Celf

RSS Icon
01 Gorffennaf 2011

Artist dewis y bobl yn derbyn ei wobr

Yn dilyn cystadleuaeth blynyddol Celf Agored yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, cafodd aelodau o’r cyhoedd a oedd yn ymweld â’r arddangosfa y cyfle i ddewis eu ffefryn ar gyfer gwobr “Dewis y Bobl”.

Eleni y gwaith celf a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau oedd ‘The Boss’ sef darlun pastel o hwrdd gan Christine Sale o Dreffynnon.

Yn ddiweaddar derbyniodd ei gwobr gan Mrs Anne Cooke, gwraig y diweddar Maurice Cooke a oedd yn gyn Uwch Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bangor. Rhoddwyd y wobr gan Gyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar agor Mawrth-Gwener, 12.30pm-4.30pm; Sadwrn 10.30am-4.30pm. Mynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth am yr holl weithgareddau sydd ar gael yn amgueddfeydd sy’n cael eu cynnal gan Gyngor Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

LLUN: Anne Cooke a Jeremy Yates o Gyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd gyda’r artist buddugol Christine Sale

Rhannu |