Celf

RSS Icon
12 Awst 2011

Ysgogi ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gelf

CYFODI yw enw Arddangosfa gelf yn cyflwyno dau artist ifanc, Osian Rhys Roberts a Phoebe Davenport.

Graddiodd y ddau mewn celf gain ym Mhrifysgol Middlesex, Llundain yn 2010, ond bellach mae’r ddau artist yn byw ac yn gweithio yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Mae Osian Rhys, 24, yn gerflunydd sy’n gweithio gyda gwrthrychau sydd wedi eu canfod ac wedi’u gwneuthuro.

Mae ei waith yn hunangofiannol ac yn trin pynciau megis bywyd, marwolaeth a rhyw. Fe enillydd wobr ysgoloriaeth artist ifanc Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, a chafodd ei waith ei arddangos yn y brifwyl.

Mae Phoebe Davenport, 24, sy’n wreiddiol o Halesworth, Suffolk yn creu gosodiadau trwy gyfres o beintiadau.

Mae ei gwaith yn trafod y ddeuoliaeth rhwng bodolaeth ei hun a phatrymau cymdeithasol ac mae eisoes yn cael ei arddangos yn Oriel Oxford House, Llundain ac yn Oriel MOMA, Machynlleth.

Meddai Phoebe: “Rydym eisiau cyflwyno ein gwaith yn lleol er mwyn ysgogi ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gelf, trwy ddeffro angerdd a hiwmor pobl.

“Mae’r gefnogaeth ’rydym wedi’i dderbyn gan bobl leol wedi bod yn ysbrydoliaeth ynddo’i hun.”

Cyfodi – Caffi Moranedd, Cricieth, agoriad nos Wener, 12 Awst, am 7 o’r gloch.

Rhannu |