Celf
Helfa Gelf
Mae Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf gogledd Cymru wedi derbyn mwy o ymgeiswyr y flwyddyn hon nag erioed o’r blaen, gyda’r cyfanswm o artistiaid sy’n cymryd rhan dros 200.
Mae'r prosiect wedi ehangu eleni i gynnwys Wrecsam ac mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Wythnos Celfyddydau Ynys Môn, ynghyd a Gwynedd, Conwy, Dinbych a Fflint. Mae erbyn hyn yn rhychwantu gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd, felly, ac fe fydd artistiaid yr ardal yn cael cyfle i ddangos eu gweithiau i'r cyhoedd ym mis Medi.
Mae’r Helfa Gelf yn gyfle unigryw i ymwelwyr brofi byd cyfrin yr artist a chael sgwrs am eu bywyd a’u gwaith. Y nod yw gwneud celf yn fwy croesawgar a chyraeddadwy i’r gymuned, ac i gael y cyhoedd yn rhan o’r broses greadigol. Bydd gweithdai galw i mewn yn cael eu cynnal mewn nifer o stiwdios gan gynnig cyfle i bawb gael blas ar wahanol gyfryngau creadigol yn amrywio o baentio, gludweithiau i sideru.
Mae ystod eang o artistiaid yn cymryd rhan y flwyddyn hon, gan amrywio o’r traddodiadol i’r cyfoes, o’r ffigurol i’r haniaethol a’r cysyniadol. Lleolir y stiwdios unigryw ym mhob math o leoliadau, yn amrywio o stiwdios ac orielau wedi eu codi yn unswydd, i siediau gardd ac ystafelloedd cefn, yng nghanol cefn gwlad a chanol trefi prysur ar hyd a lled Gogledd Cymru.
Dywedodd Sabine Cockrill, cydlynydd prosiect Helfa Gelf: “Rwyf wir yn credu bod rhywbeth at ddant pawb. Dros dri phen wythnos ym mis Medi cewch alw i mewn ar beintwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, seiri, crochenwyr, artistiaid tecstil, gwneuthurwyr gemwaith, gwneuthurwyr gwydr, gwehyddwyr basgedi, artistiaid digidol a llawer, llawer mwy, pob un gyda sgil tra unigryw ei hun. Mae hwn yn ddigwyddiad bendigedig i dwristiaid ac i'r gymuned leol fel ei gilydd.”
Mae'r Helfa Gelf yn cael ei chynnal ar benwythnosau'r 2il-14eg, 9fed-11eg, 16eg-18fed a’r 23ain-25ain o Fedi a bydd stiwdios yn agored o 11am hyd 5pm yn ddyddiol. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, mapiau a gwybodaeth artistiaid ymwelwch â’r wefan ar www.helfagelf.co.uk
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy’r Cynllun Datblygu Cefn Gwlad Cymru 2007-2013, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer datblygiad cefn gwlad.