Celf

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Hanes yr Hynafiaethwyr

Bydd arddangosfa unigryw am orffennol Môn yn agor i’r cyhoedd yn Oriel Ynys Môn, Llangefni ar 16 Gorffennaf.

Mae’r arddangosfa ‘Hanes Yr Hynafiaethwyr’ yn dathlu canmlwyddiant prif gymdeithas hanes y sir, sef Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn a sefydlwyd yn 1911 ac sydd iddi fri cenedlaethol.

Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol gan Tony Carr, llywydd y Gymdeithas ar nos Wener, Gorffennaf 15, 2011 am 6.00yh. Bydd yr arddangosfa ymlaen tan Rhagfyr 24, 2011.

Mae ‘Hanes Yr Hynafiaethwyr’ yn cynnwys deunyddd na chasglwyd at ei gilydd erioed o’r blaen, yn ffotograffau, llythyrau, archifau dogfennol a darganfyddiadau archaeolegol, yn dangos sut y mae rhai unigolion brwd o’r gymdeithas hon, sydd iddi 700 o aelodau, wedi cyfrannu at ddatgelu gorffennol yr ynys dros y can mlynedd diwethaf. Dechreua’r hanes gydag ymchwiliadau Henry Rowlands o Lanidan yn y ddeunawfed ganrif, a gwaith archaeolegol arloesol yr Anrhydeddus. W.O. Stanley ar Fynydd Twr yn yr 1860au. Yna mae’n trafod darganfyddiadau cynhanesyddol y Gymdeithas yn Nin Lligwy, Pant y Saer a safleoedd nodedig eraill ym Môn, yn ogystal â’i hymchwiliadau dogfennol helaeth eraill a gyhoeddwyd yn flynyddol yn ei Thrafodion yn ddi-dor ers 1911.

Bu llu o haneswyr Cymru yn aelodau o’r Gymdeithas dros y ganrif a aeth heibio, gan gynnwys Syr John Edward Lloyd, Syr Ifor Williams, yr Athro Glyn Roberts a’r Athro Tony Carr. Maent hwy ac aelodau eraill wedi casglu llawer o wybodaeth newydd am orffennol cynhanesyddol a chanoloesol Môn yn ogystal â’i hanes mwy diweddar. Mae’r deunydd yn cynnwys siarteri gwreiddiol, arolygon, data economaidd a dyddiaduron gan bobl megis Elizabeth Morgan a William Bulkeley yng nghanol y ddeunawfed ganrif.
Dywedodd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae’n fraint mawr i Oriel Ynys Môn allu cyflwyno’r arddangosfa arbennig hon a bod yn rhan o gyfnod unigryw yn hanes Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn fel mae’n dathlu can mlynedd ers ei sefydlu”.

“Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno safleoedd a darganfyddiadau cyffrous y rhai a fu’n gweithio i warchod gorffennol yr ynys ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol” , meddai Pat West, Prif Swyddog Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn.

Bellach mae cyrff swyddogol megis CADW, Menter Môn, Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn chwarae rhan bwysig wrth hybu a diogelu’r hanes hwn, sydd yn hanfodol yn awr i economi a thwristiaeth yr ynys. Ceir llu o grwpiau hanes lleol mwy newydd mewn pentrefi megis Talwrn, Cemaes a Phorthaethwy, yn ogystal â chymdeithas fywiog Hanes Teuluoedd Gwynedd.

Bydd yr arddangosfa yn Oriel Ynys Môn yn dathlu gwaith y cyrff hyn i gyd, tra bydd yn canolbwyntio ar weithgarwch Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn fel prif gymdeithas yr ynys.

Meddai’r Athro Robin Grove-White, Uchel Siryf Gwynedd a Môn ac aelod hir ei gysylltiad â’r Gymdeithas “Mae gan yr ynys hanes arbennig o ddifyr, ac mae’r arddangosfa hon yn dangos y rhan arbennig a chwaraeodd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn wrth ddatgelu llawer ohono yn ystod y ganrif a aeth heibio."

Rhannu |