Celf
Lluniau Ffydd yn y Morlan
Mae Canolfan Morlan yn Aberystwyth yn trefnu amryw o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn – dramâu, cyngherddau, nosweithiau llenyddol, trafodaethau, clwb ieuenctid ac arddangosfeydd celf. Dros fisoedd Medi a Hydref bydd arddangosfa gelf wahanol i’r arfer i’w gweld yn y ganolfan, sef Lluniau Ffydd. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith gan wyth artist, ac yn cyfleu eu dehongliad nhw o ‘ffydd’. Yr artistiaid yw Cefyn Burgess, Marian Delyth, Anthony Evans, Ruth Jên, Gareth Owen, Kevin Pople, John Rowlands a Diana Williams.
Er bod Morlan wedi trefnu amryw o arddangosfeydd ers ei hagor dros chwe mlynedd yn ôl, dyma’r tro cyntaf i’r ganolfan drefnu arddangosfa fel hyn ar thema benodol.
Dywedodd Carol Jenkins, Rheolwr y Morlan: “Yr ydym yn bwrpasol wedi cadw’r thema’n benagored ac wedi mynd ati i gael trawstoriad o artistiaid yn rhan o’r arddangosfa – o ran arddull, cyfrwng a phrofiad – er mwyn cyflwyno casgliad gwreiddiol ac amrywiol o gelf fydd yn ysgogi ymateb a thrafodaeth. Wrth drefnu’r arddangosfa, nid oedd gennym syniad o ba fath o ddarnau byddai’n cyrraedd yma ond roeddem yn disgwyl cymysgedd o ddelweddau – rhai traddodiadol, rhai cyfoes neu haniaethol, rhai gydag elfen o hiwmor efallai, eraill yn fwy dwys. Nid ydym wedi cael ein siomi.”
I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae Morlan wedi gwahodd wyth o feirdd a llenorion lleol i ymateb i’r gweithiau hyn, gan gynnwys tri phrifardd – Huw Meirion Edwards, Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd John Pritchard. Bydd pob bardd yn cael ei baru gydag artist, ac yn ymateb i waith yr artist hwnnw ym mha bynnag cyfrwng y dymuna – boed hynny’n gerdd, yn llên micro neu’n ddarn o ryddiaith. Yna, ar nos Fercher, 21 Medi, bydd cyfle i glywed a thrafod yr ymatebion hyn mewn ‘talwrn’ gydag Arwel Rocet Jones fel Meuryn.
Ychwanegodd Carol Jenkins: “Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut bydd y beirdd yn ymateb i’r celf, ac a fydd eu dehongliad nhw o’r gwaith yn cyd-fynd â’r hyn oedd ym meddwl yr artist wrth ei greu, neu a fyddan nhw wedi gweld rhywbeth hollol wahanol yno.”
Bydd y cerddi’n cael eu gosod gyda’r darnau celf perthnasol fel bod modd eu darllen a’u trafod yn fanylach dros baned ar ddiwedd y noson. Byddant yn aros wedyn yn rhan o’r arddangosfa nes 15 Hydref.
Llun: 'Ffydd a Chredo' gan Ruth Jen