Celf

RSS Icon
09 Medi 2011

Ysbrydoliaeth Ynys

Eleni mae Oriel Ynys Môn yn dathlu ei phen blwydd yn 20 oed. I gydfynd â’r achlysur arbennig hwn cynhelir arddangosfa unigryw yn Oriel Kyffin Williams yn cyfuno gwaith Kyffin Williams a Charles F. Tunnicliffe.

Mae’r arddangosfa ‘Ysbrydoliaeth Ynys’ ymalen yn Oriel Ynys Môn rhwng Medi 17 – Mawrth 4, 2012. Caiff ei hagor yn swyddogol am 7.00 yh ar nos Wener, Medi 16, 2011.

Mae hanes yr Oriel yn dyddio’n ôl i 1981 pan oedd gwaith Charles Tunnicliffe am gael ei werthu mewn ocsiwn yn Christie’s yn Llundain.

Treuliodd Charles Tunnicliffe, un o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw ei gyfnod, 35 o flynyddoedd ym Malltraeth yn cofnodi bywyd gwyllt ar aber Afon Cefni. Ar ôl ei farwolaeth roedd ei lyfrau braslunio, y lluniau mesuriedig, a’r gweithiau niferus eraill yng nghasgliad personol yr arlunydd bellach yn cael eu cydnabod fel gweithiau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Cynhyrchodd Christie’s, gatalog arbennig gyda’r bwriad o werthu gwaith yr arlunydd, ond ar yr unfed awr ar ddeg prynwyd y cyfan ar wahân i ddeuddeg lot gan Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn, fel yr oedd ar y pryd, gyda chymorth ariannol gan Amgueddfa Victoria ac Albert, Cronfa Olew Shell ynghyd âg ffynonellau eraill. Bu hyn yn fodd i gadw casgliad Tunnicliffe yn gyflawn ar Ynys Môn yn hytrach na’i werthu’n 373 lot unigol.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, adeiladwyd oriel newydd yn gartref i’r casgliad gwych gyda’r bwriad o fod yn ganolbwynt ar gyfer bywyd celfyddydol a diwylliannol yr ynys. Agorwyd Oriel Ynys Môn gan Ei Mawrhydi Y Frenhines ar Hydref 25, 1991.

Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf mae Oriel Ynys Môn wedi esblygu’n sylweddol ac un berthynas arbennig iawn a wnaeth gyfrannu tuag at hynny oedd yr un rhwng yr Oriel â’r artist Kyffin Williams.

Bu Oriel Ynys Môn yn ffodus iawn o gael Kyffin Williams fel hyrwyddwr i’r celfyddydau ym Môn. Roedd yn ymwelydd cyson â’r Oriel a bu’n gefnogwr brwd a gweithgar o waith yr Oriel. Yn ei haelioni, rhoddodd dros 400 o waith celf gwreiddiol i’r Oriel, o sgetys i ddarluniau i waith olew.

Yn sgil y berthynas unigryw adeiladwyd oriel bwrpasal ar gyfer arddangos ei waith. Roedd Kyffin yn gwbl gefnogol i’r cynllun o adeiladu oriel yn ei enw ac yn frwdfrydig yn ei gylch. O’r cychwyn cyntaf bu’n rhan o’r gwaith o ddewis lleoliad a chynllunio’r oriel newydd. Cafodd ei syniadau a’i awgrymiadau eu cynnwys yn y cynlluniau, a dderbyniodd sêl bendith ganddo cyn ei farwolaeth ar 1 Medi, 2006.
Agorodd Oriel Kyffin Williams yn 2008 fel oriel deyrnged i un o artistiaid enwocaf ac uchel eu barch yng Nghymru.

Defnyddir y casgliad o waith a roddodd Kyffin i Oriel Ynys Môn fel sail i raglen arddangos Oriel Kyffin Williams, ynghyd â’i waith sydd ym meddiant sefydliadau ac unigolion eraill.

Mae’r arddangosfa ‘Ysbrydoliaeth Ynys – Kyffin a Tunnicliffe’ yn ddathliad arbennig yno’i hun o waith un o arlunwyr bywyd gwyllt enwocaf ei gyfnod, ac artist arall, oedd heb os, yn un o arlunwyr mwyaf dylanwadol ac uchel ei barch yng Nghymru.

Bydd gweithiau’r arddangosfa yn cynnwys rhai o gasgliad yr Oriel ynghyd â gwaith o gasgliadau preifat a chyhoeddus.

Dywedodd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae Oriel Ynys Môn yn eithriadol o falch o’r casgliadau celf unigryw sydd yn ei mheddiant. Mae’r arddangosfa hon yn deyrnged addas iawn i ddau o gewri’r byd celfyddydol”.

“Hyd yn hyn mae eleni wedi bod yn flwyddyn gyffrous a llewyrchus iawn i Oriel Ynys Môn. Mae’r arddangosfeydd celf a hanesyddol, ynghyd â’r gweithgareddau amrywiol wedi profi’n hynod o lwyddiannus. Dros y blynyddoedd mae nifer o arddangosfeydd o waith Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe wedi addurno waliau Oriel Gelf ac Oriel Hanes Oriel Ynys Môn, ond eleni yw’r tro cyntaf i ni arddangos cyfuniad o waith y ddau artist. Mae’r arddangosfa hon nid yn unig yn dathlu dau brif casgliad celfyddydol yr Oriel, ond mae hefyd yn tanlinellu perthynas unigryw Kyfffin a Tunniclifffe ag Ynys Môn. Dyma ein cyfle ni fel Oriel i ddiolch iddynt hwy am eu cyfraniad amhrisiadwy i gelf yr ynys a sicrhau fod gwaith eu bywyd yn parhau i gael ei fwynhau”, meddai Pat West, Prif Swyddog – Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn.

Rhannu |