Celf

RSS Icon
03 Mehefin 2011

Paula yn cymryd y llyw

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc wedi penodi Rheolwr newydd, Paula Ellis.

 

Mae Paula wedi ymuno ag Oriel y Parc, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn syth o fod yn Gyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata yng Ngwesty a Sba St Brides yn Saundersfoot.

 

Fe weithiodd yn flaenorol i Westy’r Vale a Gwesty a Sba Dewi Sant yng Nghaerdydd yn yr un rôl, yn dilyn cyfnod fel Rheolwr Marchnata ym Maes Awyr Caerdydd.

 

Mae Paula yn gyfrifol am y Ganolfan Ymwelwyr, yr oriel, y siop, a’r Ystafell Ddarganfod a’r Tŵr a ddefnyddir fel lleoliad arddangos ac ystafell gyfarfod gan grwpiau celf lleol a sefydliadau cymunedol. Mae’r atyniad hefyd yn cynnwys caffi sy’n cael ei redeg yn annibynnol.

 

Ar dderbyn ei swydd newydd, dywedodd Paula sy’n hanu o Hayscastle: “Mae hwn yn gyfle gwych i weithio mewn amgylchedd arbennig iawn. Rydw i’n edrych ymlaen yn bennaf at hysbysu pobl o’r cyfle sydd gennym yma yng Ngorllewin Cymru i arddangos casgliad celf o ansawdd uchel.

 

“Mae’n bosib bod pobl yn disgwyl Canolfan Croeso, caffi a siop, ond nid ydynt yn disgwyl gweld oriel o’r safon yma yn Sir Benfro.

 

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gefnogi’r diwydiant twristiaeth yn y rhan hon o Gymru ac adeiladu ar y perthnasau da sydd eisoes yn bodoli. Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn ac rwy’n awyddus i groesawu ymwelwyr.”

 

Ar hyn o bryd, mae arddangosfa rad ac am ddim Oriel y Parc Stories from the Sea yn dangos casgliad o greaduriaid môr gwydr hyfryd gan Leopold a Rudolf Blaschka. Mae’r modeli cain hyn yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru sy’n cynnwys 200 o ddarnau.

 

Mae hefyd yn arddangos darnau gan yr artistiaid Cymreig enwog Ceri Richard a Richard Wilson, yr artist cyn-raffaelaidd Edward Burne-Jones, pobl bwysig o’r ugeinfed ganrif megis Peter Lanyon a David Jones a gwaith cyfoes gan Jem Southam, Jennie Savage a Marcus Coates.

Mae’r arddangosfa newydd hefyd yn cynnwys paentiadau a lluniau gan Graham Sutherland a roddodd gasgliad i Sir Benfro oherwydd bod y tirlun arfordir wedi ei ysbrydoli cymaint.

Rhannu |