Celf
Gwaith celf i wella iechyd meddwl
Mae cynllun newydd all helpu pobl sy’n byw efo cyflyrau emosiynol megis iselder neu straen, ar gael trwy Wasanaeth Amgueddfeydd a Chelf Cyngor Gwynedd.
Mae’r cynllun Arteffact arloesol ar gael yng Ngwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych ac wedi ei ariannu drwy CyMAL (Gwasanaeth Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru).
Bwriad y rhaglen yw rhoi hwb i iechyd meddwl a lles emosiynol pobl drwy gynnig gweithdai celf a gweithgareddau creadigol gydag artistiaid proffesiynol yn eu hamgueddfa leol - sef Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor i bobl sy’n byw yng Ngwynedd.
Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ac sy’n seicotherapydd celf dan hyfforddiant: “Mae’n cael ei gydnabod ers tro fod cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a bod yn greadigol o les i ni i gyd.
“Mae’r cwrs deg wythnos yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser yn yr amgueddfa a chreu gwaith celf sydd wedi ei ysbrydoli gan gasgliadau’r amgueddfa. Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn ymuno â grŵp bychan a chefnogol, dan arweiniad artist cymunedol proffesiynol.
“Dyma gyfle i bobl adennill hyder, dysgu sgiliau newydd a rhannu’r profiad gyda phobl newydd.
“Os ydych yn meddwl y byddech chi, neu rywun rydych yn eu hadnabod, yn cael budd o’r cwrs newydd a chyffroes hwn, cysylltwch ag Arteffact am ffurflen gais.”
Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun Arteffact, rhaid i berson gyflwyno manylion gweithiwr iechyd proffesiynol fyddai’n gallu darparu tystlythyr ynglŷn ag unrhyw gyflwr iechyd meddwl, er enghraifft meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, nyrs neu weithiwr cefnogol.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ac i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch ag Annes Sion yn Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu e-bostiwch AnnesSion@gwynedd.gov.uk
LLUN: Gwaith a grëwyd gan grŵp celf cymunedol yn ddiweddar, dan arweiniad yr artist Anwen Burgess sy’n cymryd rhan yn y cynllun Arteffact.