Celf

RSS Icon
03 Mehefin 2011

Arddangosfa arlunwyr Sarn Mellteyrn

FEL penllanw i waith y flwyddyn, mae Arlunwyr Sarn yn trefnu Arddangosfa Haf bob Mis Mehefin yn Neuadd Goffa Sarn Mellteyrn yn Llŷn.

Eleni cafwyd yr agoriad swyddogol ar Ddydd Sul, Mai 29ain pan ddaeth cefnogwyr o bell ac agos i bori’r gwaith mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol dros banad o de a chacen.

Mae dros ugain o aelodau yn perthyn i’r grŵp sydd yn cwrdd ar fore Dydd Mercher drwy’r flwyddyn yn Neuadd Sarn.

Mae pawb yn dilyn ei drywydd ei hun ac rydym yn gweithio mewn sawl cyfrwng mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol.

werthwyd nifer o weithiau ar y Dydd Sul agoriadol ac ymysg y prynwyr oedd yr actor teledu Charles Dale o Dde Cymru, sy’n gasglwr celf brwd.

Mae Arlunwyr Sarn yn arddangos eu gwaith hefyd yn Y Mynydd Gwefru, Llanberis hyd 22ain o Fehefin.

 

Llun:  Yr arlunydd Cadi Thomas gyda Charles Dale

Rhannu |