Celf

RSS Icon
13 Mai 2011

Dyfodol celfyddyd mewn dwylo diogel

Mae arddangosfa gelf sy’n rhoi cipolwg amheuthun fewn i ddyfodol celfyddyd gain ar agor i’r cyhoedd yn y Galeri, Caernarfon tan yr 20fed o Fai 2011.

Mae arddangosfa 24 Llaw yn arddangos gwaith deuddeg o fyfyrwyr celfyddyd gain ail flwyddyn Coleg Menai, wedi’i dewis gan y Galeri. Mae’r arddangoswyr talentog, hy ac ymrannol yn rhoi sioe flynyddol “sy’n rhaid ei gweld”, ac yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod yn y byd celf gyfoes.

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol ar nos Wener (6 Mai 2011) gan Anders Pleass, Pennaeth Arddangosfeydd clodfawr yng Ngaleri Oriel Mostyn.

“Roedd agor yr arddangosfa wych hon yn fraint ac anrhydedd. Mae’n rhoi cyfle i ni edrych ar beth mae artistiaid newydd yn ei wneud ac yn rhoi blas o ddyfodol celfyddyd gyfoes. Mae hi hefyd yn ddefnyddiol i mi gael rhyw fath o syniad o beth fydd yn llenwi ein galerïau yn y dyfodol agos,” meddai.

Bydd y myfyrwyr yn gobeithio dilyn yn ôl traed rhai o gyn-fyfyrwyr Coleg Menai sy’n cynnwys yr artistiaid buddugol Bedwyr Williams, Elfyn Lewis a’r gof Ann Catrin Evans.

Diolchodd Helen Jones arweinydd y cwrs Celfyddyd Gain BA (Hons), i’r Galeri am “roi’r cyfle prin ac amhrisiadwy i fyfyrwyr arddangos eu gwaith mewn amgylchedd proffesiynol.”

Mae’r arddangosion yn yr arddangosfa eleni yn cynnwys celfyddyd gain, cerfluniau, ffotograffiaeth, fideo a phrint.

Mae’r arddangosfa, sydd ymlaen yn Safle Celf y Galeri tan yr 20fed o Fai 2011, ar agor rhwng 9am – 5pm yn ystod yr wythnos, a 10am – 5pm ar benwythnosau.

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau celf a dylunio sydd ar gael yng Ngholeg Menai, ewch i www.menai.ac.uk neu ffoniwch 01248 383 330

Lluniau
‘Eve Hoyle, 24 mlwydd oed o Lanfair Talhaearn, Abergele, â’i llun o gyfryngau cymysg.’


‘Dion Hamer, 26 mlwydd oed o Lanrug, â’i waith Gosod Fideo. Mae Dion hefyd yn brif leisydd y band newydd We//Are//Animal.’


‘Anders Pleass, Pennaeth Arddangosfeydd, Galeri Oriel Mostyn, yn agor yr arddangosfa yn swyddogol.’


‘Aelodau o’r cyhoedd yn edrych ar ddarn o waith gan Sara Rhoslyn Moore.’.

Rhannu |