Celf

RSS Icon
26 Mai 2011

Llinellau cyfathrebu

Mae gwaith yr Arlunydd Sue Arrowsmith yn gweddu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn berffaith – yn ogystal â chreu cyffro yn Oriel y lleoliad.

 

Yn ei gwaith diweddaraf – sy’n cael ei arddangos yn yr Ardd o Fehefin 4ydd – mae Sue yn defnyddio ffurfiau naturiol fel themau i’w phaentiadau a’i lluniau.

 

Gan weithio gyda du yn unig, mae’n taflunio ffotograffau o’r byd naturiol ac yna dargopio’r ddelwedd yn fanwl gan osod marciau gyda’i gilydd mewn pensil a dyfrlliwiau.

 

Ar yr olwg gyntaf, gellir maddau i chi os ydych yn disgrifio’i gwaith yn “fimimol” a/neu’n “unlliw” ond mae gan y digonedd o linellau cain arddull a naws trawiadol; ac mae’r amrywiaethau anghredadwy o gysgod yn ffurfio paled anhygoel.

 

Dywedodd Sue: “Roedd fy ngwaith cynharaf yn cynnwys trwch o linellau paralel a luniwyd ar draws arwyneb gwastad gyda phren mesur. Roedd y gwaith hwn yn hollol haniaethol. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, sylweddolais fy mod am weithio o realiti. Nawr, rwy’n tynnu llun delweddau o’r byd naturiol a’u taflunio. Mae o hyd yna ddigon o goed, planhigion a thiroedd prysg i’w harlunio, ond rydw i’n parhau i ddefnyddio egwyddorion tebyg yng fy ngwaith â phetawn yn creu lluniau haniaethol.”

 

Dyweda nad oes diddordeb ganddi mewn creu ‘lluniau pert’: “Rwy’n gosod marciau gyda’i gilydd, mewn symudiadau sengl er mwyn creu gweadau a rhythmau. Rwy’n gwneud paentiadau mawr o goed helyg gyda symudiadau sengl a dewis brwshis sy’n gweddu’r dasg. Rwy’n gwneud lluniau dyfrlliw yn llorweddol, gyda’r papur wedi’i foddi mewn paent du gwlyb er mwyn caniatau iddo lifo tra’n cadw ychydig o reolaeth. Rydw i’n dargopio fy narluniau mewn un symudiad, gan drin ardaloedd allan o ffocws yn yr un ffordd yn union ag ardaloedd clir.

 

“Er bod natur a’i holl brydferthwch yn fy nifyrru, mae’n gweithredu fel y thema berffaith i ymarfer fy mhaentio a’m lluniadu.”

 

Mae Sue a anwyd ym Manceinion wedi arddangos ei gwaith yn helaeth yn y DU ac Ewrop ers graddio o Goleg Goldsmiths, Llundain yn 1990 gyda Gradd Baglor y Celfyddydau mewn Tecstiliau. Fe enillodd wobrau yn Arddangosfa Lerpwl John Moores 20 yn 1997 a Gwobr Gelf Natwest, Llundain yn 1998, a bu’n Arlunydd Preswyl yn Sefydliad Josef ac Anni Albers, Connecticut, UDA yn 2010. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain.

 

Mae ei sioe yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn rhedeg tan Gorffennaf 31.

Rhannu |