Celf
Arddangosfa Elin Jones
Cynhelir arddangosfa o waith yr artist Eleri Jones, yn Oriel Ynys Môn, Llangefni rhwng Mehefin 11 – Gorffennaf 24, 2011.
Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Mehefin 11, 2011 ble bydd hefyd cyfle i gwrdd â’r artist rhwng 12.00 yh – 2.00 yh.
Drwy weithio mewn niferyw o ffurf gwahanol yn amrywio o olew, acrilig, inc, graffait, linocut i brintiadau ‘drypoint’ ar raddfa fawr a bach, mae’r arddangosfa hon o baentiadau, darluniau a gwaith argraffu gan Eleri Jones yn canolbwyntio ar y ‘pethau bach pwysig’.
Prif destun yr arddangosfa yw trugaredd ac arddurniadau o dŷ ei nain a chartref ei rhieni, golygfeydd o sioeau bach lleol a marchnadoedd lliwgar yn India a Nepal.
“Rwyf yn peintio yn sythweledol o be’ sydd o fy amgylch, adegau penodol a golygfeydd rwyf wedi dod are eu draws yng Nghymru neu tra’n teithio dramor,” meddai Eleri Jones
Ymysg pethau eraill a ddarlunir, mae tirluniau o Gymru a thu hwnt ynghyd â bywyd dyddiol y fferm deuluol.
“Yr ysbrydoliaeth mwyaf am fy ngwaith celf yw fy nheulu; fy nghartref; gweld fy rhieni yn gweithio ar y fferm, y ffermdy ei hun a’r holl fanion bethau sydd wedi cael eu pasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae atgofion am fy mhlentyndod, perthnasau gwahanol a’r tirlun o’m cwmpas hefyd yn ysbrydoliaeth mawr i mi. ‘Rwy’n cael fy nenu gan y pethau bach di-sylw sy’n digwydd o’m cwmpas, adegau gonest a phrydferth y dymunwn gadw a phortreadu yn fy ffordd fy hun a’i rannu gyda eraill,” meddai Eleri Jones.
Rhwng 1993 – 1994 mynychodd Eleri Jones gwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai, Bangor ac o’r fan honno aeth ymlaen i ennill gradd BA mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Rhwng 2002 a 2003 derbyniodd PGCE mewn Celf Addysg Uwchradd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Mae wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o Sioeau Grwp ac yn unigol yng Nghymru ac Iwerddon.
Dywedodd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae’r arddangosfa hon gan Eleri Jones yn rhoi ciplun syml o fywyd bob dydd – ac yn arbbenig, ei phrofiadau hi o fyw ynghanol cymdeithas amaethyddol agos”.
“Mae’r arddangosfa hon sydd wedi ei seilio ar atgofion plentyndod Eleri yn wirioneddol fendigedig. Mae’n un sy’n sicr o danio ein hatgofion ein hunain o’r ‘pethau bach pwysig’ hynny oedd yn rhan o’n plentyndod ni.”, meddai Pat West, Prif Swyddog – Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn.