Celf

RSS Icon
06 Mawrth 2017

Cofnod artistig o’r Mametz yn Storiel Bangor

Casgliad o argraffiadau’r yw’r arddangosfa ddiweddara i’w gweld yn Storiel, sydd yn olrhain atgofion o brofiadau synhwyraidd yng Nghoedwig y Mametz.

Cofnod yw’r arddangosfa o’r hyn a ysbrydolodd y ffotograffydd Aled Rhys Hughes gan y tirlun pwysig hwn yn hanes ein gwlad, ble bu i dros 4,000 o filwyr y 38ain Adran Gymreig gael eu lladd, eu hanafu neu ddiflannu ym Mrwydr y Mametz y Rhyfel Byd Cyntaf ar 10 Gorffennaf 1916.

Yn ogystal ag ymateb i’w brofiadau drwy gyfrwng lluniau, mae hefyd wedi ymateb yn uniongyrchol i rannau o gerdd arloesol ac epig David Jones, ‘In Parenthesis’ , sydd yn gofnod o brofiadau dirdynnol y bardd ei hun o’r frwydr, ac un o brif obeithion y ffotograffydd oedd ceisio ateb y cwestiwn: oes gan y dirwedd hon gof o’r hyn ddigwyddodd gan mlynedd yn ôl?

Meddai Aled Rhys Hughes: “Mae’r arddangosfa hon yn benllanw saith mlynedd o brofiadau gweledol a brofais yng Nghoedwig Mametz.

"Yn ystod yr ymweliadau blynyddol ym mis Gorffennaf ceisiais greu delweddau sy’n llawn o’r hyn a welais, a deimlais ac a glywais wrth ymlwybro drwy olion igam ogam hen ffosydd a thrwy’r isdyfiant rhemp.

"Gwnaethpwyd rhai o’r delweddau yn ymatebion uniongyrchol i eiriau ac ymadroddion o 'In Parenthesis', ac eraill i enwau llefydd penodol.

"Ond yn y pen draw delio gyda’r syniad o dirwedd a chof yw’r prif bwrpas, thema sy’n hollbresennol yn fy ngwaith.”

Mae’r arddangosfa yn perthyn i gyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn rhan o raglen Cymru’n Cofio sy’n adlewyrchiad ar goffâd canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth raglen Cymru’n Cofio i’w weld yma: http://www.cymruncofio.org/

Mae’r arddangosfa i’w weld yn Storiel hyd 22 Ebrill. Mae Storiel ym Mangor ar agor Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn o 11am-5pm.

Mae rhagor o wybodaeth am Storiel ar gael ar: http://www.gwynedd.llyw.cymru/Amgueddfeydd a chlicio ar Storiel, neu mae manylion diweddaraf hefyd i’w gweld ar dudalen Facebook Storiel: www.facebook.com/StorielBangor

 

LLUNIAU: Peth o arddangosfa ffotograffig o weithiau Aled Rhys Hughes sydd i’w weld yn Storiel

Rhannu |