Celf
Astudiaethau'r Buarth
Eleni mae Oriel Ynys Môn yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ac i gyd fynd a’r achlysur arbennig yma mae rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a digwyddiadau wedi eu trefnu.
Un arddangosfa arbennig sydd yn agorfory (Mai 14) yw ‘Astudiaethau’r Buarth’ – gwaith Charles.F.Tunnicliffe, un o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw ei gyfnod.
Treuliodd Charles Tunnicliffe, un o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw ei gyfnod, 35 o flynyddoedd ym Malltraeth yn cofnodi bywyd gwyllt ar aber afon cefni. Ar ôl ei farwolaeth roedd ei lyfrau braslunio, y lluniau mesuriedig, a’r gweithiau niferus eraill ynghasgliad personol yr arlunydd bellach yn cael eu cydnabod fel gweithiau o bwysigrwydd cenedlaethol.
Cynhyrchodd Christie’s, gatalog arbennig gyda’r bwriad o werthu gwaith yr arlunydd, ond ar yr unfed awr ar ddeg prynwyd y cyfan ar wahân i ddeuddeg lot gan Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn, fel yr oedd ar y pryd, gyda chymorth ariannol gan Amgueddfa Victoria ac Albert, ‘National Heritage Memorial Fund’, Cronfa Olew Shell ynghyd âg ffynonellau eraill. Bu hyn yn fodd i gadw casgliad Tunnicliffe yn gyflawn ar Ynys Môn yn hytrach na’i werthu’n 373 lot unigol.
Disgrifiwyd Charles Tunnicliffe fel artist “…gyda llygaid naturiaethwr, calon bardd, llaw’r crefftwr – myfyriwr pob elfen o fywyd naturiol ……” a bydd y casgliad o’r astudiaethau yma sy’n cael ei arddangos yn Oriel Ynys Môn ar hyn o bryd yn tystio hynny.
Dangosir darluniau amrywiol a gynhyrchwyd gan Tunnicliffe ar gyfer y llyfr ‘How to Draw Farm Animals’ a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1947. Bydd esiamplau gwych o anifeiliaid fferm i’w gweld yn amrywio o geffylau, defaid, moch, gwartheg, cŵn a mwy.
Dywedodd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, “Am fwy na hanner canrif, mwynhawyd lluniau Tunnicliffe gan nifer, ac er ei fod yn fwy enwog am ei ddyfrlliwiau godidog o adar a bywyd gwyllt, mae hefyd yn cael ei gydnabod yn eang am ei waith pensil cywrain”.
“Trwy ei waith, gwnaeth gyfraniad sylweddol i wella’n dealltwriaeth o adar, anifeiliaid a bywyd gwyllt yn gyffredinol – mae Oriel Ynys Môn yn ffodus o gael cymaint o waith amrywiol yr artist ”, meddai Pat West, Prif Swyddog – Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r arddangosfa ymlaen yn Oriel Ynys Môn tan Rhagfyr 24, 2011.