Celf

RSS Icon
11 Hydref 2016

Cefn y Llwyfan: Printiau a lluniau gan John Vivian Roberts

Mae arddangosfa o brintiau a lluniau gan yr arlunydd a'r wneuthurwr printiau John Vivian Roberts (1923-2003) wedi agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Roberts yn Nhredegar, Gwent ac aeth i Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd. Astudiodd yn Ysgol Gelf Caerdydd (1939-42), ac wedyn aeth i'r Coleg Celf Brenhinol (1947-51) i astudio printiau, o dan Robert Austin yn gyntaf (ysgythru) ac wedyn Edwin la Dell (lithograffeg).

Pan oedd Roberts yn y Coleg Celf Brenhinol aeth i gefn y llwyfan yn Syrcas Bertram Mills yn Earl’s Court yn 1948. Ni allasai fod wedi rhagweld cymaint o ddylanwad y byddai'r profiad hwnnw wedi'i gael ar ei gyfeiriad celfyddydol, ac y byddai'r testun yn ysbrydoliaeth iddo am y pum degawd nesaf.

O'r lluniau pensil a wnaed mewn llyfr braslunio bach, clawr-caled, fe ddatblygodd gymeriadau a chyfansoddiadau y dychwelai atynt dro ar ôl tro, gyda gwisg a defodau bywyd y syrcas yn ei gyfareddu am oes.

Ond agwedd benodol iawn ar fywyd yn y Babell Fawr ac o'i chwmpas a'i denai; nid meistr y cylch, dofwr y llewod, yr eliffantod a'r camelod, nac actau'r trapîs na'r llinyn tynn a apeliai ato.

Bron yn ddieithriad teimlai gymhelliad i dynnu lluniau'r dynion a fu'n perfformio - y clowniaid, y corachod a'r acrobatiaid - ddim yn y cylch yn perfformio, ond yng nghefn y llwyfan, wedi gwisgo eu gwisgodd a'u colur, ac yn ymbaratoi at y sioe neu'n ymlacio wedyn.

Roedd yn ymdrin yn sensitif â'u hunigrwydd o dan y miri a'r asbri arwynebol; yr hyn a alwai 'ffaith a ffantasi' bywyd y syrcas.

Mae ei waith yn aros yn dyst i'r arlunydd hynod dreiddgar, a ddangosai gydymdeimlad gwirioneddol yn ei luniau a'i brintiau â'r bobl yn y syrcas roedd yn meddwl amdanynt fel ffrindiau iddo.

Dychwelodd Roberts i Gymru ac aeth ymlaen i ddysgu yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1951-60, cyn iddo ddod yn Bennaeth y Gyfadran Celf a Dylunio yng Ngholeg Polytechnig Lerpwl (sef Prifysgol John Moores erbyn hyn)

Roedd e'n aelod gweithgar o Gymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr Dyfrlliw, yr Academi Frenhinol Gymreig, Academi Celfyddydau Lerpwl ac un o Gymrodyr Cymdeithas Frenhinol yr Ysgythrwyr-Arlunwyr a'r Ysgythrwyr.

Ar ddechrau 2003, derbyniodd Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth Grant Prynu gan V&A/Re:source er mwyn prynu ugain darn o waith gan Roberts ar gyfer ei chasgliad parhaol. Ers hynny mae'r Ysgol wedi llwyddo i gael mwy drwy roddion gan yr arlunydd ei hun a chan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Hunangofiannol ei natur oedd llawer o waith Roberts, ac mae'r arddangosfa hon yn cynnwys portreadau o bobl roedd yn eu caru, gwaith traethiadol am gariad nas dychwelwyd, a darluniadau prudd, ac weithiau iasol, o glowniaid a pherfformwyr y syrcas.

Bydd Cefn y Llwyfan: Printiau a lluniau gan John Vivian Roberts ar agor yn Oriel yr Ysgol Gelf, y Buarth Mawr, Aberystwyth o 10 Hydref – 18 Tachwedd 2016. Mae'r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 i 17:00. Mynediad am ddim.

Llun: 'Backstage, Bertram Mill Circus', ysgythriad, 1949

Rhannu |