nifer o dechnegau printio yn cynnwys printio sgrin, ysgythriad a thorluniau pren”.

“Mae Oriel Ynys Môn yn ffodus iawn o allu arddangos y prosiect cydweithredol unigryw yma gan artistiaid Gwyddelig a Chymreig sydd wedi trafeilio ar draws Cymru, Iwerddon a De Awstralia. Mae’r arddangosfa yn Oriel Ynys Môn yn cy-fynd â digwyddiad Cenedlaethol Y Darlun Mawr sy’n cael ei gynnal ym Mis Hydref ac sy’n hyrwyddo lluniadu gan bobl o bob oed. Yn ystod wythnos o weithgareddau amrywiol bydd hefyd gweithdy penodol ar brintiadu ynghwmni rhai o’r artistiaid syn’ arddangos yn yr arddangosfa”, meddai Pat West, Prif Swyddog – Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn.

Nodyn:

Artistiaid Gwyddelig:
Margaret Becker, Monica de Bath, Pamela De Bri, Rebecca Homfray, Eileen Keane, Eilis McCann, Liam o’Broin, Deirdre Shanley, Sarah Symes.

Artistiaid o Gymru:
Veronica Calarco, Jane Copeman, Alison Craig, Linda Davies, Steffan Jones-Hughes, Eirian Lllwyd, Terry Mart, Jeanette Orrell, Andrew Smith, Diana Williams, Ian Williams.

Mae’r arddangosfa hon wedi bod yn bosib gyda chymorth: ‘Culture Ireland’, Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Argraffu Rhanbarthol, Coleg Yâle Wrexham, Celfyddydau Rhyngwladol, Cyngor Sir Kildare a Stiwdio Printiadau Leinster.

Rhannu |