Celf
Arddangosfa Wynne Melville Jones ar Sgwâr Tregaron
MAE arlunydd o Geredigion a ail-gydiodd yn ei frwsh paent bum mlynedd yn ôl, wedi bwlch o ddeugain mlynedd, nawr wedi dychwelyd i’w dre enedigol i ddangos ei waith.
Mae Wynne Melville Jones, sy’n gweithio o’i gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn, Ceredigion yn gyn- fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin.
Mae’n enw cyfarwydd fel tad Mistar Urdd, a moderneiddiwr y mudiad ac arloeswr ym myd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn sgil cychwyn ei gwmni ei hun StrataMatrix, yr asiantaeth PR ddwyieithog gyntaf yng Nghymru.
Yn dilyn ei ymddeoliad bum mlynedd yn ôl mae bellach wedi llwyr ymgolli yn ei ddiddordeb pennaf – celfyddyd gain, ac yn ystod y cyfnod o bum mlynedd mae wedi cwbwlhau 250 o ddarluniau a’r rhan fwyaf ohonynt yn ddarluniau olew ar ganfas.
Ac yntai yn frodor o Dregaron mae wedi penderfynu dychwelyd i’w dref enedigol i gynnal ei arddangosfa fwyaf eto yn Oriel Rhiannon, ar draws y ffordd i’r tŷ ar sgwâr Tregaron oedd yn gartref i’r teulu yn ystod ei flynyddoedd cynnar.
Meddai: “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i mi wedi blynyddoedd yn rhedeg busnes yn maes marchnata i ail-frandio fy hun fel petai, fel arlunydd, ac mae cael gwahoddiad i arddangos y lluniau mewn oriel mor wych â Siop Rhiannon, a hynny ar sgwâr Tregaron yn gyfuniad rhagorol ar gyfer nodi y garreg filltir hon.
“Cyfathrebu mewn geiriau a delweddau oedd fy mhroffesiwn am 40 mlynedd a’m gobaith nawr yw bod fy lluniau yn cyfleu ac yn cyfathrebu naws a chyfoeth diwylliannol ein treftadaeth gyfoethog yn y cymunedau hyn.
“Rwyn dueddol o baentio beth bynnag sy’n dal fy llygaid ond fy nod o hyd yw ceisio creu celf i bobl ei fwynhau yn ddiymdrech a naturiol. Mae cynnwys nifer o’r llunie yn gyfarwydd i lawer.”
Er mai lluniau wedi eu hysbrydoli gan orllewin Cymru yw mwyfrif y gwaith mae ei gelf wedi crwydro ymhell y tu hwnt i Gymru a gellir gweld ei waith yn gyson yn Llundain.
Gwerthwyd darlun o’i waith o Ynys Llanddwyn i deulu o’r Almaen ac mae ei lun o gapel diarffordd Soar-y-Mynydd ger Tregaron yn nghasgliad celf cyn Arlwydd UDA Jimmy Carter – cofnod o’i ymweliad â Thregaron pan ar wyliau pysgota yng Nghymru yn yr wythdegau.
Dangosir cyfanswm o 56 o luniau yn yr arddangosfa yn Nhregaron ac mae nifer o’r paentiadau yn waith diweddar iawn ac yn cynnwys cyfres o luniau sy’n cyfleu naws, unigrwydd a phrydferthwch naturiol a mynyddoedd Elenydd.
Yn ogystal â’i waith ef ei hun mae wedi cynnwys un darlun ffotograffig o waith Iestyn Hughes, awdur y gyfrol Ceredigion – Wrth fy Nhraed. Mae’r llun wedi ei dynnu yng nghapel Soar-y-Mynydd. Cafodd y gwaith hwn ei gynnwys, gyda un o luniau Wynne mewn arddangosfa o gynnyrch nifer o artistiaid a beirdd i ddathlu deng mlwyddiant Canolfan y Morlan yn Aberystwyth ym mis Mawrth eleni.
“Roedd gwaith Iestyn mor greadigol wych a’r cynnwys yn gwbwl briodol i’w arddangos yn Nhregaron ac mae’n ychwanegiad gwerthfawr a diddorol at fy lluniau i,” medd Wynne.
Mae’r arddangosfa yn Oriel Rhiannon, Y Sgwâr, Tregaron ac ar agor tan ddechrau Gorffennaf ac mae’r mynediad am ddim.
Gellir gweld y lluniau ar yr oriel arlein: orielwynmel.co.uk